Heriau’r flwyddyn gyntaf ar gyfer ffermwyr atgynhyrchiol newydd – ond nid ydynt yn difaru
Cwpl sydd newydd briodi’n edrych yn ôl gyda balchder ar eu menter newydd
Blwyddyn bron ar ôl cychwyn menter organig atgynhyrchiol gyda da byw a gardd farchnad, nid yw David a Katherine Langton yn difaru eu penderfyniad, ond ydyn nhw’n gwneud arian?
“O safbwynt ariannol, nid ydym yn gyfforddus, eto. Yn ystod y misoedd cyntaf, mae’r llif arian yn dynn iawn a ninnau’n ehangu mor gyflym” meddai David. Mae’r cwpl yn cydnabod, yn debyg i bob busnes newydd arall, mae’r 2 – 3 blynedd gyntaf yn golygu buddsoddi amser, arian ac ymdrech. Ond mae agwedd Katherine yn gadarnhaol: “Ydy, mae wedi bod yn waith caled. Ymddengys nad ydym yn cyflawni rhyw lawer bob dydd, ond wrth edrych yn ôl ar luniau o fis Mawrth y llynedd, dim ond glaswellt oedd yn tyfu yn y cae yma. Felly, rydym wedi cyflawni llawer iawn mewn gwirionedd.”
Erbyn hyn mae Katherine a David yn berchnogion gardd farchnad gymysg, organig tu allan i dref Crughywel ym Mannau Brycheiniog. Dechreuodd y cwpl trwy rentu’r tir ar gyfer eu Fferm gan ffermwr organig lleol ym mis Mawrth 2020, ac ers hynny, maent wedi trawsnewid y llain 3.5-erw.
Bellach mae ganddynt ardd farchnad sy’n cynhyrchu llysiau, cig gan yr ieir, 4 mochyn Tamworth, a 180 o wy bob dydd, ac maen nhw’n dal i ehangu. System ‘dim palu’ a ddefnyddir ar y tir; maen nhw’n lladd y glaswellt a’r chwyn ar y tir cyn gosod llwyth o gompost ar ei ben, a hau’r hadau mewn gwelyau uchel, ac mewn 2 dwnnel plastig. Maen nhw’n cylchdroi’r hyn a dyfir ar y tir, ac mae’r da byw’n cael eu symud i droi a rhoi gwrtaith naturiol ar y pridd.
Ar Facebook ym mis Gorffennaf 2020 y cychwynnodd y ddau hysbysebu eu blychau llysiau organig, a dyfir yn lleol, a gwerthwyd 30 blwch yn yr wythnos gyntaf. Ychydig iawn o hysbysebu maent yn ei wneud, ond mae’r cynhyrchiant wedi dyblu, ac maent yn disgwyl iddo ddyblu eto erbyn Haf 2021, ac maen nhw’n dal i ddisgwyl cyflenwi llysiau drwy’r Gaeaf hefyd.
“Mae llawer o erddi marchnad eraill yn rhedeg rhwng Mehefin a Rhagfyr, a chael seibiant wedyn dros y Gaeaf,” yn ôl David, “ond yn ein barn ni, roedd yn well i bobl allu cael llysiau organig o’r un ffynhonnell drwy gydol y flwyddyn.”
Mae’r cwpl yn prynu unrhyw gynnyrch maent yn methu ei dyfu eu hunain gan ffermydd lleol eraill – gan brynu cynnyrch organig o’r DU yn unig. Meddai David: “Gwnawn ein gorau glas i gael cynnyrch mor lleol â phosib. Mae ein cynnyrch ni gan gynhyrchwyr eraill dal llawer nes na’r hyn sydd ar gael mewn archfarchnad.”
Mae’r pâr hefyd yn cydweithio mewn ffyrdd eraill gyda garddwyr marchnad lleol megis Jonny ac Alice, Orchard Acre. Maent yn cynyddu eu grym prynu ac yn cadw’r costau mor isel â phosib trwy swmp-archebu offer amaethyddol a nwyddau fferm rhyngddynt. Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn o safbwynt hadau yn sgil effaith cyfnodau clo Covid-19 a Brexit.
Methodd teulu Langton y cyfnod plannu ar gyfer rhai planhigion yn ystod Gwanwyn y llynedd, ond maent yn gobeithio cyflenwi eu llysiau eu hunain eleni yn lle rhai a brynir. “Hon yw ein blwyddyn gyntaf, felly nid yw’n bosib gwneud popeth. Y pethau rydym yn eu prynu nawr, byddwn yn dechrau eu tyfu ein hunain cyn gynted a gallwn,” meddai David, “Wrth nesáu at y Gwanwyn, bydd 95% o’r llysiau a werthir gennym yn cael eu tyfu ar ein fferm ni.”
Ond sut maen nhw’n ymdopi o safbwynt ariannol? Meddai Katherine: “Mae llawer o’r arian sy’n dod mewn yn mynd nôl mewn i’r fferm, felly rydym yn ehangu’n eithaf cyflym. O ran y llysiau, yr ieir dodwy, yr ieir a gedwir am eu cig a’r moch – wrth ychwanegu rhywbeth arall, mae’n golygu gwario mwy o arian, ac mae’n cymryd amser i gael yr arian yn ôl.”
Mae hynny’n wir yn benodol wrth fagu da byw, oherwydd mae’r amser dirwyn yn hirach cyn gweld unrhyw elw. Amcangyfrif David yw na fydd y moch yn barod i’w lladd tan Wanwyn 2022. Mae’r ieir a gedwir am eu cig yn dechrau gwella; gwerthwyd y rhai cyntaf adeg y Nadolig, a’r bwriad yw gallu gwerthu bob pythefnos o hyn ymlaen. Mae’r ieir dodwy yn adennill eu costau bellach o’r diwedd, er eu bod yn hwyrach yn dechrau dodwy na’r disgwyl, meddai David “Am gyfnod o ddeufis, roeddem yn disgwyl iddyn nhw ddodwy, ond doedd hynny ddim yn digwydd, ac roedd yn rhaid inni eu bwydo o hyd. Yr wyau oedd y gost anoddaf.”
Felly, pam penderfynu dewis yr her o ffermio cymysg? Mae’r ddau ohonynt yn edrych yn hirdymor: “Bydd y cyfuniad o gig ac wyau yn gydradd, os nad yn uwch na’r llysiau,” yn ôl David, “ac mae’n golygu y gallwn fod yn hyblyg o safbwynt newidiadau yn y galw’n lleol.”
Eu cyngor i eraill sydd yn cychwyn ffermio yw bod yn ymwybodol o’r heriau a’r costau: “O safbwynt ariannol, mae angen cynhyrchu rhyw 30-50 o flychau llysiau bob wythnos i fyw’n gyfforddus – mor bell â bod eich costau’n isel. Os ydych yn ehangu, dylai pobl fod yn ymwybodol bod llif arian yn broblem fawr yn y dechrau. Rydym yn gwneud llawer iawn – ein nod yw cael fferm gymysg a gwneud popeth, ond mae ceisio gwneud hynny yn ystod y flwyddyn gyntaf yn beth anodd ei reoli o safbwynt ariannol,” meddai David.
Mae David yn annog darpar arddwyr marchnad na ddylai cost rhentu tir eu digalonni, oherwydd dim ond cyfran fach o’r costau cychwyn ar gyfer busnes ar erw neu ddau yw hynny. “Cyfanswm y costau cychwyn yw rhyw £20-30,000,” meddai.
Er gwaethaf heriau cyfnodau clo Covid-19, a chychwyn y busnes, mae David a Katherine wedi cael llwyddiant mawr yn ystod blwyddyn gyntaf eu busnes ffermio: “A dweud y gwir, mae’r Coronafeirws wedi golygu bod mwy o alw am ein llysiau a’r ffaith yn bod yn eucludo o ddrws i ddrws,” yn ôl David. “Rwyf yn falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, ond rydym wedi llwyddo i gyflawni llawer iawn,” meddai Katherine, “Credwn ein bod yn gydnerth.”
Gellir dysgu mwy am fferm Langtons ar eu tudalen Facebook: www.facebook.com/LangtonsFarmCymru
Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.
Categorïau: Dechrau.