Monday October 5th, 2020

Cynaliadwyedd a rhoi’r ‘teulu’n gyntaf’ yw arwyddair ‘Chuckling Goat’

chucklinggoat-main

Llaethdy gofal iechyd cyfannol yng Nghymru’n ailwampio iechyd, marchnata a busnes. 

Cynaliadwyedd, arloesi a ‘rhoi’r teulu’n gyntaf’ sy’n cyfuno llwyddiant y cwmni Chuckling Goat sy’n gweithio ym maes gofal iechyd cyfannol, a sefydlwyd gan Shann a Richard Jones ar eu fferm 25 erw yng ngorllewin Cymru.

Mae’r pâr priod yn cynhyrchu diodydd iechyd a chynnyrch gofal i’r croen o laeth eu buches geifr, ynghyd â llaeth geifr o Laethdy San Helen er mwyn diwallu’r galw mawr am y cynnyrch. Defnyddir eu cynnyrch i drin afiechyd sy’n gysylltiedig â’r coludd a chyflyrau croen cyffredin megis ecsema a soriasis.

“Defnyddir bacteria llesol o’r diodydd kefir i adfer cydbwysedd microbau iachus yn y coludd,” meddai Shann, “Trwy ei gyfuno gydag olewon hanfodol hufen argroenol, mae’n cael gwared ar heintiau ar y croen. Trwy iachau’r coludd, rydych yn iachau ar y tu fewn a’r tu allan yr un pryd.”

Cynaliadwyedd yw sylfaen y busnes, “mae’n werth cyson yn hytrach na datganiad cenhadaeth mewn rhyw ffeil llychlyd rhywle,” yn ôl Shann. Trwy arfer agwedd naturiol i fagu geifr a grawn kefir, meddai Shann, “Rydym yn compostio deunydd gorwedd y geifr i’w ddefnyddio fel gwrtaith ar y caeau, ac rydym yn osgoi defnyddio cynhwysion synthetig yn ein holl gynnyrch – maen nhw’n 100% naturiol.”

chucklinggoat-1

Mae ganddynt gysylltiadau gyda dros 100,000 o gwsmeriaid o bedwar ban byd sy’n ‘debyg i aur’ ac maen nhw’n gwerthu ar-lein yn unig. “Nid ydym yn defnyddio manwerthwyr trydydd parti, a byddwn yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’n cwsmeriaid, dros y ffôn, drwy ebost, drwy sgwrsio ar-lein ac mae ap ar y gweill,” meddai Shann, “Ein prif nod yw creu atebion – dyna ran bwysicaf y busnes. Dewiswyd buddsoddi mewn arbenigwr TG i reoli ein gwefan yn llawn amser, yn lle gwario arian ar gostau i fod ar y stryd fawr a threthi busnes.”

Cychwynnwyd y busnes o ganlyniad i reidrwydd. “Ar ôl cael llawdriniaeth, cafodd Richard yr arch-fyg MRSA, ac nid oedd gwrthfiotigau’n gweithio,” dywed Shann, “Doedd y meddyg ddim yn gallu ein helpu, ac roeddwn yn gwrthod gadael i’m gŵr farw.”

Roedd ganddynt eifr ar y fferm yn barod, ac roedd Shann wedi defnyddio’r llaeth i drin haint bronciaidd ei brawd yn llwyddiannus. “Pan glywais i feddyg o Rwsia ar Radio Four yn trafod rhinweddau kefir, cysylltais ag ef,” meddai Shann. Dysgodd y meddyg iddi sut i wneud kefir a chreodd hufen i’r croen trwy ddefnyddio olewon hanfodol.

“Roeddwn yn rhoi haen o kefir ac olewon hanfodol dros gorff Rich ac roedd yn yfed kefir tair gwaith y dydd hefyd,” meddai Shann. Ar ôl i feddyginiaeth brif ffrwd ei fethu, roedd hi wedi darganfod triniaeth amgen bwerus. Cliriodd croen Richard ac o fewn pythefnos roedd yn gyrru ei dractor eto.

Ar y cychwyn roedd arian yn dynn. “Roedd gennym gyn lleied o arian, gwerthwyd beic modur Richard i brynu poteli,” dywed Shann. “Nid oedd gennym gyllideb ar gyfer marchnata, ac roeddem yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol. Dywedodd fy mentor wrthyf – Shann, mae’n rhaid iti ysgrifennu llyfr a rhoi dy wyneb i’r busnes.” Dyna wnaeth Shann a llwyddodd ei llyfr i gyrraedd brig rhestr gwerthwyr gorau Amazon. A diolch i Steve Wright ar ei raglen ar Radio Two yn cyfeirio ati, ehangwyd y brand i gynulleidfa lawer ehangach, “Ar ôl hynny, bu cynnydd mawr yn ein gwerthiant, ac wedi hynny rhestr aros o wyth wythnos,” meddai Shann.

Wrth feddwl am eu llwyddiant, y cydbwysedd rhwng bywyd gwaith a’r teulu sy’n bwysig, “Rydym yn gorffen am 4 o’r gloch er mwyn treulio amser gyda’n teuluoedd,” meddai Shann. I’r sawl sy’n gyfarwydd gydag oriau gwaith hir y byd bwyd a ffermio, gellir ystyried rhoi’r ‘teulu’n gyntaf’ fel greal sanctaidd.

Mae Shann yn gweld dull newydd o weithio yn dod i’r amlwg, a seilir ar fusnesau bach uchel eu gwerth sy’n dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol. “Gwnewch yr hyn sy’n bwysig ichi, yr hyn rydych yn frwdfrydig amdano, yr hyn sy’n hardd ac yn werth chweil,” yw cyngor Shann, “Mae gwerth gwirioneddol ynghlwm wrth rannu eich stori – mae pobl am ei chlywed. Dilysrwydd sy’n bwysig i bobl. Eich rhodd chi i’r byd yw eich busnes.”

Gellir dysgu mwy yma: www.chucklinggoat.co.uk.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: Ceredigion, goats, on-line sales, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.