Welsh Venison Centre

Welsh Venison Centre – fferm, cigydd, yn cyflenwi bwytai a siop – i gyd dan un to.

Roedd Andrew Morgan y ffermwr yn arfer ffermio ar system ddwys, ond mae’n dweud taw’r farchnad leol yw’r orau.

Roedd Andrew Morgan yn arfer ffermio trwy system ddwys ar gyfer yr archfarchnadoedd, ond rhoddwyd y gorau i hynny er mwyn tyfu’n naturiol ac i werthu’r cynnyrch i bobl yn ardal Crug Hywel yn lle: “Ar un adeg roeddem yn cynhyrchu llwyth o gig ac yn ei werthu’n rhad, ond wnaethon ni ddarganfod ei fod yn llawer mwy boddhaol cynhyrchu cig o ansawdd gwell a’i werthu’n lleol,” meddai.

Roedd Andrew ac Elaine Morgan yn ffermio 280 erw o datws ac roedd ganddynt 1,800 o ddefaid bridio mewn system oedd yn defnyddio’r dulliau ffermio masnachol mwyaf cyfoes yn ardal Bwlch, ond bu bron i’r fferm fynd i’r wal ar ôl i’r cnwd tatws fethu un flwyddyn. Felly, dyma nhw’n penderfynu gwneud rhywbeth gwahanol, a symud at ddulliau ffermio naturiol, ac agor Canolfan Cig Carw Cymru a Siop a Chaffi’r Bannau.

Erbyn hyn mae’r cig oen, eidion a charw ar fwydlen Bwyty’r Hardwick yn y Fenni, The Bear yng Nghrug Hywel a Gwesty Gliffaes yn rheolaidd. Gall ymwelwyr â siop y fferm gael paned neu bryd o fwyd ac wedyn prynu cig ffres, gan gynnwys cig carw, sy’n cael ei dorri ar y fferm. Hefyd gellir dewis o nwyddau Cymreig a lleol amrywiol.

“Rhoddwyd y gorau i ffermio dwys, gan leihau lefelau’r da byw a gadwyd, ac aeth y costau lawr hefyd,” meddai Andrew. Ond pam dewis carw? “Roedd fy mrawd a mi wedi ymweld â Seland Newydd yn yr 80au, ac mae ffermydd carw’n boblogaidd iawn yno. Doedd neb arall yn yr ardal yn ffermio carw, felly penderfynwyd rhoi cynnig arno. Bellach, mae siopwyr yn dod yma i’n gweld yn aml. Mae’r ymwelwyr yn dod i weld y carw, ac wedyn maen nhw’n prynu cig lleol sy’n cael ei fagu ar y caeau cyfagos, maen nhw’n hoffi hynny.”

Mae Andrew ac Elaine yn manteisio i’r eithaf ar y brwdfrydedd ar gyfer bwydydd lleol trwy gadw amrediad o fwydydd lleol, megis sudd afal o Dalybont, caws Blaenafon, Bisgedi o Aberhonddu a llawer mwy.

Ond mae Andrew yn cyfaddef fod cystadleuaeth ffyrnig gyda’r archfarchnadoedd: “Does dim digon o werth ar gyfer bwyd yn y wlad hon; mae pobl am gael bwyd rhad yn anad dim. Mae’n rhaid inni gystadlu yn erbyn yr archfarchnadoedd, ond ar yr un pryd mae’n rhaid inni ddweud wrth bobl fod ein cynnig ni’n well – bwyd gwell sy’n cael ei fagu’n naturiol, heb ei fwydo’n ddwys, gyda’r safonau lles gorau posib sy’n arwain at y blas gorau oll.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Welsh Venison Centre

Bwytai, Cynhyrchydd, Siopau
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Middlewood Farm, Bwlch, Aberhonddu LD3 7HQ
Gwefan beaconsfarmshop.co.uk
Ffôn 01874 730929
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.