{"id":65,"date":"2020-10-05T07:55:20","date_gmt":"2020-10-05T06:55:20","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=65"},"modified":"2022-09-21T09:45:06","modified_gmt":"2022-09-21T08:45:06","slug":"pioneer-farm-model-market-gardener","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-farm-model-market-gardener\/","title":{"rendered":"Y Garddwr Marchnad: Ennill bywoliaeth dda ar fferm fach"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Yn \u00f4l y Ffermwr o Ganada sy\u2019n \u2018Seren y byd Roc\u2019 ni fu amser gwell i ddechrau tyfu.<\/strong><\/h2>\n<p>\u201cMae\u2019n bryd ailddyfeisio amaethyddiaeth, i\u2019w wneud yn addas i ddyn ac yn broffidiol,\u201d meddai Jean-Martin Fortier, sydd wedi dod yn enwog ar lefel ryngwladol am ei fentrau ym maes amaethyddiaeth organig raddfa fach. Ei ddadl yw ei fod yn bosib gwneud bywoliaeth dda o ffermio llai na 2 erw. Mae\u2019r neges honno, a gyhoeddwyd drwy lyfr hynod boblogaidd, yn ymddangos yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau ac ar deithiau nifer o weithiau, wedi ennill enwogrwydd i Jean-Martin sydd yn ddieithr fel arfer i arddwyr; i rai mae\u2019n enwog \u201cFfermwr y Byd Roc.\u201d<\/p>\n<p>Sefydlodd Jean-Martin ei fusnes Les Jardins de la Grelinette, gyda\u2019i wraig, Maude-H\u00e9l\u00e8ne Desroches, yn St Armand, Quebec, Canada. Micro-fferm lewyrchus yw, sy\u2019n cynhyrchu bwyd ffres, organig, llawn maeth ar raddfa cynhyrchiant uwch na ffermydd arferol, ac ar yr un pryd mae\u2019n gwella iechyd a bioamyrwiaeth yr ecosystem leol ac yn cyfrannu at ddyfodol ffermio llawer mwy cyfeillgar o safbwynt ecolegol. Sefydlwyd Les Jardins de la Grelinette yn 2004, ac yn sydyn iawn denodd sylw ar lefel ryngwladol oherwydd y cynhyrchiant a phroffidioldeb rhyfeddol, er taw dim ond 1.5 o\u2019r 10 erw sy\u2019n cael ei drin mewn gwelyau parhaol. Mae\u2019r fferm yn cynhyrchu digon o fwyd i fwydo mwy na 200 teulu\u2019r flwyddyn trwy flychau llysiau bob wythnos a chyfranddaliadau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA); sef system lle mae defnyddwyr yn buddsoddi yn y fferm ac yn rhannu\u2019r costau cynhyrchu, ac yn ei dro, maent yn derbyn cyflenwad rheolaidd o fwyd ffres, lleol. Mae elw gros Les Jardins de la Grelinette dros C$100,000 yr erw, ac mae\u2019r elw gweithredol tua 60%; dywedir ei fod yn gallu \u201ccynhyrchu pum gwaith mwy ar dir pum gwaith llai ei faint.\u201d Yn \u00f4l Jean-Martin Fortier mae\u2019r llwyddiant yn dangos y gall ffermio ar raddfa fach, bio-ddwys gystadlu\u2019n rhwydd gyda neu hyd yn oed rhagori ar gynhyrchiant ffermydd cnydau mawr traddodiadol. A gall olygu eich bod yn hapusach hefyd: \u201cY nod yw cynyddu cynhyrchiant, ond hefyd ansawdd bywyd bob blwyddyn. Rydym am gynhyrchu mwy trwy weithio llai\u201d, meddai Jean Martin.<\/p>\n<figure id=\"attachment_332\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-332 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-scaled.jpg\" alt=\"model-market-gardener-2\" width=\"2560\" height=\"1710\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-1024x684.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-768x513.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-1536x1026.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/2-Jean-Martin-Fortier-officiel-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-2048x1368.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Jean-Martin Fortier. Photo: The Market Gardener<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Astudiodd Maude-H\u00e9l\u00e8ne Desroches astudiaethau amgylcheddol yn y brifysgol; ei nod yw cael ffordd o fyw fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae\u2019n credu fod ffermio organig lleol yn gwireddu hyn: \u201cmae\u2019n bwysig ysbrydoli pobl i fyw mewn harmoni gyda natur. Ym maes amaeth atgynhyrchiol gwelaf botensial ar gyfer gobaith yn y dyfodol ac effaith gadarnhaol yn ein cymunedau.\u201d Daw enw micro-fferm Fortier a Desroches o offeryn garddio traddodiadol, sef \u2018grelinette\u2019 neu fforch lydan. Defnyddir y fforch i balu pridd dwys er mwyn gwella awyriad a draeniad, heb amharu ar strwythur yr haenau pridd, ac felly cadw\u2019r ecosystemau yn y pridd. Oherwydd hyn, mae\u2019r grelinette yn arf effeithiol ar gyfer system ffermio \u2018dim palu\u2019; dull o ffermio a ddefnyddir gan y cwpl ar eu fferm.<\/p>\n<p>Mae\u2019r fferm yn defnyddio model bio-ddwys, raddfa fach, lle caiff cnydau eu tyfu mewn ardaloedd bach dwys er mwyn manteisio i\u2019r eithaf ar y cyfoeth o adnoddau sydd yn y pridd. Trwy ddefnyddio ychydig iawn o beiriannau, mae\u2019r allyriadau carbon yn is, ac ar yr un pryd maent yn dal carbon organig trwy\u2019r ecosystemau bioamrywiaeth a ddatblygir. Enghraifft o \u2018amaethyddiaeth atgynhyrchiol\u2019 yw hyn; sef dull o ffermio sy\u2019n cyfoethogi\u2019r systemau lleol naturiol trwy wella bioamrywiaeth, iechyd y pridd a chefndeuddwr, oherwydd mae pob un o\u2019r rhain hefyd yn cyfrannu at gnydau uwch. Mae\u2019r micro-fferm yn cynhyrchu dros 40 math o lysiau, ochr yn ochr \u00e2 gwartheg, ieir a moch maes am eu cig; a gwerthir popeth yn lleol.<\/p>\n<p>Er mwyn ysbrydoli eraill, cyhoeddodd Jean-Martin lyfr gyda\u2019r teitl\u00a0<a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/blog\/resources-market-gardener-book\/\">The Market Gardener: A Successful Grower\u2019s Handbook for Small-Scale Organic Farming<\/a>, a werthodd 170,000 o gop\u00efau ar draws y byd erbyn 2020; cyhoeddwyd y llyfr mewn 8 iaith, ac enillodd nifer o wobrwyon a chanmoliaeth gan arweinwyr yn y maes. Yn y llyfr mae\u2019n dadlau y gall ffermwyr ennill cyflog chwe ffigur ar ychydig o erwau o dir; dylai\u2019r neges hon apelio at bobl ifanc sydd am ffermio mewn ffordd gynaliadwy ond sy\u2019n poeni na fyddant yn ennill bywoliaeth go iawn. \u201cMae mwy a mwy o bobl yn sensitif i broblemau amaethyddiaeth raddfa fawr, ac yn troi at dyfwyr bach ar gyfer yr atebion. Felly, ni fu amser gwell erioed i ddechrau ffermio; mae angen mwy o ffermwyr yn ein byd. Mae angen i lu o gynhyrchwyr disodli\u2019r drefn o gynhyrchu ar gyfer y lluoedd.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_336\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-336 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-scaled.jpg\" alt=\"model-market-gardener-1\" width=\"2560\" height=\"1770\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-300x207.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-1024x708.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-768x531.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-1536x1062.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Ferme-des-Quatre-Temps-Port-au-Persil-Cre\u0301dit-Le-jardinier-marai\u0302cher-2048x1416.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>La Ferme des Quatre Temps. Photo: The Market Gardener.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Mae Jean-Martin a\u2019i ddulliau arloesol wedi denu sylw sylweddol yn y cyfryngau; a defnyddiwyd yr arfau hyn i ledu\u2019r gair ymhellach eto ynghylch amaethyddiaeth organig, raddfa fach, ac ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl. Llyfr Fortier ysbrydolodd ei <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/resources-market-gardener-masterclass\/\" rel=\"noopener\"><u>gwrs ar-lein<\/u><\/a>, a ddatblygwyd ac a gyhoeddwyd yn 2017; bellach mae miloedd o fyfyrwyr o 56 gwlad wedi ei ddilyn; y nod yw creu cymuned fyd-eang o bobl debyg eu barn gyda\u2019r amcan yn y pen draw o gynyddu poblogrwydd systemau bach lleol i gynhyrchu bwyd ffres ar hyd a lled y byd. Yn \u00f4l Fortier, \u201cmae cynhyrchwyr llysiau bach organig heddiw yn wynebu bwlch go iawn o safbwynt hyfforddiant mewn technegau blaengar. Cwrs ar-lein yw Dosbarth Meistr y \u2018Market Gardener\u2019, sydd yn dysgu trwy ddeunyddiau ysgrifenedig a fideos, yr union fethodoleg, arfau a thechnegau ag yr wyf i\u2019n eu defnyddio i dyfu cnydau\u2019n llwyddiannus.\u00a0\u00a0 Y nod yw symud at y lefel nesaf gyda\u2019r garddio marchnad.\u201d Ochr yn ochr \u00e2\u2019i lyfr a\u2019r cwrs ar-lein, mae Jean-Martin a\u2019i d\u00eem yn gwahodd interniaid i\u2019r fferm i ddysgu trwy brofiadau ymarferol ac mae\u2019r hyfforddeion yn cyfrannu at fywyd gweithio\u2019r fferm a thrwy hynny\u2019n dysgu\u2019r technegau a dulliau sydd wedi arwain at lwyddiant Les Jardins de la Grelinette. Mae Jean-Martin wedi datblygu catalog helaeth ar-lein o arfau llaw sy\u2019n gweithio\u2019n effeithiol ar raddfa fach ac yn cadw uniondeb ecosystemau lleol. Meddai Jean-Martin: \u201cMae offer da\u2019n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr o ran llwyddiant garddwr marchnad. Ar ein fferm ni, rydym wedi arbrofi ers degawd bellach gydag offer a thechnegau gwahanol i weld beth sydd yn wirioneddol gweithio.\u201d<\/p>\n<p>Yn 2015, cafodd Jean-Martin wahoddiad gan y buddsoddwr busnes Andr\u00e9 Desmarais i roi cyngor ar ddulliau cynhyrchu La Ferme des Quatre Temps; sef fferm arbrofol &#8211; ei nod yw profi y gall dulliau ffermio ecolegol raddfa fach fod yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol na rhai amaethyddiaeth gonfensiynol. Pedair erw o dir ffermio sydd gan La Ferme, sy\u2019n arfer dulliau dwys, 60 erw o dir pori mewn cylchdro i anifeiliaid a thai gwydr mawr lle tyfir llysiau trwy gydol y flwyddyn. Rhoddwyd hwb i fioamrywiaeth trwy blannu blodau, creu pyllau ac adeiladu tai adar a chychod gwenyn, ac felly darparu ffynonellau peillio naturiol a dulliau rheoli pla naturiol. Eisoes mae\u2019r fferm yn cyflenwi llysiau ffres organig i lawer o fwytai Montreal, ond am brisiau fforddiadwy &#8211; model ffermio hollol gynaliadwy, y mae Jean-Martin a Mr Desmarais yn awyddus i\u2019w hyrwyddo. \u201cRydym yn chwilio am ffordd i wneud arian a chynhyrchu bwyd maethol da, am brisiau cystadleuol ar gyfer cymdeithas iachach,\u201d meddai Mr Desmarais. Eu gobaith yw sefydlu siop fferm sy\u2019n debyg i \u2018siop gyffredinol\u2019, lle gall defnyddwyr brynu cig organig, cynnyrch llaeth, wyau, llysiau a dyfir yn lleol a chynnyrch a gynhyrchir yn ffres.<\/p>\n<p>Meddai Jean-Martin: \u201cFy mwriad yw ysbrydoli, addysgu a grymuso pobl i gydweithio er mwyn lluosi nifer y ffermydd bach ecolegol ar draws y byd. Yn fy marn i, dyma\u2019r ffordd i greu system bwyd a seilir ar natur a chymuned yn lle gwenwyn a dulliau dinistriol amaethyddiaeth ddiwydiannol. Bwyd sy\u2019n cael ei dyfu gyda gofal, gan ac ar gyfer pobl sy\u2019n poeni,\u201d dywed Jean-Martin.<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am y \u2018Market Gardener\u2019, ewch i\u2019r wefan yma: <a href=\"http:\/\/www.themarketgardener.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.themarketgardener.com<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l Jean-Martin Fortier, ni fu amser gwell erioed i ddechrau tyfu. Cyfle i ddysgu am ei fodel raddfa-fach broffidiol.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":333,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[84,42],"class_list":["post-65","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-market-gardener-model","tag-pioneer-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/65","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=65"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/65\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/333"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=65"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=65"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=65"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}