Friday October 2nd, 2020

‘Holden Farm’ yn creu busnes cynnyrch llaeth cynaliadwy, Caws Hafod, trwy ychwanegu gwerth

holdenfarm-main
Pictured: Patrick Holden. Photo: Harry Darby, Neals Yard Dairy.

Caws cheddar Hafod, yn allwedd i hyfywedd y fferm laeth hon.

Sut gallwch chi fagu busnes cynaliadwy gyda chynnyrch na roddir digon o bwys arno pan fydd yr ods economaidd yn eich erbyn?

Mae’r ffermwr organig sy’n cynhyrchu’r caws Hafod arobryn, Patrick Holden yn gwybod sut ac wedi dysgu llawer o wersi gwerthfawr dros y 40 mlynedd diwethaf ar ei fferm laeth organig yng ngorllewin Cymru.

“Mae’n anodd i ffermwyr sydd heb swydd yn ystod y dydd neu farchnad premiwm,” yn ôl Holden, “mae’r bobl sy’n prynu llaeth organig sy’n mynd i’r archfarchnadoedd yn talu llai na 40c y litr, ond mae’n costio ffermwyr bach fel ni mwy na 50c y litr i’w gynhyrchu.” Trwy ychwanegu gwerth a chynhyrchu caws ar ei fferm, llwyddodd Holden i ddatrys y broblem.

Cychwynnodd y fferm fel menter gymunedol. Dewiswyd gwartheg Ayrshire yn sgil trafodaeth gyda chymydog oedd yn dweud y byddai buchod Ayrshire yn addas o safbwynt pridd caeau’r fferm a’r hinsawdd. Mae cyfansoddiad llaeth gwartheg Ayrshire, gyda gronynnau braster bach a’r cydbwysedd rhwng braster a phrotein, hefyd yn hynod addas i wneud caws.

Cynnyrch llaeth oedd prif ffocws y fferm erioed, ond hyd at y 2000au cynnar, roedd cnwd o foron organig yn golygu incwm mewn arian parod. Fodd bynnag, ar ôl canoli stordai’r archfarchnadoedd, dros nos, cynyddodd y costau cludo yn ddigon i roi’r gorau i’w tyfu. Bu’n rhaid i’r fferm ystyried incwm arall, oherwydd nid oedd yr incwm o werthu llaeth yn ddigon wrth ei hun. Ar draws y DU, roedd ffermydd llaeth bach yn gorfod gadael y diwydiant. Roedd pris llaeth wedi gostwng yn sylweddol, wrth i ‘laethdai ffatri’ foddi’r farchnad gyda llaeth rhad, a gynhyrchwyd gan dalu fawr o sylw at les yr anifeiliaid na’r amgylchedd.

Diolch i ymweliad amserol yn 2005 gan y Specialist Cheesemakers Association, cafwyd syniad a ategodd manteision dewis gwartheg Ayrshire.

“Ar y pryd, nid oedd y rhan fwyaf o gynhyrchwyr caws arbenigol yn ffermio mewn dull organig, a buchod Holstein Friesian oedd ganddynt yn bennaf,” meddai Holden. Roedd yr SCA o’r farn y gall llaeth buchesi bridiau cynhenid a fagwyd mewn ffordd organig gynhyrchu caws penigamp. Roedden nhw’n awyddus i addysgu eu haelodau, ac roedd fferm Holden yn enghraifft dda.

holdenfarm-1
Hafod cheese. Photo: Harry Darby, Neals Yard Dairy.

Yn dilyn ymweliad y SCA, daeth Sam, mab Holden yn gyfrifol am brosiect caws y fferm, “Wnaethon ni fenthyg £300,000 i gyllido’r prosiect a chynhyrchwyd caws cyntaf Hafod ar 26ain Awst 2007,” meddai. Ers hynny mae caws Hafod wedi ennill nifer fawr o wobrwyon, ac yn y pen draw mae llwyddiant y caws yn dangos y gall ffermydd llaeth bach organig dal fod yn ddewis hyfyw i ffermwyr trwy ychwanegu gwerth – sydd yn achos Holden yn golygu gwneud caws.

Roedd y fferm 300 erw ymhlith y ffermydd cyntaf yng Nghymru i dderbyn tystysgrif fel fferm laeth organig. Heddiw, mae yno fuches o ryw 80 o fuchod godro, gyda 50 o anifeiliaid ifainc. “Rydym yn ffermio yn y ffordd hon, heb ddefnyddio unrhyw wrtaith nitrogen ers 46 mlynedd bellach ac mae’r system yn gweithio,” meddai Becky, gwraig Holden. “Yn raddol, mae mater y pridd organig yn cynyddu, yn cymryd CO2 allan o’r awyrgylch, ac yn cyfoethogi’r uwchbridd.”

Dulliau rheoli ansawdd mewnol sydd yng ngofal y cynhyrchiant. Mae traean o’r gwerthiant yng Nghymru, a gwerthir y gweddill gan gyfanwerthwyr ar draws y byd, mor bell ag Awstralia. Gwerthir 20% o’r llaeth yn lleol i gydweithfa organig, “sy’n golygu y gallwn werthu’r llaeth dros ben os nad ydym yn cynhyrchu caws,” meddai Holden.

O safbwynt ariannol mae wedi bod yn anodd, “Nid oedd gennym incwm o’r fferm am gyfnod hir,” dywed Holden, oedd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas y Pridd hyd at 2010, swydd a gyfeirir ati fel ei ‘swydd yn ystod y dydd’. Fodd bynnag, dywed, “byddai’r fferm wedi gallu gweithio pe bawn i wedi aros fel gweithiwr fferm llawn amser, ond roedd gennyf waith arall i’w wneud.”

Rhwystr arall oedd cael hyd i weithwyr “ond mae’n dechrau newid nawr ’dwi’n meddwl” meddai Holden, “mae gan fwy o bobl ddiddordeb mewn dod yma a dysgu am ein dulliau.”

I bobl sy’n newydd i fyd ffermio, dywed Holden, “Gweithiwch ar y tir, dysgwch sgiliau trwy eu hymarfer. Byddwch yn brentis i ffermwyr a thyfwyr, dysgu ganddyn nhw a rhwydweithio gyda chymaint o gymunedau o bobl ifanc sydd am ddychwelyd i’r tir.”

Gellir dysgu mwy ar y wefan: www.hafodcheese.co.uk ac ar Instagram: @hafodcheese

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: adding value, artisan produce, Ceredigion, cheesemaking, family farm, organic, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.