{"id":698,"date":"2020-10-05T18:27:20","date_gmt":"2020-10-05T17:27:20","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=698"},"modified":"2022-09-21T09:41:41","modified_gmt":"2022-09-21T08:41:41","slug":"pioneer-farm-model-ridgedale","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-farm-model-ridgedale\/","title":{"rendered":"Ridgedale: Ffermio mewn amgylchedd garw, a lledu\u2019r gair"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Arloeswr Youtube yn rhannu neges amaethyddiaeth atgynhyrchiol o\u2019r Gogledd Oer.<\/strong><\/h2>\n<p>Mae Richard Perkins yn barod am her. Mae\u2019n ffermio mewn amgylchedd garw lle mae\u2019r haf yn fyr, a dim ond ychydig o fisoedd sydd heb rew. Er hynny, mae\u2019n rhedeg busnes amaethyddiaeth atgynhyrchiol lwyddiannus ac mae ymhlith rhai o sylwebyddion ac addysgwyr mwyaf poblogaidd y byd amaeth ecolegol.<\/p>\n<p>Richard yw cydberchennog \u2018Ridgedale Permaculture\u2019, fferm fach 10 hectar ar ledred 59\u00b0 Gogledd yng nghanol Sweden, ar linell rhwng Oslo a Stockholm. Yn ogystal \u00e2 ffermio yno, mae wedi ysgrifennu dau <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/regenerative-agriculture-the-complete-guide-for-successful-small-scale-farming-%f0%9f%93%9a\/\"><u>lyfr <\/u><\/a> mae\u2019n rhedeg <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/resources-ridgedale-farm-course\/\"><u>cyrsiau <\/u><\/a> hyfforddi dwys ar thema Permaddiwylliant ac Amaethyddiaeth Atgynhyrchiol, ac mae 100,000 yn tanysgrifio i\u2019w ddilyn ar YouTube. Mae wedi teithio\u2019n helaeth ar bedwar cyfandir yn lledu\u2019r gair am ffermio cynaliadwy ar raddfa fach.<\/p>\n<p>\u201cO ran ffermio, mae amgylchedd Sweden yn arw,\u201d meddai Richard, \u201cdim ond tri mis a hanner y cewch chi heb rew, am ran helaeth o\u2019r amser mae\u2019n dywyll, ar wah\u00e2n i\u2019r haf byr toreithiog pan gawn olau am 24 awr y dydd bron. Er hynny, rydym yn cynhyrchu popeth ar gyfer diet dyn; o gynnyrch llaeth i gig a dyfir ar dir pori i lysiau, ac rydym yn hel madarch a bwydydd gwyllt. Mae gan Sweden gyfoeth o bysgod a chig sy\u2019n crwydro\u2019r coedwigoedd, felly unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn pan nad yw\u2019n bosib tyfu cynnyrch ein hunain, rydym yn canolbwyntio ar gynaeafu\u2019r cynnyrch gwyllt.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_702\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 1087px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-702 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-02-15_orig.png\" alt=\"model-ridgedale-main\" width=\"1087\" height=\"800\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-02-15_orig.png 1087w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-02-15_orig-300x221.png 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-02-15_orig-1024x754.png 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-02-15_orig-768x565.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1087px) 100vw, 1087px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Photo: Ridgedale Farm. <\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Dim ond 25 erw yw Ridgedale ei hun: \u201cDim digon o faint i\u2019w gyfrif fel fferm o ran safonau cyfoes,\u201d meddai Richard. Ond mae\u2019n cynhyrchu digon i drosi mwy na gwerth y fferm a buddsoddiadau bob tymor, ynghyd \u00e2 bwydo\u2019r teulu a th\u00eem o weithwyr parhaol, yn ogystal \u00e2 chyfranogwyr ar gyrsiau hyfforddi yn ystod y tymor tyfu.<\/p>\n<p>Mae Richard yn rhedeg Ridgedale gyda\u2019i bartner Yohanna Amselem sydd \u00e2 gradd mewn Garddio, gan arbenigo mewn Iechyd a Dylunio; mae\u2019n arloesi ym maes byw cydweithredol mewn comiwn yn agos i Stockholm, prifddinas Sweden, a helpodd sefydlu man gwerthu bwyd organig\/lleol a reolir ar sail cydweithfa.<\/p>\n<p>Mae \u2018Ridgedale Permaculture\u2019 yn rhedeg ar sail rheolaeth gyfannol; ffordd o fyw sy\u2019n golygu cynhyrchu cnydau neu dda byw mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau bywoliaeth y ffermwr, ac ar yr un pryd cael effaith atgynhyrchiol gadarnhaol ar yr ecosystem o\u2019u cwmpas. Dyna sylfaen addysg Richard: cyfres o egwyddorion sy\u2019n cynyddu bioamrywiaeth a dal carbon, yn gwella pridd a\u2019r cyflenwad d\u0175r ac yn cyfoethogi\u2019r ecosystem naturiol gan arwain at gnydau uwch ac arferion ffermio mwy cynaliadwy a hyblyg.<\/p>\n<p>Ar y fferm ei hun ceir tir pori, coedwigoedd a nentydd d\u0175r ffres a hyn oll ar dirwedd o lethrau. Mae\u2019n manteisio i\u2019r eithaf ar symudiad naturiol d\u0175r ar draws y dirwedd er mwyn rhoi d\u0175r i\u2019r planhigion. Ni ddefnyddir technegau palu i dyfu\u2019r llysiau, nid yw\u2019r tir yn cael ei aredig o gwbl ar y fferm hon. Mae\u2019r anifeiliaid maes yn cael pori stribedi amaeth-goedwigaeth, sy\u2019n cynhyrchu ffrwythau, cnau ac aeron.<\/p>\n<p>Fel eglura Richard: \u201cMae cyflwr y pridd yn hollbwysig i ddyfodol unrhyw systemau amaethyddol; os nad ydych yn cyfoethogi\u2019r pridd, bydd pethau\u2019n mynd ar i lawr. Nid peth newydd yw hyn; mae pobl wedi bod yn ymwybodol o sut i gynnal iechyd y pridd ers oes. Er gwaetha\u2019r holl siarad fod amaethyddiaeth yn ddinistriol, mae\u2019r byd wedi cael ffermwyr da ers miloedd o flynyddoedd, ac mae angen inn ddefnyddio dulliau gwyddonol cyfoes o ran rhai o\u2019r hen egwyddorion hyn. Ac mae angen inni ystyried yr holl systemau sydd angen anifeiliaid, planhigion unflwydd a lluosflwydd. Does dim modd osgoi hynny os ydych am gael ecosystem sy\u2019n atgynhyrchu ac yn meithrin iechyd ac amrywiaeth. Y fantais fawr yw ei bod mor rhwydd meithrin iechyd y pridd; mae\u2019n hawdd ei ddinistrio, ond hefyd mae\u2019n rhwydd ei gyfoethogi.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_706\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 1063px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-706 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-14-20_orig.png\" alt=\"model-ridgedale-2\" width=\"1063\" height=\"800\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-14-20_orig.png 1063w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-14-20_orig-300x226.png 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-14-20_orig-1024x771.png 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/screen-shot-2019-11-02-at-08-14-20_orig-768x578.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1063px) 100vw, 1063px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Photo: Ridgedale Farm. <\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Wrth ymweld \u00e2 Ridgedale, gellir dysgu am ddylunio fferm, garddio marchnad, dofednod sy\u2019n pori a llawer mwy yn ystod y tymor tyfu prysur. Bydd cyfranogwyr yn aros ar y fferm, mewn llety priodol, gan ddefnyddio bwyd ffres yn syth o\u2019r caeau wrth goginio, a chyfrannu at redeg y fferm bob dydd ochr yn ochr ag astudio. Yn \u00f4l Richard: \u201cEr taw ein prif gyfrifoldeb yw atgynhyrchu ein tirwedd, prosesau ein hecosystemau a\u2019n priddoedd trwy fentrau amaeth cydnerth, dyblygiadol, sy\u2019n gallu tyfu yn \u00f4l yr angen a phroffidiol, ein hail swyddogaeth yw addysgu, hwyluso, hysbysu a grymuso pobl i weithredu trwy ddyluniadau atgynhyrchiol, mentergarwch a gwneud penderfyniadau mewn ffordd gyfannol sy\u2019n meithrin ac yn ysgogi\u2019r gymuned leol, yr economi a chydnerthedd. Rhan o\u2019r weledigaeth yw gallu cynnig profiadau i bobl sy\u2019n gallu grymuso\u2019r agwedd tuag at ddylunio, a\u2019r sgiliau ymarferol sydd yn ein barn ni yn angenrheidiol i wneud elw wrth ffermio. Mae\u2019r potensial i hwyluso\u2019r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc i sefydlu mentrau proffidiol ar y tir yn achos cyffro mawr inni.\u201d<\/p>\n<p>Mae gan Richard Ddiploma mewn Dyluniad Permaddiwylliant (DU) a HND mewn Cynhyrchu Cnydau Organig (DU). Mae wedi astudio\u2019n helaeth mewn nifer o feysydd gan gynnwys dylunio Permaddiwylliant, rheolaeth gyfannol, Garddio Marchnad Heb balu a Dyluniad Allweddlin. Mae wedi arwain 50 o gyrsiau dylunio Permaddiwylliant, ac wedi cyfrannu at dros 160 o brosiectau amaethyddol ar hyd a lled y byd. Ac erbyn hyn mae\u2019n lledu\u2019r gair ar draws y byd am amaethyddiaeth gynaliadwy, ac yn gwahodd eraill i ymuno ag ef. Ceir mynediad at 80 awr o hyfforddiant ar-lein ar Ddylunio Permaddiwylliant ac Amaethyddiaeth Atgynhyrchiol trwy danysgrifio neu gellir prynu copi clawr caled o <a href=\"https:\/\/www.regenerativeagriculturebook.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"><u>lyfr <\/u><\/a> Richard neu E-lyfr ar ffurf PDF o\u2019r wefan. Hefyd mae Richard yn teithio ar draws Ewrop i ddarlithio a mynychu seminarau. Ac mae\u2019n cynhyrchu ffilmiau am brosiectau amaeth cynaliadwy llwyddiannus eraill, pan fydd yn gofyn i\u2019w gyd-ffermwyr am fanylion o ran cyllid, heriau a phroblemau. \u201cMae\u2019n rhaid inni gadw popeth yn real,\u201d meddai, \u201cmae\u2019n ffordd wych i gasglu peth wmbreth o wybodaeth, sydd ar gael am ddim i\u2019r byd cyfan.\u201d<\/p>\n<p>Dywed Richard: \u201cRoeddwn yn gwybod fy mod i am ffermio ers pan roeddwn yn ifanc iawn, ar \u00f4l dysgu gan Sipsiwn Romani yn y DU sut i fyw oddi ar y tir mewn ffordd gynaliadwy. Gellir dysgu llawer iawn wrth edrych yn \u00f4l, o systemau sydd wedi gweithio yn y gorffennol cyn i\u2019r farchnad bwyd byd-eang newid popeth.\u201d<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am Lyfr neu Gyrsiau Richard, neu am Ridgedale Farm, ewch i\u2019r wefan ar: <a href=\"http:\/\/www.ridgedalepermaculture.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"><u>www.ridgedalepermaculture.com <\/u><\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o arloeswyr Youtube yn rhannu neges amaethyddiaeth atgynhyrchiol o\u2019r Gogledd rhewedig.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":704,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[42,85],"class_list":["post-698","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-pioneer-model","tag-ridgedale-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/698","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=698"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/698\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/704"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=698"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=698"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=698"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}