Ffermwr Eidion organig optimistaidd yn mentro i rentu tir i arddwyr marchnad bach
Mae angen cydweithio i annog mwy o bobl ifanc i ffermio
Mae John Morris yn ffermwr eidion organig llwyddiannus, sydd hefyd yn cyflenwi Sudd Afal Cymreig i Dywysog Cymru. Felly pam mae’n rhentu 3.5 erw o’i dir gorau ger Crughywel i bâr ifanc sydd newydd gychwyn ffermio da byw cymysg a gardd farchnad?
“Y broblem gyda ffermio yma yng Nghymru ac ar draws y DU yw bod oedran cyfartalog ffermwyr traddodiadol yn 60 oed a mwy,” meddai John, “felly dylai ffermwyr annog pobl ifanc sydd am gychwyn ffermio – ac nid o reidrwydd eu meibion a’u merched eu hunain. Mae angen gwaed newydd yn y diwydiant.”
A dyna’n union wnaeth John, wrth wahodd David a Katherine Langton i gychwyn eu fferm ym mis Mawrth 2020. Mewn llai na blwyddyn mae ganddyn nhw foch, ieir dodwy, ieir ar gyfer cig, a rhesi o lysiau yn yr ardd farchnad atgynhyrchiol dim-palu. “Mae bwyd lleol wedi bod yn bwysig imi erioed,” meddai John – mae’r busnes sudd afal, sy’n cael ei redeg gan ei fab bellach, wedi defnyddio afalau a dyfir o fewn ychydig o filltiroedd i’r fferm erioed.
Yn ôl John, yr hyn sy’n wahanol rhyngddo ef a thirfeddianwyr traddodiadol eraill yw ei fod yn rhentu allan ychydig iawn o dir: “Mae’n dipyn o naid ar gyfer tirfeddiannwr traddodiadol, yn enwedig wrth rentu rhan fach o’r fferm yn unig. Peth mwy cyffredin yw rhentu mwy o dir neu hyd yn oed y fferm gyfan ar sail fasnachol fel tir pori er enghraifft.”
Mae John yn derbyn rhent blynyddol am y cae, sy’n rhoi ychydig mwy o amser iddo wrth baratoi i ymddeol, a derbyn incwm o’i dir o hyd. “Yn fy marn i mae’n rhaid i ffermio fod yn broffidiol, ac imi fel ffermwr, mae’n rhaid imi ennill incwm ohono” meddai John, “Rwyf wedi cyrraedd oedran lle ’dwi’n dal i ffermio, ond ’dwi’n torri nôl, ac roedd rhentu’r cae yma’n ffordd i roi cyfle i rywun arall heb golli allan ar yr ochr ariannol.”
Mae John yn annog tirfeddianwyr eraill i beidio cael eu digalonni gan ddulliau ffermio sy’n newid y caeau. “Mae strwythur y cae wedi newid, oherwydd bod twnnel plastig a ffens arno bellach, ynghyd â moch a phethau eraill; felly os byddech am droi’r cae’n dir pori eto, byddai angen newid pethau. Yn fy marn i efallai y bydd hynny’n anodd i rai ffermwyr, ond nid yw’n broblem fawr o’m safbwynt i.”
Mae teulu Langton yn arfer dull tyfu ‘dim-palu’ sy’n diogelu strwythur y pridd, ac yn gwella ei ansawdd. Yn ôl John, ni fyddai’n anodd troi’r cae yn dir pori eto pe bydden nhw’n penderfynu symud ymlaen.
Yn ogystal â derbyn incwm o’r tir, mae John hefyd yn cydweithio gyda’r teulu ar ei gynllun blychau llysiau – mae eu cwsmeriaid yn gallu cael potel o’i sudd afal o berllan John gyda’u llysiau. Mae’r Langtons yn derbyn tir sydd â thystysgrif organig i dyfu arno, ac unrhyw gymorth o ran peiriannau mawr; nid ydynt yn berchen ar y rhain ac mae John yn hapus i gynnig help – a derbyn hanner dwsin o wyau ganddynt bob hyn a hyn.
Cyngor John i dirfeddianwyr sydd am fentro i’r maes yma yw gofalu eu bod yn credu yn y prosiect, a’u bod yn dewis y tenant iawn. “Mae’n rhaid cael y cleient iawn, a ’dwi wedi bod yn ffodus iawn fan hyn – mae David a Katherine wedi ymrwymo i’w menter, .” meddai John.
“Mae’r hyn sy’n digwydd yma wedi gwneud cryn argraff arnaf, ac mae’n dempled i ffermydd eraill mewn ardaloedd eraill. Yn enwedig gyda Brexit ac yn anffodus oherwydd Covid, mae ein ffordd o dyfu a dosbarthu cynnyrch fferm wedi troi’n fwy lleol. Rwyf erioed wedi bod o blaid arallgyfeirio ar ffermydd.”
Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.
FFEITHIAU
Prydlesu tir ar gyfer ffermio raddfa fach (1-5 hectar) | |
Cyfraddau |
|
Materion y mae angen delio â nhw |
|
Drafftio cytundeb |
|