Cefndir
Y wefan hon
Mae’r wefan hon yn cynnwys straeon llawn ysbrydoliaeth a thechnegau ymarferol gan fentrau ffermio bach, cyfoes er mwyn helpu llawer mwy o bobl i ymgysylltu â darparu bwyd llawn maeth yn eu cymunedau, tra ar yr un pryd mwynhau gwaith gwerth chweil gyda chyflog da. Diben y wefan hon yw ysbrydoli a chyfeirio pobl sydd â diddordeb, tuag at wireddu eu breuddwydion i ffermio ar raddfa fach mewn ffordd gynaliadwy. Nid yw i fod yn gyfeirlyfr cynhwysfawr.” Ar hyn o bryd rydym wrthi’n creu ein gwefan, ac mae llawer mwy o gynnwys ar y ffordd!
Ein Bwyd 1200 / Our Food 1200
Adeiladwyd y wefan hon gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llywodraeth Cymru, a’r Conservation Farming Trust. Mae’n rhan o broses i adeiladu ymgyrch newydd yn y rhanbarth i sicrhau 1200 erw ar gyfer garddwriaeth adfywiol ar gyfer marchnadoedd lleol. Mae sefydliad newydd a reolir yn lleol, Our Food 1200, wedi’i greu (Ionawr 2022) fel cymdeithas budd cymunedol i arwain y ffordd, a chyn bo hir bydd yn ymgorffori holl gynnwys y wefan hon yn ei gwefan newydd ei hun.