Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau sydd yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymreig
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau sydd yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymreig er mwyn sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr fydd yn cryfhau’r diwydiant cyfan.
Gallant gefnogi amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi o ddiogelwch a deddfwriaeth bwyd, iechyd a diogelwch, peirianneg, marchnata, archwilio, allforio, cyllid a rheolaeth, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gallant hefyd gefnogi cyrsiau hyfforddi pwrpasol i weddu i anghenion eich busnes fel bod gweithwyr yn cael y gorau o gyrsiau wedi’u teilwra.
Yn dibynnu ar faint y busnes, gallant gefnogi hyd at 80% o gostau’r cwrs, yn well byth fel busnes rydych chi’n talu’r cyfraniad a gytunwyd o gost y cwrs yn unig, gan mai’r Darparwr Hyfforddiant sy’n hawlio’r cyllid dros ben gan Sgiliau Bwyd Cymru wedi i’r cwrs hyfforddi cael ei gwblhau.
Bydd busnesau cymwys sydd eisiau cymorth gan y rhaglen yn gwneud cais drwy gwblhau Teclyn Diagnostig Sgiliau gydag aelod o dîm Sgiliau Bwyd Cymru. Bydd hyn yn helpu’r busnes i nodi unrhyw fylchau sgiliau a rhoi cynllun hyfforddi wedi ei deilwra ar waith. Yna gall busnesau ymgeisio am gyllid er mwyn helpu gyda’r gost o gwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi.
Am ragor o wybodaeth o sut mae Sgiliau Bwyd Cymru yn gallu gefnogi’ch busnes, cysylltwch â Lantra:
Ffôn: 01982 552646
Categorïau: Dechrau.