Tuesday January 26th, 2021

Ffermwr a llenor enwog yn helpu rhoi ‘sbonc yn ôl’ ym mywyd ffermio.

James Rebanks yn awyddus i ledu’r gair am amaethyddiaeth gynaliadwy, atgynhyrchiol.

Mae ffermio yng ngwaed James Rebanks, neu dan ei deitl arall ‘The Cumbrian Shepherd’. Mae’r tir o gwmpas Fferm Racy Ghyll yn Nyffryn Matterdale yn Ardal y Llynnoedd yn eiddo i deulu Rebanks ers dros chwe chan mlynedd. Ond nid yw wedi cael ei ffermio erioed yn yr un dull â heddiw: sef trwy ddull atgynhyrchiol, sy’n gofalu am y bywyd gwyllt ac sy’n ail-greu’r ecosystemau a niweidiwyd gan y dulliau dwys a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Mae James wedi magu enw fel llenor ac ym maes hyrwyddo dulliau amaethu cynaliadwy sy’n gyfrifol am adfer ei dir.

Buches gwartheg Belted Galloway sydd gan y fferm 185 erw, ynghyd â 2 foch a 450 o ddefaid Herdwick. Mae’r brid traddodiadol, sydd mae’n debyg yn gymysgedd o ddefaid Prydeinig a Llychlynnig cynhenid, yn ddigon gwydn i wrthsefyll gaeaf caled ar ucheldiroedd Cumbria. Caiff praidd James ei ‘gludo’ i’r mynydd sy’n eiddo iddo trwy ryw wybodaeth reddfol sy’n cael ei throsglwyddo rhwng y defaid a’r ŵyn dros y cenedlaethau.

Er gwaethaf honiad James taw ‘pobl ddibwys’ yw ei deulu ac felly y bu erioed, mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel llenor. Llwyddodd ei lyfr cyntaf, ‘The Shepherd’s Life’ i gyrraedd rhestr llyfrau mwyaf poblogaidd, gan ddwyn sylw at enw Rebanks yn y byd llenyddol ac amaethyddol. Bedair blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddwyd ‘English Pastoral’. Hanes y newidiadau i amaethu ym Mhrydain yn ystod oes James yw hwn, ac mae’n defnyddio ei brofiadau personol o ffermio gyda’i dad a’i daid, a’r newidiadau mawr a wnaeth er mwyn diogelu ei fferm a’i famwlad.

Llun gan: Stuart Simpson Penguin Books

Gan ddechrau gyda’i daid, mae James yn adrodd hanes sut y bu’n rhaid i fferm draddodiadol a seilir ar ddulliau ffermio cylchdro cymysg frwydro i ddelio gyda gostyngiad enfawr ym mhrisiau bwyd a mwy o ddefnydd o dechnoleg yn sgil yr Ail Ryfel Byd trwy ddulliau amaethu dwys. Erbyn diwedd y nawdegau, tir pori a gwneud silwair oedd y fferm yn bennaf. Yn ôl James, doedd ganddo ddim dewis arall ond dilyn y ffasiwn a’r wyddoniaeth: “Doedden ni ddim yn gwybod digon i ddweud na nac i ddadlau yn ei erbyn” meddai, “ac nid wyf yn sicr y bydden ni wedi llwyddo pr’un bynnag oherwydd ceisio gwneud bywoliaeth oedden ni.”

Er hynny, roedd un o ffermwyr y pentref yn gwrthwynebu’r newid. Parhaodd Henry i redeg ei fferm fel fferm gymysg, yn debyg i gyndeidiau James, a gwrthododd defnyddio plaladdwyr a gwrtaith cemegol. Ar ôl marwolaeth Henry, cynhaliwyd profion maetholion ac iechyd ar bridd ei fferm a ffermydd cyffiniol. Cafodd James a’i dad eu synnu gan y canlyniadau: pridd Henry oedd pridd cyfoethocaf yr ardal o bell ffordd. Arweiniodd hyn at newid ffordd o feddwl cenedlaethau nesaf teulu Rebanks. Wnaethon nhw sylweddoli nad oedd yn bosib iddynt barhau â’r dulliau ffermio presennol, oherwydd roedd ansawdd y pridd yn dirywio, a bywyd gwyllt megis y Gylfinir yn diflannu o’u tir.

“Wrth inni ddysgu mwy am chweched difodiant más, ac am newid yn yr hinsawdd, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod yr hyn y mae pobl fel fy nheulu i’n ei wneud ar y tir yn bwysig. Ni fydd fy nheulu i wrth ei hun yn dinistrio’r byd neu’n arwain at lai o fioamrywiaeth, ond ar y cyd â miloedd neu filiynau o ffermwyr eraill ar draws y byd, gall arwain at yr effaith arwyddocaol hon.”

Ers i James ysgwyddo cyfrifoldeb am y fferm, mae wedi gweithio’n galed i wella iechyd yr ecosystem. Diolch i gyngor gan Lucy Butler, sy’n gweithio ym maes cadwraeth, mae James wedi newid y dyfrffyrdd a’r pyllau ar ei dir i wella llif y dŵr a lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd. Mae wedi plannu rhyw 15,000 o goed ar draws y tir, ac wedi ei wahanu’n 45 cae gwahanol, sydd â gwrychoedd yn ffiniau iddynt. Trwy gynyddu bioamrywiaeth y planhigion ar ei dir, gobaith James yw gwella iechyd a chynhyrchiant y pridd a’r defaid sy’n ei bori.

Llun gan: Stuart Simpson Penguin Books

Trwy ennill poblogrwydd fel llenor, mae James wedi magu llwyfan i ledu ei neges am amaethyddiaeth gynaliadwy, a rhoi help llaw i grwpiau cadwraeth. Yn ddiweddar, roedd yn gysylltiedig ag ymgais Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad i brynu fferm draddodiadol yn Ardal y Llynnoedd, ei hadfer ynghyd â’r dirwedd o’i chwmpas i’w gogoniant blaenorol. Er i’r grŵp colli allan yn y broses bidio, mae James yn dal i ddefnyddio ei lwyfan i hyrwyddo newid.

“Ffermio, bwyd, yr amgylchedd, diet ac iechyd – mewn cymaint o ffyrdd, mae’r holl bethau hyn yn golygu union yr un peth – mae cael ecosystemau iach yn ganolog i bob un ohonynt, i gynhyrchu bwyd iachus, a gynhyrchir mewn ffordd mor naturiol â phosib. Os ydym yn awyddus i fwyta bwyd uchel ei ansawdd a byw bywydau iach, mae’n hanfodol inni ailgysylltu â’r tir trwy ein bwyd a’n dulliau siopa a choginio.”

Mae’n llawn angerdd am y ffordd y caiff ffermwyr eu beirniadu am golli bioamrywiaeth a’r dirywiad yn iechyd y pridd yng nghefn gwlad Prydain.

“Ydyn, mae ffermwyr yn achosi peth o’r difrod, ac mae’n rhaid iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny – am y da a’r drwg – ond mae grym cymdeithasol, economaidd mawr, a grym diwylliannol yn eu gwthio i’r cyfeiriad yna. Ac ie, mae pob un o’r gweddill ohonom yn gyfrifol i raddau am hynny yn ein ffyrdd o siopa a’r ffordd rydym wedi elwa gan fod bwyd yn rhatach.”

Mae James yn dyfynnu ffigurau DEFRA sy’n dangos ein bod yn gwario cyn lleied â 10% o incwm y cartref ar fwyd, o’i gymharu â 30-40% 50 mlynedd yn ôl. Gan ein bod yn disgwyl i fwyd fod yn rhad, mae ffermwyr bellach yn dibynnu’n sylweddol ar gymhorthdal gan y llywodraeth i ategu cymaint â hanner eu hincwm. Mae o’r farn y dylen ni feddwl am gynhyrchu bwyd mewn ffordd fwy cyfannol, sy’n golygu cael gwell cysylltiadau â’r bobl sy’n cynhyrchu ein bwyd a’r dirwedd lle mae hynny’n digwydd.

“Nid mater yn unig yw o gael bwyd ar y bwrdd – yn fy marn i trwy gynhyrchu bwyd yn yr ardal leol a chael marchnadoedd bwyd lleol, mae mwy o ymgysylltiad rhwng y defnyddwyr a’r ffermwyr, ac mae pobl yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ac yn ei ddeall yn well.”

Ac i’r sawl sydd efallai’n cael eu brawychu gan y syniad o droi at amaethyddiaeth atgynhyrchiol, mae James yn hyrwyddo’r hyblygrwydd rhwng agweddau ‘du a gwyn’ ar ffermio cynaliadwy yn erbyn ffermio dwys.

“O’m safbwynt i, camgymeriad yw meddwl am hyn fel ffermio fel y diawl, neu wallgofddyn hipi. Gallwn wneud y ddau beth – a dyna’r gobaith mawr i ffermio ym Mhrydain – gallwn wneud y ddau beth, ac mae llawer o ffermwyr am wneud hynny.”

“Mae’n rhaid cyflwyno’r ffeithiau mewn perthynas â pham mae pobl fel ni o unrhyw werth i bobl fel chi mewn gwirionedd. A’r ffordd y gallaf ateb hynny yw fel hyn: wrth ffermio ac wrth ysgrifennu trwy ddweud: “cadwch eich ffydd ynom, helpwch ni, a byddwn yn gwireddu’r hyn sydd ei eisiau arnoch.”

Gallwch ddilyn James ar Twitter @herdyshepherd1. Penguin sy’n cyhoeddi ei lyfrau.

 

Llun gan: Andrew Heading. Copi gan Imogen Astley Jones ac As You See It Media.

Categorïau: Straeon llwyddiant.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.