Friday October 2nd, 2020

‘Norton & Yarrow’: mentro i fyd cadw geifr a gwneud caws

nortonandyarrow-main
Pictured: Fraser Norton and Rachel Yarrow. Photo: Mark Lord.

Gwobrwyon aur ac yn talu costau o fewn dwy flynedd gyntaf y busnes.

Nid peth hawdd oedd rhoi’r gorau i yrfaoedd ym maes technoleg ffonau symudol a dysgu i gadw geifr a gwneud caws, ond mae Fraser Norton a Rachel Yarrow yn fodlon gyda’u penderfyniad i fentro.

Ers misoedd cynnar 2016, mae’r cwpl wedi bod yn cynhyrchu caws geifr ger Shillingford yn Ne Swydd Rhydychen, a bellach mae ganddynt fuches o 12- gafr ac yn meistroli’r grefft o wneud caws, yn ogystal â meithrin cleientiaid o ran y farchnad ar gyfer caws crefft.

“’Dwi mor falch mai ni sy’n rheoli pob agwedd ar y busnes,” meddai Fraser. “’Dwi’n hoffi’r ffaith ein bod yn cynhyrchu rhywbeth sy’n cael ei fwyta gan bobl ac maen nhw’n rhoi adborth inni arno.”

Cafodd y busnes hwb cynnar trwy ennill gwobr ar gyfer y “Caws Newydd Gorau” yn ystod Noson Gwobrwyo Caws Crefft yn Ebrill 2017. Yn 2019 lansiwyd caws newydd Brightwell Ash, ddaeth yn ail yng nghategorïau Caws Geifr Gorau a Chaws Newydd Gorau Gwobrwyon Caws Crefft y flwyddyn honno.

nortonandyarrow-1

Mae Fraser a Rachel yn rhentu tir a gofod mewn ysgubor gan Earth Trust, elusen amgylcheddol sy’n helpu entrepreneuriaid sy’n methu fforddio’r prisiau uchel am dir i gychwyn busnesau ffermio cynaliadwy. Trwy Earth Trust maen nhw’n cael cysylltiad gyda chynhyrchwyr bach eraill megis ffermwyr moch a defaid, sy’n cefnogi ei gilydd trwy rannu cynnyrch, megis gwair dolydd blodau gwyllt a’r maid o laeth geifr Fraser a Rachel.

Mae’r cwpl wedi codi arian ar gyfer eu costau byw trwy ryddhau rhywfaint o’r ecwiti ar eu cartref tra bo’r busnes yn cychwyn, ac erbyn diwedd 2017 roedden nhw’n talu eu holl gostau.

Roedden nhw’n annog unrhyw un sy’n ystyried cychwyn ffermio ar raddfa fach i wneud digon o waith ymchwil yn y cychwyn cyntaf.

“Mae angen llunio achos busnes ac ystyried holl agweddau ar ochr ymarferol y busnes,” meddai Fraser.

“Siaradwch â phobl sydd eisoes yn ei wneud. Ac os yn bosib, yn debyg i Rachel, chwiliwch am waith rhan amser, neu gallwch wirfoddoli gyda rhai pobl yn y busnes.”

Cymerwch gip ar eu gwefan: www.nortonandyarrow.co.uk.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: artisan produce, cheesemaking, Earth Trust, goats, Oxfordshire, a small-scale producers.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.