Tuesday February 9th, 2021

Cwpl sy’n awyddus i gychwyn prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned

Maent am gydweithio gydag yn hytrach na chystadlu yn erbyn tyfwyr eraill

Mae Alice Sidwell a Jonny Watler, o Ardd Farchnad Orchard Acre, am wneud mwy na thyfu bwyd yn unig; maent yn gobeithio meithrin diwylliant o amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned lle gall cwsmeriaid buddsoddi yn nyfodol cynhyrchu bwyd lleol.

Mae Alice a Jonny, gyda chymorth Lyra eu merch, yn tyfu ar erw o dir ar gartref teuluol Alice yn Llanfable, ger y Fenni. Bwriad y cwpl yw tyfu llysiau mewn 60 o welyau parhaol a thwneli plastig, a gwerthu’r cynnyrch trwy gynllun blychau llysiau, gan gychwyn ym Mehefin 2021.

Mae’r gymuned sy’n byw yn lleol i’r ardd farchnad arloesol yn cael eu gwahodd i dalu am dymor cyfan o flychau llysiau ymlaen llaw (neu drwy randaliadau os maent yn methu fforddio’r taliad cyfan), fydd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd ariannol i’r cwpl a chyflenwad rheolaidd o fwyd a dyfir yn lleol i’r cwsmeriaid. Mae Alice a Jonny’n bwriadu cynnig amrediad eang o lysiau yn lle llysiau a brynir yn yr archfarchnad mewn ffordd fforddiadwy, ac maent hefyd yn cynllunio sybsideiddio rhai o’r blychau llysiau i bobl ar incwm is.

“Wrth edrych o’n cwmpas, nid yw’r mynediad at fwyd ffres yn yr ardal hon yn dda iawn, ac mae cymaint o heriau mawr yn ein hwynebu fel diwylliant. Mae bwyd syml ond da, a chael cysylltiad gyda hynny’n gorfod bod yn rhan o’r broses o iachâd, a’r newid sydd ei angen ar hyn o bryd,” meddai Alice.

Mae’r cyfnodau clo diweddar oherwydd Covid-19 wedi rhoi mwy o amser i’r cwpl trin y tir, ac wedi tynnu sylw at fanteision ffermydd tebyg i’w fferm nhw. “Mae’r holl deimlad o gymuned oedd yn byrlymu adeg y cyfnod clo wedi rhoi’r hyder inni fod pobl yn awyddus i gefnogi mentrau lleol. Sioc oedd weld pa mor fregus mae’n cyflenwad bwyd oherwydd y prinderau yn yr archfarchnadoedd; ac mae hynny’n rhywbeth hollol newydd i lawer o bobl yn y DU, ac mae’n rhoi’r holl beth mewn perspectif i bobl,” meddai Jonny.

Mae ffermio yng ngwaed Alice: roedd ei thad-cu’n cadw buches laeth organig, ac yn rhan o gychwyn symudiad organig yn y DU. Roedd ei hewythr yn un o Arolygwyr Cymdeithas y Pridd, ac yn rhedeg fferm organig yng Ngorllewin Cymru. Mae’r tir lle mae hi’n byw ers ei phlentyndod yn eiddo i’w rhieni, ac roedd yn arfer bod yn dyddyn gyda da byw a gardd lysiau.

Er hynny, nid oedd ffermio’n llawn amser yn opsiwn nes iddi gwrdd â Jonny a symud nôl i’w chartref teuluol: “Ni ddewisais ddechrau tyfu o’r blaen oherwydd nid yw rhannau o’r gwaith yn addas imi, ond trwy gydweithio fel tîm, ’dwi’n credu y byddwn yn llwyddo. Mae gennym sgiliau a diddordebau gwahanol i’w cyfrannu.”

Mae’r cwpl wedi cydweithio gyda fferm Langtons yng Nghrughywel, fferm fach organig arall, er mwyn rhannu gwybodaeth a chael eu hysbrydoli gan lwyddiant eu ffrindiau: “Mae mor braf gweld eu bod nhw wedi llwyddo, a bod galw am y cynnyrch yn yr ardal hon,” dywed Jonny.

Mae’r ddau gwpl wedi dilyn cyrsiau gan yr arbenigwr ym maes ffermio organig, Conor Crickmore, Neversink Farm yn yr UDA. Eu gobaith yw rhannu’r grym prynu a marchnata ac y bydd yn fuddiol i’r ddau gwpl, heb orfod poeni am gystadleuaeth. Yn ôl Jonny: “Does dim teimlad ein bod yn cystadlu yn erbyn ein gilydd o gwbl, a ’dwi’n credu eu bod nhw o’r un farn. Mae digon o bobl a digon o gapasiti, ac mae llawer o ffermydd bach sy’n gwasanaethu eu cymunedau lleol, a gall pawb dysgu gan ein gilydd. Mater o feithrin capasiti yw i gael mwy o dyfwyr bach yn lle bod pawb yn ceisio cystadlu a rhagori ar ei gilydd.”

Bwriad Alice a Jonny yw gwasanaethu’r pedwar pentref lleol a chwsmeriaid yn y Fenni, ond aros o fewn cylch o ddeg milltir i Orchard Acre. A’u barn yw y gall yr ardal leihau wrth iddyn nhw ddenu mwy o gwsmeriaid lleol dros amser.

“Gan ein bod yn cyflenwi’r gymuned leol, ’dan ni ddim yn cystadlu yn erbyn pobl rhyw 10 neu 20 milltir i ffwrdd. Gyda lwc, bydd pawb yn gallu ennill eu lle, ar gyfer cynnyrch unigryw, a chydweithio,” meddai Jonny.

Ond beth os bydd fferm fach organig arall yn agor lawr y ffordd? “Y gobaith yw y gallwn gael hyd i ffyrdd o gydweithio,” meddai Jonny, “dyna sydd wedi digwydd o’r cydweithio rhyngon ni a fferm Langtons. Mae’n teimlo fel cydweithio cadarnhaol yn lle cystadleuaeth negyddol ar hyn o bryd.”

“Ymddengys bod tyfwyr bach yn gytûn iawn; mae llawer o sefydliadau gwych yn y DU megis y Landworkers’ Alliance, Organic Growers’ Alliance, ac mae grwpiau tyfu rhanbarthol ar hyd a lled y DU wedi bod yn meithrin teimlad fod pobl yn fodlon rhannu arbenigedd a gwybodaeth am ddim.”

Ym maes ffermio biodeinameg, organig y mae cefndir Jonny, ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Ruskin Mill Trust, Swydd Gaerloyw. Mae’r cwpl yn gobeithio rhannu llwyddiant fferm Langtons a ffermio’n llawn amser, gyda Jonny’n garddio ac Alice yn ymafer therapi tylino yn ystod misoedd y gaeaf i ychwanegu at eu hincwm. Mae gan y ddau ohonynt brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn yr awyr agored, a’u gobaith yw defnyddio’r sgiliau hyn yn eu cynlluniau ar gyfer prosiectau cymunedol megis gwasanaeth estyn allan addysgol, hyfforddi ffermwyr a phrosiectau cyfiawnder bwyd gyda banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol.

“Ein nod yw cynnig gofod i bobl allu cysylltu â’u ffynonellau bwyd,” meddai Jonny, “rydym yn cynnig rhywbeth mwy na’r cynnyrch yn unig, rydym yn meithrin naws cymunedol. Mae pobl am wybod o ble y daw eu bwyd fwyfwy’r dyddiau hyn, a gallwn brofi hynny. Nid yw’n bosib dweud yr un peth am y llysiau organig yn yr archfarchnad – a gyda lwc, bydd hynny o fantais inni.”

Gellir dysgu mwy am Fferm Orchard Acre ar eu tudalennau ar Facebook ac Instagram:
www.facebook.com/orchard.acre
www.instagram.com/orchard.acre

 

Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.

Categorïau: Dechrau.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.