Richards Butchers of Crickhowell

Yn ôl cigydd o Grug Hywel - Defnyddwyr fydd yn achosi newid i’r busnes cig

Mae FE Richards yn cyflenwi 22 gwesty a bwyty gyda Chig Oen ac Eidion Cymreig o safon

Mae tref Crug Hywel yn ffodus iawn i gael dau gigydd. Ond nid yw pobl yn ymwybodol fod gan siop Richards ar ben y Stryd Fawr, system enfawr yn y cefndir sy’n cyflenwi cig i lawer o westai a bwytai mwyaf poblogaidd yr ardal.

Mae Lee Naylor a Christine ei phartner yn rhedeg Richards ers pum mlynedd bellach, gyda chymorth tri chigydd arall. Mae’r holl gig a werthir ar y cownter yn dod o Gymru.  Daw’r cig eidion o Ladd-dy W.J. George yn Nhalgarth, sy’n prynu gan ffermydd lleol.  Gan gwmni Brodyr Jones yn Wrecsam y daw’r cig oen.  Ac mae sticer ar y cownter yn cyhoeddi eu bod yn gallu cadarnhau ffynhonnell y cig Cymreig, gyda bwrdd du ar y wal yn nodi’r rhifau perthnasol er mwyn gallu olrhain cynnyrch pob cyflenwr.

Yn ôl y cigydd  Paul Jones: “Mae’r holl gig oen ac eidion ar y cownter yn dod o Gymru, oherwydd dyna beth mae pobl leol yn ei hoffi.  Oherwydd y nifer fawr o westai a bwytai rydym yn eu cyflenwi, daw rhywfaint o’r cig iddyn nhw o bellach i ffwrdd, ond rydym yn  prynu cig Prydeinig bob tro oherwydd yr ansawdd rhagorol.”

O Sir Gaerloyw y daw porc maes Richards, ac mae’r wyau’n dod o Henffordd, a’r cyw iâr o Norfolk.

“Cyw iâr gwarant fferm yw hwn. Byddem yn hoffi prynu’n fwy lleol, ond nid ydym wedi cael hyd i gyflenwr sy’n ein bodloni.  Mae’r cyw iâr o Norfolk o ansawdd da iawn,” meddai Paul.

Yn y pen draw mae Paul a Lee yn credu taw defnyddwyr fydd yn arwain y newid os maen nhw am gael mwy o gig lleol ar y fwydlen.

“O ran pris, mae’r busnes gwestai a bwytai’n gystadleuol iawn,” meddai Lee, “ac mae’n anodd cystadlu yn erbyn cyflenwyr mawr sy’n cynnig cig rhad, er bod ansawdd ein cynnyrch ni’n well. Os bydd pobl am weld cig lleol ar y fwydlen, bydd yn rhaid gofyn amdano.”

Ac mae’r un peth yn wir am gig bridiau prin.  Ychydig o fridiau sy’n gyfrifol am y cig a gynhyrchir yn y DU, sy’n tyfu’n gyflym ac yn edrych yn dda ar y cownter. “Mae’r bridiau prin yn brin am reswm,” meddai Lee. “Yn aml mae llawer mwy o fraster arnynt, a byddwn yn ei dorri ffwrdd, ac nid yw’r cig yn edrych cystal ar y cownter. Mae pobl yn defnyddio’u llygaid i siopa, ac os ydym am weld mwy o fridiau prin, bydd gofyn i bobl ddechrau prynu’n wahanol.”

Richards is still up and running, despite COVID-19. Continue to support your local food businesses!

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Richards Butchers of Crickhowell

Siopau
Cyfeiriad 55 High St, Crug Hywel NP8 1BH
Gwefan www.ferichardsofcrickhowell.co.uk
Ffôn 01873 810459
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.