Friday October 2nd, 2020

Adeilad Eco yw allwedd llwyddiant ‘Halen Môn’

halenmon-main
Pictured: David and Alison Lea-Wilson.

Adeilad arloesol yn hwyluso rhewi prisiau am dair blynedd.

Roedd y penderfyniad i fuddsoddi yn y strwythur am gost o £1m – a elwir yn gwt halen – wedi achosi i’r perchnogion Alison a David Lea-Wilson golli nifer o nosweithiau cwsg.

Ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r penderfyniad i fentro wedi talu ei ffordd. Nid yn unig y mae’r strwythur 1,000metr sgwâr wedi caniatáu iddynt arbed arian mawr ar gostau ynni, mae hefyd wedi ennill Gwobr y Frenhines, sydd yn gamp fawr ei glod, ar gyfer cynaliadwyedd.

“Wrth weithio 2 fetr uwchben lefel y môr ac o fewn canllath i’r tonnau, mae newid yn yr hinsawdd yn real iawn,” meddai says David, cyd-sylfaenydd Halen Môn, wrth wylio’r môr o’i swyddfa.

Gyda chredoau cyanladwy yn gefn iddo, comisiynodd Halen Môn dylunio ffatri arloesol, ac erbyn 2015 gorffennwyd yr adeilad sydd â ffrâm fetel. Ers hynny, yn ôl David, “mae’r busnes wedi hedfan.”

David a’i wraig a phartner busnes Alison oedd yn gyfrifol am sefydlu Halen Môn ym 1997. Mae’r busnes ar Ynys Môn yng ngogledd Cymru, a’r môr o’u cwmpas, a sylweddolodd y cwpl bod yna fwlch yn y farchnad am halen y môr. “Yr unig halen oedd ar gael bryd hynny,” meddai David “oedd halen bwrdd.”

Roedd ymweliad â Japan yn drobwynt iddynt. “Mae trigolion Japan o ddifrif am eu halen,” dywed David “ac o ganlyniad roeddwn yn credu y byddai cwsmeriaid yn talu mwy am gynnyrch crefftwr.”

Prin iawn oedd gwybodaeth am sgiliau cynaeafu halen traddodiadol. “Doedd dim cofnodion i ddangos sut i wneud y pethau hyn,” yn ôl David. “Felly roedd yn rhaid inni ail-greu’r olwyn.”

Heddiw, diweddarwyd y sgiliau hyn gydag amrediad eang o gynnyrch sy’n cael ei werthu o gwmpas y byd.

halenmon-1

Y cwt halen oedd allwedd y llwyddiant, peiriant hynod effeithlon sy’n dibynnu ar baneli solar a thrwch insiwleiddio o chwe modfedd. Mae’r dyluniad yn sicrhau taw ychydig iawn o ynni sy’n cael ei wastraffu, sy’n ateb cost y cynhyrchiant sy’n defnyddio llawer o ynni.

Mae ffan fawr yn dosbarthu gwres cyrff cwsmeriaid a’r gweithwyr o gwmpas yr adeilad. “O ganlyniad,” meddai David “boeler domestig yn unig sydd ei angen ar gyfer yr adeilad cyfan.” Defnyddir gwactod i ddal yr ager sy’n cael ei greu yn ystod y broses cynhyrchu, a’i ailgylchu i gynhesu dŵr y môr. Rydym yn potelu ac yn gwerthu dŵr distylledig sy’n cael ei greu fel isgynnyrch.

Wrth gydnabod eu cyraeddiadau o ran cynaliadwyedd, derbyniodd Halen Môn Wobr y Frenhines yn 2017.

Mae’r dulliau gweithio moesegol yn gwneud synnwyr da o safbwynt y busnes. Ers symud i’r safle newydd, mae’r cwmni wedi llwyddo i arbed tua 30% o’u costau llafur, nwy a thrydan. “Roeddem yn disgwyl arbed arian ar ynni,” meddai David “ond llwyddwyd i ragori ar y ffigur hwnnw oherwydd roedd angen llai o ynni arnom, ac roeddem yn gallu monitro’n union sut a lle defnyddir ynni yn yr adeilad trwy system rheoli’r adeilad.” Trosglwyddwyd yr arbedion hyn i’r cwsmer, ac ni fu cynnydd yn eu prisiau am dair blynedd. Mae’r gwerthiant wedi cynyddu, ac erbyn hyn mae trosiant y cwmni’n filiynau o bunnoedd.

halenmon-2

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, roedd yn rhaid delio gydag amheuaeth pobl oedd yn anghyfarwydd gyda chynnyrch crefftwr. Y dyddiau hyn, mae her newydd wedi cyrraedd yn agosach at adref. Trwy ganolfan ymwelwyr y ffatri, mae gan gystadleuwyr fynediad at ysbrydoliaeth, ac at eu hefelychu weithiau. Er hynny, mae system datblygu cynnyrch effeithiol yn sicrhau bod Halen Môn un cam ar y blaen. “Mae rhai syniadau’n llwyddo, eraill ddim” yn ôl David “ond mae gwaith datblygu’n digwydd o hyd.”

Ymddengys taw arloesi ynghyd â phrofi trwyadl sydd wrth galon llwyddiant Halen Môn. “Mae angen gweledigaeth,” meddai David “ei phrofi tu allan i’r teulu, a chredu ynddi.”

Gellir dysgu mwy am stori Halen Môn yma: www.halenmon.com.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: artisan produce, commercial scale, investment, Isle of Anglesey, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.