Saturday October 3rd, 2020

La Ferme du Bec Hellouin: Fferm fach, cynhyrchiant mawr, amaethyddiaeth adferiadol

model-bechellouin-main
Photo: La Ferme du Bec Hellouin.

Ydy dulliau ffermio’r cwpl yma’n ateb efallai i’r argyfwng hinsawdd?

Cychwynnodd fel prosiect idealistig; cwpl oedd yn awyddus i ailgysylltu â natur. Trôdd yn arbrawf blaengar, sydd wedi synnu gwyddonwyr ac wedi drysu doethineb confensiynol y byd ffermio. Trwy hepgor peiriannau a gweithio “gyda” natur, mae Perrine a Charles Hervé-Gruyer wedi profi fod ffermio ar raddfa fach â llaw nid yn unig yn hyfyw o safbwynt economaidd, ond hefyd gellir tyfu mwy o fwyd fesul metr na thrwy ddulliau mecanyddol confensiynol.

Yn 2004, rhoddodd Perrine y gorau i’w swydd ym maes cyfraith ryngwladol, a rhoddodd Charles y gorau i’w yrfa hwylio i geisio gwneud bywoliaeth o ffermio, gan ddefnyddio dulliau adferiadol o safbwynt cynaliadwy ac ecolegol. Nid oedd ganddynt unrhyw arbenigedd na phrofiad blaenorol ym maes tyfu. Dywed Charles: “Roedden ni’n awyddus i ailgysylltu â natur, ein hiechyd, ein cyrff, y tymhorau, planhigion ac anifeiliaid, felly prosiect idealistig iawn oedd hwn. Yn anad dim, y gobaith oedd bod yn hunangynhaliol ar gyfer y teulu cyfan, i gynhyrchu pethau iach, bwydo ein plant a rhannu gyda’n cymdogion. Arweiniodd un peth at beth arall, a dyma ni’n penderfynu bod yn ffermwyr.”

Felly, sefydlwyd La Ferme Biologique du Bec Hellouin yn Normandi, Ffrainc. Arferion tyfu gwahanol byd-eang oedd eu hysbrydoliaeth, a chyfunwyd y rhain gyda’r wyddoniaeth ddiweddaraf er mwyn datblygu arferion tyfu bio-ddwys oedd hefyd yn ‘gadarn o safbwynt ecolegol’.

model-bechellouin-1
Photo: La Ferme du Bec Hellouin.

Ar y cychwyn cyntaf, amheuaeth oedd agwedd y gymuned leol tuag at y ffermwyr amatur; cawsant eu galw’n ‘hipis organig’ ac roedd amheuaeth mewn perthynas â’u dulliau arloesol o hepgor peiriannau. Fodd bynnag, yn fuan iawn roedd gan y cymdogion fwy o ddiddordeb ar ôl dod yn ymwybodol o effaith y fenter lwyddiannus; a chynnydd yn y sylw yn y cyfryngau ac ym maes twristiaeth. Bellach mae La Ferme Biologique yn ganolfan blaengar ym maes arferion permaddiwylliant ecolegol ar raddfa fach ac wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol gan sefydliadau gweinyddol ac arweinwyr yn y maes. Meddai Charles: “Mae’r fferm wedi cael effaith economaidd bwysig. Pan ddaethom yma, Abaty Bec Hellouin oedd y trydydd safle drwy’r wlad o safbwynt ymweliadau gan dwristiaid. Ond erbyn hyn, mae’r Swyddfa Twristiaeth yn derbyn mwy o alwadau ynglŷn â’n fferm na’r Abaty.”

Mae’r egwyddorion sylfaenol permaddiwylliannol sy’n cael eu harfer gan Perrine a Charles yn golygu gweithio “gyda” natur yn hytrach nag yn ei herbyn; hwyluso tyfu cnydau hynod gynhyrchiol, a chadw ar yr un pryd, neu hyd yn oed cynyddu bioamrywiaeth ar y fferm, a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ecolegol a’r hinsawdd. Maent yn cadw fferm ‘dim palu’, a thyfir y cnydau mewn gwelyau uchel neu dwneli plastig, a defnyddir taenfa a deunydd organig arall o ffynonellau amrywiol, megis y llyn, gwrtaith o’r stabl leol ac o docio planhigion o gwmpas y fferm. Mae’r adnoddau naturiol hyn, sydd llawn cyfoeth, yn golygu nad oes angen defnyddio gwrtaith mwynol a phlaladdwyr; profwyd bod y cemegau hyn yn cael effaith ecolegol niweidiol. Tyfir cnydau gwahanol ochr yn ochr, ac maent yn cael eu cylchdroi dros y flwyddyn, ac maent yn dal i addasu eu harferion er mwyn darganfod pa rywogaethau sy’n tyfu orau gyda’i gilydd ac mewn amgylchedd gwahanol. Newidiwyd tirwedd yr ardal er mwyn hwyluso dŵr rhedegog, ac maent yn trin y tir â llaw, gan fynnu bod bôn braich yn fwy effeithiol na pheiriannau.

Dywed Charles: “Trwy weithio â llaw, mae mân ardaloedd yn gallu bod yn hynod gynhyrchiol; gydag o leiaf deg gwaith y cnwd o’i gymharu â dulliau ffermio mecanyddol organig. Golyga hyn ein bod yn cynhyrchu’r un nifer o lysiau mewn ardal deg gwaith yn llai ei faint. Rydym yn defnyddio 90% o’r tir i blannu coed, croesawu anifeiliaid, creu llynnoedd, gwrychoedd, coedwigoedd i’w garddio; ecosystem amaethyddol gymhleth iawn ac amrywiol. Mae lefelau cynhyrchiant natur yn uchel iawn, a thrwy geisio efelychu prosesau bywyd, cawn gyfoeth o ffrwythau a llysiau.”

model-bechellouin-3
Photo: La Ferme du Bec Hellouin.

20 hectar yw maint y fferm gyfan, ac mae’n cynnwys coetiroedd, perllannau a thir pori i’r da byw maes. Mae’r safle’n cynhyrchu dros 380 math o ffrwythau, llysiau, perlysiau a phlanhigion meddyginiaethol. Tyfir y llysiau ar ryw 3,500 metr sgwâr (tua 0.9 erw). Maent yn cyflenwi cwsmeriaid lleol a bwytai drud a gallwn gynhyrchu hyd at 100 o flychau llysiau’r wythnos.

Yn 2011, penderfynodd Perrine a Charles brofi fod eu dulliau’n gynaliadwy o safbwynt economaidd trwy eu profi ar lefel wyddonol. Gyda chymorth tîm ymchwil dan arweiniad François Léger o AgroParisTech, ac mewn partneriaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Ffrainc ym maes Ymchwil Amaethyddol, cynhaliwyd astudiaeth wyddonol i brofi y gall permaddiwylliant raddfa fach fod mor gynhyrchiol â neu ragori ar ddulliau traddodiadol o ran hyfywedd economaidd. Cynhaliwyd yr astudiaeth dros gyfnod o bedair blynedd, a defnyddiwyd ardal tyfu o 1000m2 (neu ¼ erw). Mesurwyd y lleiniau’n fanwl iawn (centimetrau sgwâr), a chofnodwyd yn drylwyr faint o ddeunydd organig a ychwanegwyd ar y safle a faint o gynnyrch a gynhyrchwyd. Does dim amheuaeth am ganlyniadau’r astudiaeth; mae allbwn gerddi sy’n mesur 1000m2 yn ddigon i gynnal unigolyn, llawn amser, sy’n gweithio 44 awr yr wythnos, gyda gwerthiant net gros o €54,300 y flwyddyn, trwy werthu llysiau’n unig. *

Ac yn ôl y cwpl, mae’r dulliau’n ecolegol gynaliadwy hefyd. Mae’r dulliau bio-ddwys yn cynyddu cyfleoedd dal a storio carbon a’r maetholion sydd ar gael o’i gymharu ag arferion amaethu confensiynol; gan wella’r pridd ar gyfer mwy o dyfiant, a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yr un pryd.

model-bechellouin-2
Photo: La Ferme du Bec Hellouin.

Mae’r cwpl yn credu y gall gweithio ar raddfa fach gael effaith ledled y byd. Yn ôl Charles, “gall pob un o’r ffermydd bach yma fod yn ddalfa garbon, cyfoeth o fioamrywiaeth, lle mae’r pridd yn cael ei adfer, a lle gellir creu cyfoeth o gynnyrch i gymunedau lleol”. Ac mae canlyniadau positif yr astudiaeth ac effaith eu dulliau ar yr amgylchedd lleol wedi denu sylw asiantaethau Ewropeaidd sy’n gyfrifol am gynllunio strategaethau diogelwch bwyd. “Os caiff y dull hwn o weithio, a ysbrydolir gan y byd naturiol, ac sy’n creu cyfoeth o gynnyrch, ei roi ar waith yn gyflym, hwyrach y gellir osgoi trychineb. Y diwrnod y caiff y technegau hyn, a ysbrydolir gan natur, eu defnyddio ar hyd y byd gan filiwn o ffermwyr bach, mae potensial anhygoel yn bosib,” meddai Charles.

Mae’r cwpl yn frwdfrydig am ledu’r gair ac addysgu eraill o ran sut i fyw yn fwy cynaliadwy. Mae eu llyfr, ‘Miraculous Abundance: One Quarter Acre, Two French Farmers, and Enough Food to Feed the World’ yn cofnodi eu taith i fyd permaddiwylliant dros y 10 mlynedd diwethaf, ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ac arweiniad i’r sawl sydd am symud tuag at amaethyddiaeth gynaliadwy. Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd llawlyfr ar gyfer ffermwyr ‘amatur a phroffesiynol’ fel ei gilydd. Mae’n cynnwys tri llyfr clawr caled sy’n llawn gwybodaeth a thechnegau ar greu, o’r cychwyn i’r diwedd, fferm a seilir ar ddiwylliant sy’n ecolegol gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Ffrangeg yn unig.

A neges Charles i’r sawl sy’n cychwyn ar amaethu permaddiwylliannol? “Dechreuwch gydag ardal fach, a chanolbwyntio ar gael y gorau allan ohoni”. Dyna’n union wnaethon nhw!

Os hoffech ddysgu mwy am La Ferme Biologique de Bed Hellouin, ewch i’r wefan: www.fermedubec.com.

 

* Nodyn y golygydd: mae llawer o ffermydd sy’n defnyddio’r dulliau cynhyrchu uchel hyn yn rhedeg ar elw o o leiaf 60%, felly mae hyn yn cyfateb i ffermwr sy’n ennill rhyw £30,000 o ¼ erw.

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: bec hellouin model a pioneer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.