The Gardeners Kitchen: llai na dwy filltir rhwng y pridd a’r plât
Mae Amy a Simon yn ychwanegu gwerth i’w cynnyrch ac maent yn ei werthu yn eu siop fferm eu hunain.
Roedd y garddwyr marchnad Amy a Simon Mackenzie-Mason yn gwybod ei fod yn bosib ennill bywoliaeth o’u garddio er pleser; ond i wneud yn well, roedd angen iddyn nhw ychwanegu gwerth at yr hyn a dyfwyd ganddynt. Erbyn hyn felly mae’r cwpl yn cyflenwi eu siop a chaffi eu hunain ar y fferm, The Gardeners Kitchen ger Y Fenni, gyda chynnyrch ffres, a phrydau bwyd parod a rhai wedi’u rhewi. Mae’r holl ffrwythau, llysiau a blodau’n cael eu tyfu mewn gardd â wal o’i chwmpas dwy filltir i ffwrdd.
Mae Amy a Simon yn tyfu cynnyrch ers 2010. Yn eu geiriau nhw, wnaethon nhw gychwyn, “i fod yn gynaliadwy”: gan dyfu i ddiwallu eu hanghenion nhw eu hunain. Wedyn bydden nhw’n gwerthu unrhyw gynnyrch dros ben o flwch gonestrwydd ar ben y ffordd. Un ar ddeg mlynedd yn ddiweddarach, maent wedi dysgu llawer ac wedi magu sgiliau ac bellach maent yn hunangyflogedig. Dywed Simon: “Nid yr arian yw’r peth pwysig inni; mater o fwynhau’r hyn rydym yn ei wneud yw.”
Roedd Amy’n arfer dylunio gwisgoedd, ac roedd Simon yn gweithio ym maes lletygarwch. Mae Amy’n defnyddio ei sgiliau artistig a’i gallu creadigol wrth weithio gyda blodau ac i greu cacennau trawiadol, tra bo Simon yn defnyddio ei brofiad coginio o weithio fel cogydd wrth ddeall rheoliadau bwyd ac i greu ryseitiau newydd gyda’r cynnyrch hollol ffres. “Mae ein sgiliau yn golygu ein bod yn wahanol i dyfwyr eraill,” meddai Amy. Maent yn gwerthu amrediad o nwyddau yn siop a chaffi’r fferm.
, megis blychau llysiau, suropau, cordialau, eitemau pôb, prydau wedi’u rhewi a chynnyrch arall. Mae Amy’n ategu incwm y siop drwy werthu blodau ffres ac arddangosfeydd blodau ar gyfer priodasau a dathliadau eraill yn yr ardal.
Mae siop y fferm ar agor 5 diwrnod yr wythnos 10am – 5:30pm. Gall olygu fod Simon ac Amy yn yr ardd neu’n pobi neu’n coginio ar gyfer y diwrnod o 5.30-6am. “Nid swydd 9 – 5 yw hon, eich bywyd yw,” yn ôl Amy. Maen nhw’n cael cymorth yn yr ardd am 15 awr yr wythnos, ond fel y dywed Simon: “Mae Amy a fi’n gwneud gwaith 4 neu 5 o bobl”.
Tyfir planhigion ar draean o’r ardd, ffrwythau a llysiau ar draean arall, a blodau sy’n llenwi’r traean olaf. Trwy rannu’r ardd yn dri, maent yn gallu amrywio’r hyn a gynigir sy’n golygu fod eu busnes yn fwy cynaliadwy neu’n fwy “cyfannol”, fel y dywed Simon.
Dim ond yn y siop a’r caffi maent yn gwerthu eu cynnyrch erbyn hyn; adeg agor y rhain, rhoddwyd y gorau i gyflenwi unrhyw un arall. Ac maent yn ofalus ynghylch gwneud mwy oherwydd, yn ôl Simon: “’Dan ni ddim eisiau treulio 20 awr y dydd yn y gegin, mae’n well gennym fod allan ar y fferm.
Cyngor Amy a Simon ar gyfer tyfwyr eraill yw: “Byddwch yn daer, peidiwch â derbyn ‘na’ fel ateb. Os oes gennych sgil penodol, gall fod yn deillio o swydd yn y gorffennol neu hobi fel plentyn, dylid ei ddefnyddio yn eich busnes – gall wneud gwahaniaeth mawr.”
Os hoffech ddysgu mwy am The Gardeners Kitchen, cymerwch gip ar eu tudalen Facebook.
Lluniau gan Tim Jones, As You See It Media
Erthygl gan Ollie Storm Williams
Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata.