Paul’s Organic Vegetables

Ffermwr lleol yn hel llysiau am 3.30am, i gael cynnyrch ffres i’r farchnad

Tyfwr organig yn gwerthu i’r bwytai gorau a chwsmeriaid deallus mewn blychau llysiau ffres.

Mae Pawel Wisniewski yn codi’n gynnar. Gellir ei weld am 3.30 y bore ar y caeau 16 erw ger y Fenni lle mae’n tyfu llysiau organig, yn hel y cynnyrch i fynd allan yr un diwrnod. Mae’n rhedeg ‘Paul’s Organic Vegetables’ ers 7 mlynedd bellach ac yn cyflenwi bwyty’r Walnut Tree sydd â seren Michelin, marchnadoedd yng Nghaerdydd a Brynbuga, ac yn ddiweddar mae wedi dechrau cyflenwi blychau llysiau organig i gwsmeriaid lleol, gan gynnwys rhai yng Nghrug Hywel.

“Rwyf yn gwarantu ffresni 24 awr. Rydym yn codi am 3.30am i hel llysiau cyn mynd i’r marchnadoedd neu cyn inni bacio’r blychau llysiau. Mae’r cynnyrch yn fwy ffres, yn blasu llawer gwell ac mae’n well ichi nag unrhyw beth sydd ar gael yn yr archfarchnad. Unwaith mae’r llysiau’n gadael y pridd, maen nhw’n dechrau colli ansawdd a gwerth maeth. Wrth gwrs mae’n fwy cyfleus i bobl siopa yn yr archfarchnad na dod i’r fferm, ond mae llysiau archfarchnadoedd allan o’r pridd ers dyddiau neu wythnosau weithiau, a does dim modd iddyn nhw fod cystal â’n llysiau ni,” meddai Pawel.

O safbwynt prisiau, yn ôl Pawel mae’n curo prisiau organig yr archfarchnad, er mae cynnyrch nad yw’n organig yn rhatach. Mae cwsmeriaid blychau llysiau’n tanysgrifio trwy ebost, ac maen nhw’n derbyn rhestr bob wythnos gan Paul’s Organic Vegetables o’r llysiau sydd ar gael er mwyn dewis.

“Mae’r blychau’n dymhorol, beth sydd ar gael ar y pryd, felly mae pobl yn gallu dewis o’r hyn sy’n barod yn y cae ar y pryd. ’Dwi ddim am fewnforio o’r Eidal neu Sbaen i gael dewis ehangach, ’dwi eisiau gwerthu’r cynnyrch fesul tymor, oherwydd mae’n well ac yn fwy naturiol.”

Mae Pawel yn derbyn nad yw hyn efallai’n addas i rai siopau a bwytai sydd am gael cyflenwad pendant trwy gydol y flwyddyn. Ond, gellir goresgyn rhai o’r problemau hyn o ran cyflenwi, os byddai tyfwyr yn cydweithio i gynhyrchu cnydau gwahanol yn eu tro a rhannu’r cynnyrch.

Meddai Pawel: “I fod yn hollol agored, mae tyfu rhyw 35 neu 45 o fathau llysiau gwahanol a gofalu amdanynt yn anodd tu hwnt. Os byddai pob cynhyrchydd yn tyfu 10 math yr un, byddai’n bosib cael cnwd perffaith ac ansawdd o’r radd flaenaf a ffresni’r un pryd. Ac os byddai pawb yn gwneud hynny, byddai pawb yn hapus.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Paul’s Organic Vegetables

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Mitchel Troy, Trefynwy NP25 4JH
Gwefan www.facebook.com/paulsveg
Ffôn 07599476665
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.