Friday October 2nd, 2020

‘Hodmedod’ yn ailddarganfod galw mawr am ffa, ffacbys, hadau a grawn cartref

hodmedod-main
Pictured: Josiah Meldrum.

Ailddarganfod bwydydd angof Prydain.

Mae’n debyg fod perswadio trigolion Prydain i fwyta’r math o ffa sych sydd wedi bod yn rhan o ddiet y genedl ers cannoedd o flynyddoedd yn dipyn o her, ond mae busnes o East Anglia wedi darganfod fod llawer o bobl yn barod i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Mae Hodmedod, menter sy’n cyflogi 8 o weithwyr, yn Halesworth, Suffolk, wedi bod yn gweithio i greu marchadoed newydd ar gyfer ffa fava a phys wedi’u sychu, ochr yn ochr â ffacbys llai cyffredin, hadau a grawn. Ers cychwyn y busnes yn 2012, mae’r cwmni wedi darganfod galw mawr sydd wedi hybu gwerthiant llawer o’i gynnyrch rhyw 40 neu 50 gwaith mewn pum mlynedd.

Mae’r fenter wedi bod yn lledu’r gair am rywogaethau maethlon a blasus cnydau a dyfir yn y DU megis ffa fava, cwinoa a barlys digroen trwy annog cogyddion i ddefnyddio’r bwydydd hyn, a phobl sy’n ysgrifennu am fwyd i ddweud wrth eu darllenwyr ei bod yn amser dianc rhag y gwarthnod fod y bwydydd hyn ar gyfer pobl sy’n methu fforddio cig yn unig.

hodmedod-1

“Ein nod yw sicrhau fod y bwydydd angof hyn yn troi’n fwydydd bob dydd eto. Gwneir hyn drwy eu cynnwys mewn llyfrau rysáit, ar wefannau ac mewn papurau newydd cenedlaethol, Trwy wneud hyn gallwn feithrin hyder pobl a’u hannog i’w defnyddio wrth goginio” meddai Josiah Meldrum, 43, cyd-sylfaenydd Hodmedod, sy’n golygu ‘malwoden’ neu ‘ddraenog’ yn nhafodiaith East Anglia.

Gyda gwybodaeth am y farchnad gan gyfanwerthwyr, dosbarthwyr a’u gwefan eu hunain, mae tîm Hodmedod wedi gallu dangos i ffermwyr fod y galw wedi galluogi dyblu eu maint a’u gwerthiant nhw bron bob blwyddyn ers 2012.

Enillodd gweledigaeth Hodmedod ar gyfer system bwyd gwell ac ansawdd y ffacbys a’r grawn a dyfir gan ei rhwydwaith ffermwyr, Gwobr ar gyfer y ‘Best Food Producer’ yng Ngwobrwyon Bwyd a Ffermio’r BBC yn 2017, camp sy’n awgrymu eu bod yn ennill calonnau a meddyliau, yn ôl Josiah. “Cydnabyddiaeth yw ein bod yn gwneud rhywbeth sy’n cyfateb i newid go iawn yn y ffordd o dyfu a masnachu cnydau, a gwneud y cnydau hyn yn lleol eto, fyddai fel arall yn ddienw, ac yn gynnyrch sy’n cael ei fasnachu ar lefel fyd-eang yn unig.

Gellir dysgu mwy am amrediad cynnyrch a stori Hodmedod yma: www.hodmedods.co.uk.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: beans, grains, new markets, pulses, a Suffolk.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.