Friday October 9th, 2020

Cynllun Chwiorydd i “drawsnewid y diwydiant bwyd.”

Mae math newydd o archfarchnad yn blaenoriaethu cynnyrch lleol, yn talu cyflog teg ac yn cynnig pris da i gyflenwyr.

Cychwynnwyd HISBE (How it Should be – Sut y Dylai fod) cyntaf y chwiorydd Ruth ac Amy Anslow gyda’r bwriad o “ail-ddychmygu’r ffordd y mae archfarchnadoedd yn gwneud busnes”. Maent yn blaenoriaethu cynhyrchwyr bwyd lleol ac yn mynnu “os nad yw’n gallu bod yn lleol, mae’n gorfod bod yn organig.”

Am 15 mlynedd cyn hynny roedd Ruth yn gweithio yn y byd “corfforaethol mawr” ac yn delio gyda chwmnïau megis Tesco. Dechreuodd “bryderu am effaith y model archfarchnadoedd ar ein bwyd yn yr hirdymor” oherwydd “gwastraff, gorbrosesu, cadwyni bwyd hir, ffermio ffatri a lluchio deunyddiau plastig.” “Roedd angen newid mawr yn y ffordd mae manwerthwyr bwyd yn gweithio,” meddai. Felly gyda’i chyd-gyfarwyddwr Jack Simmonds, sefydlwyd HISBE yn 2013.

“Wnaethon ni sylweddoli y gall archfarchnadoedd fod yn rhan o’r ateb i broblemau yn y gadwyn fwyd, roedd angen iddyn nhw esblygu,” yn ôl Ruth. Felly, dyma fynd ati i gael hyd i’r cynnyrch lleol gorau a dewisiadau cynaliadwy, a’u cael nhw i gyd dan yr un to. M aent yn honni eu bod yn lleihau gwastraff bwyd, yn manteisio i’r eithaf ar ailgylchu ac yn lleihau’r deunyddiau pecynnu. Y nod yw cael pobl i ddod atyn nhw, yn lle archfarchnad gonfensiynol trwy “ddod â’r cynnyrch gorau at ei gilydd, sy’n golygu eu bod o fewn cyrraedd pobl gyffredin sy’n siopa am fwyd.”

Wyddodd y chwiorydd i godi £200,000 ar gyfer y siop gyntaf yn Brighton trwy gymysgedd o gynlluniau cyllido torfol, cyfranddaliadau, benthyciadau a grantiau. Fe’i sefydlwyd ar sail menter gymdeithasol, Cwmni Buddiant Cymunedol dielw, i ddangos taw “pobl sy’n dod o flaen elw.” Maen nhw’n talu eu staff cyflog byw go iawn, ac yn rhoi “pris teg i’n cyflenwyr.”

Yn wahanol i archfarchnadoedd confensiynol, mae llawer o nwyddau’r siop yn gynnyrch tymhorol; nid ydynt yn gwerthu tomatos neu fefus yn y gaeaf er enghraifft. Daw 51% o’r holl fwydydd ffres o’r ardal leol yn Sussex, ac maent yn awyddus i roi’r opsiwn i bobl ddewis dod atynt ar gyfer eu holl fwydydd.

Ond wnaethon nhw sylweddoli’n gynnar y byddai gofyn iddyn nhw gynnig rhai pethau nad ydynt yn cael eu tyfu yn y DU. “Byddai pobl yn cerdded allan os nad oedd gennym fananas neu afocados,” felly yn achos y rheiny, rydym yn dewis cyflenwyr organig oherwydd gallwn ymddiried yn eu safonau nhw. Felly maent yn gorfod penderfynu beth i’w gynnig fesul cynnyrch unigol, ac yn ôl Ruth “roedd yn hunllef wrth inni gychwyn, ond rydym wedi arfer â hyn bellach.”

Un o egwyddorion craidd eu busnes, yw rhoi’r arian nôl yn y gymuned a chefnogi tyfwyr lleol. “Mae 68p o bob £1 yn mynd i’n cyflenwyr, ac mae 57p o bob £1 yn aros yn yr economi lleol, yn wahanol i’r archfarchnadoedd mawr,” meddai Ruth. Er hynny, mae’n cyfaddef y bydd cwsmeriaid yn talu mwy am rai eitemau. “Mae’r cynnyrch ffres yn cystadlu gyda’r archfarchnadoedd mawr oherwydd nid oes angen unrhyw ddeunyddiau pecynnu drud, ond bydd pobl yn talu mwy, er enghraifft, am fêl lleol neu diwna o ffynonellau cynaliadwy.”

Agorwyd eu hail siop yn Worthing ychydig cyn cychwyn y pandemig ym mis Mai 2020 trwy godi £450,000 ar blatfform cyllido torfol Banc Triodos. Eu nod yw cychwyn cadwyn o siopau yn Sussex cyn helpu pobl eraill i agor siopau bwyd mewn siroedd eraill. Yn ogystal maent yn cynnig bŵt camp ar eu gwefan i helpu pobl ddilyn yn eu holion traed a newid y diwydiant bwyd.

Dywed Ruth, “Inni, y ffordd fwyaf cynaliadwy a dyfodol bwyd a ffermio yw trwy fwyta’r hyn sy’n tyfu ar garreg eich drws. Felly, ein nod yw ailwampio’r holl ffordd y mae’r diwydiant bwyd yn gweithio.”

Os hoffech ddysgu mwy am HISBE, ewch at eu gwefan.

 

Lluniau gan Tim Jones, As You See It Median

Erthygl gan Ollie Storm Williams

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.