{"id":709,"date":"2020-10-01T20:55:53","date_gmt":"2020-10-01T19:55:53","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=709"},"modified":"2022-09-21T09:53:16","modified_gmt":"2022-09-21T08:53:16","slug":"pioneer-farm-model-urban-farmer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-farm-model-urban-farmer\/","title":{"rendered":"The Urban Farmer: Curtis Stone yn ennill cyflog da heb ei dir ei hun"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Tyfu busnes amaethyddol trefol llwyddiannus heb fod yn berchen ar unrhyw dir o gwbl.<\/strong><\/h2>\n<p>Wrth feddwl am ffermwr, \u2018cefn gwlad\u2019 a \u2018tirfeddiannwr\u2019 sy\u2019n dod i\u2019r meddwl, ond yn achos Curtis Stone, mae\u2019n hollol wahanol. \u2018Y Ffermwr Trefol\u2019 yw ei enw ar gyfer ei hun, ac mae\u2019n rhedeg busnes ffermio llwyddiannus mewn dinas ar 1\/3 erw <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/pioneer-farm-model-urban-farmer\/#_ftnref1\">*<\/a>, nad yw\u2019n ei berchen.<\/p>\n<p>Curtis yw sylfaenydd fferm Green City Acres yn Kelowna, British Columbia. Mae\u2019n herio ffiniau amaethyddiaeth draddodiadol trwy ennill CAD$100,000 trwy dyfu planhigion ifainc, bwydydd salad, tomatos bach a gwreiddlysiau bach yng ngerddi pump o\u2019i gymdogion. Am adael iddo ddefnyddio\u2019r tir, maen nhw\u2019n derbyn basgedi bwyd am ddim, ac mae Curtis yn gwerthu gweddill ei gynnyrch mewn marchnadoedd ffermwyr ac i fwytai cyfagos. Mae\u2019n ddigon i gadw dau mewn gwaith llawn amser yn ystod y tymor tyfu ac mewn gwaith rhan amser am weddill y flwyddyn.<\/p>\n<p>\u201cMae pobl am brynu bwyd gan y ffermwyr, mae\u2019r cysylltiad yn bwysig iddyn nhw,\u201d meddai Curtis, \u201cmaen nhw am wybod o le mae\u2019n dod, ac mae\u2019r bwytai\u2019n fodlon talu prisiau uchel amdano. Mae cymaint o alw yn y ddinas am fwyd lleol. Mae gan ffermio trefol y potensial i greu system hollol newydd yn y ddinas hefyd. Gall pobl ifanc wneud hyn heb orfod prynu tir, oherwydd mae lawntiau a mannau gwyrdd eraill o gwmpas, a digon o le i bobl eu defnyddio i dyfu bwyd.\u201d<\/p>\n<p>Yr enw ar y dull hwn o ffermio yw ffermio Dwys ar Leiniau Bach (SPIN). Ei nod yw cynhyrchu mwy o gnydau na\u2019r cyfartaledd ar fannau gwyrdd bach gyda chostau sefydlu hynod isel &#8211; dull sy\u2019n ddelfrydol ar gyfer amgylchfyd trefol. Mae Curtis yn plannu cnydau sy\u2019n tyfu\u2019n gyflym ac yn eu cylchdroi\u2019n rheolaidd; ar \u00f4l cynaeafu un cnwd, mae\u2019n plannu cnwd arall ar unwaith. Mae\u2019n defnyddio tai gwydr i ymestyn y tymor tyfu a maint y cnwd a gynhyrchir. Trwy ganolbwyntio ar lysiau uchel eu gwerth, mae wedi llwyddo i ehangu gwerth ei fusnes heb orfod defnyddio mwy o dir na\u2019i lwyth gwaith. Curtis sy\u2019n cludo mwyafrif ei gynnyrch ar ei feic. Gellir ei weld yn rheolaidd yn tynnu trelar o lysiau ac offer amaethyddol o gwmpas. Yn 2012 dim ond 80 litr o danwydd a ddefnyddiodd trwy gydol y flwyddyn i gynhyrchu ei fwyd.<\/p>\n<p>\u201cMae popeth a wnawn mewn bywyd, boed yn prynu diod mewn can, gyrru\u2019r car, beth bynnag &#8211; yn ddinistriol. Mae cyrraedd y pwynt lle mae popeth a wnawn yn adlewyrchu\u2019r hyn sy\u2019n digwydd ym myd natur yn achos cyffro mawr imi; mae popeth yn creu mwy o fywyd, yn cynyddu ffrwythlondeb y tir, yn puro\u2019r aer. Yn fy marn i nid peth amhosib yw cael economi fel hyn,\u201d meddai.<\/p>\n<figure id=\"attachment_714\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2258px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-714 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839.jpg\" alt=\"urban-farmer-1\" width=\"2258\" height=\"1500\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839.jpg 2258w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839-300x199.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839-1024x680.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839-768x510.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839-1536x1020.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/P075-micros_20150430-Green-City-Acres-4839-2048x1360.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2258px) 100vw, 2258px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Curtis Stone with microgreens. Photo: The Urban Farmer.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Mae gan Curtis bellach nifer o ddilynwyr ar lefel ryngwladol fel \u2018The Urban Farmer\u2019 oherwydd ei ddulliau ffermio a marchnata arloesol. Mae mwy na 40,000 yn ei ddilyn ar Instagram ac mae bron 400,000 yn tanysgrifio i\u2019w sianel YouTube. Ond nid fel hyn y cychwynnodd pethau; doedd gan Curtis ddim profiad blaenorol o ffermio; \u2018artist aflwyddiannus\u2019 oedd o yn ei eiriau ei hun, fu\u2019n gweithio yn plannu coed yn ystod yr haf i dalu am ei yrfa gerddorol. Cychwynnodd ei daith i\u2019r byd ffermio trwy fynd ar daith beic 4000-cilometr rhwng Kelowna a Tijuana, lle bu\u2019n ymweld \u00e2 ffermydd ac ecobentrefi a magu\u2019r awydd i fod yn hunangynhaliol. \u201cRoeddwn yn awyddus i adael, cymaint \u00e2 phosib, y peiriant dinistriol byd-eang.\u201d<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gall mentro i fyd amaethyddiaeth draddodiadol fod yn her; mae cael hyd i dir i gychwyn yn ddrud, ac yn aml bydd angen morgais neu fenthyciad. \u201cRoeddwn am fod yn dyddynwr, ond sut mae gwireddu\u2019r freuddwyd honno os na fedrwch chi fforddio prynu tir\u2026 doeddwn i ddim yn barod i ymrwymo i forgais am 30 mlynedd er mwyn cael byw oddi ar y tir, a gweithio i\u2019r banc.\u201d Yn lle dilyn y llwybr traddodiadol, penderfynodd Curtis roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Diolch i ysbrydoliaeth Wally Satzewich, a sefydlodd Ffermio SPIN, dechreuodd Curtis trwy rentu tir gan berchnogion tai lleol yn y ddinas i gychwyn ei fenter tyfu. Trwy ddilyn dulliau a thechnegau ffermio traddodiadol, gwnaeth elw gweddol fach yn y flwyddyn gyntaf. Er hynny, amcangyfrifodd fod ei gyflog yr awr yn llai na CAD$1.50. Roedd yn amlwg y byddai\u2019n rhaid i rywbeth newid. Treuliodd misoedd yn ymchwilio i dechnegau ffermio dwys, yn gwella\u2019r cyfleusterau storio a\u2019r ffordd o brosesu ei gynnyrch a marchnata i siopau bwyd lleol, ac yn ystod ei ail dymor, enillodd CAD$61,450 gros; dros deirgwaith yr hyn a enillodd y flwyddyn gynt.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019w lwyddiant, ysgogwyd Curtis i estyn allan a thynnu eraill i fyd amaethyddiaeth drefol gynaliadwy. \u201cOs nad ydw i\u2019n ffermio, \u2019dwi\u2019n siarad am ffermio. Byddaf yn teithio ac yn cyflwyno gweithdai a darlithoedd mewn prifysgolion ac yn ceisio ennyn diddordeb pobl ifanc i wneud hyn\u2026 \u2019dwi am gyfrannu at newid cymdeithasol.\u201d Ar ei wefan bersonol,\u00a0<a href=\"https:\/\/theurbanfarmer.co\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">theurbanfarmer.co<\/a>, gellir archebu lle ar gyrsiau a gweithdai amrywiol ar thema amaethyddiaeth drefol. Mae Curtis a Luke Callahan o gwmni \u2018Local Business Plans\u2019 sy\u2019n helpu busnesau bach i lwyddo, wedi datblygu <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/blog\/resources-profitable-urban-farming-course\/\">cwrs 10 wythnos hunanastudiaeth<\/a>. Mae\u2019n tywys cyfranogwyr trwy\u2019r camau i sicrhau fod eu menter amaethyddiaeth drefol yn llwyddo.<\/p>\n<p>Hefyd mae Curtis wedi cyhoeddi llyfr, \u2018<a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/resources-urban-farmer-book\/\">The Urban Farmer<\/a>\u2019, \u201cllawlyfr ymarferol i\u2019ch helpu dysgu\u2019r technegau a strategaethau busnes fydd eu hangen i wneud bywoliaeth dda trwy dyfu cnydau uchel eu gwerth a chnwd yn eich gardd eich hun &#8211; neu yng ngardd rhywun arall.\u201d Gellir prynu\u2019r llyfr ynghyd \u00e2 llyfr clywedol a phecyn offer digidol sy\u2019n cynnwys cyfres o 9 fideo gyda gwersi o\u2019r cwrs ar-lein, neu wrth ei hun am ychydig llai na USD$20. Yn debyg iawn i\u2019r cwrs, mae\u2019r llyfr yn canolbwyntio ar fodelau marchnata a thwf busnes llwyddiannus i helpu cynhyrchiant, ac yn rhoi manylion am gostau, datblygu busnes a\u2019r technegau delfrydol i sicrhau\u2019r cnydau a\u2019r cynhyrchiant gorau er mwyn gwneud elw. \u201cMae sut i ddylunio\u2019r ardd a sut i ddylunio\u2019r fferm yn llwyr ddibynnol ar yr hyn mae\u2019r farchnad ei eisiau, ond dyna fantais fwyaf ffermio yn y ddinas &#8211; rydych yng nghanol y farchnad hefyd.\u201d<\/p>\n<p>A neges Curtis i bawb sy\u2019n ystyried symud tuag at ffordd o fyw hunangynhaliol?: \u201cMae angen inni ddechrau tyfu ein bwyd ein hunain, tyfu pethau a chreu\u2019r byd corfforol lle rydym am fyw. Mae hynny\u2019n golygu torchi llewys. Mae\u2019n rhaid i bawb gyfrannu.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy am gyrsiau Curtis ar:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.greencityacres.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.greencityacres.com<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/profitableurbanfarming.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.profitableurbanfarming.com<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/theurbanfarmer.co\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">theurbanfarmer.co.<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/pioneer-farm-model-urban-farmer\/#_ftnref1\">*<\/a>\u00a0<em>DS: mae anghysondeb rhwng \u00bc erw a 1\/3 erw a throsiant o 75,000 a 100,000 rhwng y wefan a\u2019r fideo.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Tyfu busnes amaethyddol trefol llwyddiannus heb fod yn berchen ar unrhyw dir.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":713,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[42,88],"class_list":["post-709","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-pioneer-model","tag-urban-farmer-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/709","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=709"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/709\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/713"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=709"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=709"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=709"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}