Tuesday January 26th, 2021

Heriau Pandemig Coronafeirws yn arwain at flaguro

Gall ffermio cynaliadwy a ffynonellau lleol elwa o newid arferion

Mae Pandemig Coronafeirws wedi golygu heriau enfawr i ffermwyr, ond hefyd cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd cynaliadwy, yn ôl un tyfwr atgynhyrchiol o Sir Benfro.

Peter ac Anne Segger sy’n rhedeg Fferm Organig Blaencamel ger Ceredigion. Maent yn cyflenwi bwytai penodol, marchnadoedd ffermwyr a blychau llysiau mor bell â Chaerdydd. Wrth i fwytai gau yn ystod y cyfnod clo, bu lleihad ym maint eu marchnad, a thyfodd eto wrth i gwsmeriaid chwilio am fwyd iachach, cynaliadwy a dyfir yn lleol.

Meddai Peter: “Newidiodd y strwythur cyfan wrth i farchnadoedd ffermwyr gau yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Wedyn caeodd y bwytai, a bu’n rhaid inni ail-feddwl popeth unwaith eto. Wedyn bu’n rhaid inni atgyfodi popeth wrth i’r bwytai ailagor. Roedd yn gyfnod hynod rwystredig, ond cyffrous ar yr un pryd, oherwydd roedd cwsmeriaid yn ymateb i ac yn addasu i’r heriau amrywiol.”

Ym mhrofiad y cwpl, roedd cadw pellter cymdeithasol yn golygu ei fod yn fwy cymhleth siopa mewn archfarchnadoedd, ac roedd cwsmeriaid yn troi at gyflenwyr lleol i siopa am fwyd; oedd yn hwb enfawr i ffermydd bach megis Blaencamel.

“Mae’r twf yn y galw am fwyd a gynhyrchir yn lleol wedi bod yn rhyfeddol, ac yn wych ar yr un pryd, oherwydd rydym wedi bod yn gweithio tuag at ac yn gobeithio am hyn ers degawdau. Roedd diddordeb gwych yn bodoli eisoes, ac roedd pobl yn ffyddlon iawn o ran y cysyniad o brynu bwyd lleol, ac mae’r pandemig wedi ategu hynny. Hefyd, wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o faterion mewn perthynas ag iechyd, maen nhw’n chwilio am fwyd mwy iachus a mwy maethlon” dywed Peter.

Ond mae rhywfaint o amheuaeth ynghlwm wrth optimistiaeth Peter, a dywed: “Mae’n rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn cynhyrfu gormod am hyn. Ymddengys yn enfawr inni, ond rhan fach yn unig ydym o olwyn fawr y diwydiant bwyd.”

Mae Peter yn credu’n gryf yn y cysyniad o fwydo bwyd a dyfir yn lleol i gymunedau, i’r fath graddau, mae wedi cynnig maniffesto ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru gyda’r teitl ‘Ymgyrch 75×35’. Y nod yw i Gymru gynhyrchu 75% o’r holl fwyd ffres sy’n cael ei fwyta yng Nghymru erbyn 2035, a gobaith Peter yw y bydd ei boblogrwydd yn tyfu mewn ymgyrchoedd gwleidyddol dros y flwyddyn sydd i ddod.

“Rydym wedi derbyn rhodd o gyfle i fewnoli bwyd lleol yng nghydwybod y boblogaeth leol, ac mae angen inni fanteisio arno.”

Cyngor Peter i ffermwyr newydd sydd am gychwyn yn y maes yn sgil coronafeirws yw: “Fy nghyngor fyddai ymuno â’r farchnad ffermwyr agosaf a dod i adnabod y cwsmeriaid, a chynnig amrediad o wasanaethau gan gynnwys rhai ar-lein rhag ofn y bydd yr argyfwng coronafeirws yn parhau am amser. Hefyd dylech chwilio am y siopau a bwytai gorau yn eich ardal, a’u gwahodd i’ch fferm er mwyn ceisio meithrin perthynas gyda nhw yn yr hirdymor.”

Gellir dysgu mwy am Fferm Blaencamel trwy eu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/blaencamelfarm/

 

Llun: Peter Segger. Copi gan Imogen Astley Jones ac As You See It Media.

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.