Cig oen lleol a milltiroedd bwyd isel
Mae Mick Wright yn magu ŵyn o fewn 3 milltir i Grug Hywel ers 1986 ac mae wedi cyflenwi siop Cashells ar Stryd Fawr Crug Hywel ers dros 30 mlynedd. “Es i â choes cig oen i’r siop i’w ddangos i Mike ac maen nhw’n prynu gennyf ers hynny,” meddai Mick.
Roedd Mick yn arfer cyflenwi 15-20 oen i siop Cashells bob wythnos, ond mae pobl yn bwyta llai o gig coch erbyn hyn, ac maen nhw’n anfon 10 oen yr wythnos bellach o’r fferm ger Tretŵr i gael eu lladd yn Nhalgarth, rhyw 9 milltir i ffwrdd.
“Mae taith fyrrach yn golygu llai o straen i’r anifeiliaid,” meddai Mick, “mae’r ŵyn yn aros ar y caeau nes inni fynd â nhw ar daith o 20 munud i’r lladd-dy.”
Yn ôl mab Mick, David, mae hyn yn golygu fod y cig yn well: “Os bydd ŵyn yn mynd i’r farchnad hwyrach y byddan nhw yn yno nes i’r prynwr drefnu cludiant. Wedyn, efallai y bydd angen eu gyrru i ben draw’r wlad i’r lladd-dy. Mae hynny’n golygu llawer mwy o straen i’r anifeiliaid, a gall hynny effeithio ar ansawdd y cig.”
Erbyn i Cashells gasglu’r carcasau, bydd y cig wedi teithio llai na 20 milltir o’r cae i siop y cigydd. Maen nhw hefyd yn cyflenwi cigydd arall yn Aberhonddu trwy drefniadau tebyg.
Ond nid yw mor effeithlon i’r ffermwr ddefnyddio’r dull yma i gyflenwi cig. “Os byddwn yn mynd â 50 oen i’r farchnad, rydym yn cael gwared arnynt yr un diwrnod, ac yn derbyn tâl am bob un ohonynt mewn wythnos efallai. Ond mae mynd â nhw i’r lladd-dy’n golygu taith bob wythnos i Dalgarth. Ond mae’n braf gallu mynd i siop y cigydd a gweld eich cynnyrch chi ar y cownter a gwybod taw dyna’r cig gorau posib,” meddai Mick.
Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media
Cig Oen Mick & David Wright
Cynhyrchydd- Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad | Tretower, Crug Hywel |
---|---|
Gwefan | cashells.co.uk |
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma |