Cyflwyniad i gwrs Permaddiwylliant ar La Ferme du Bec Hellouin
Fferm fach lwyddiannus yw La Ferme du Bec Hellouin sy’n eiddo i Perrine a Charles Hervé-Gruyer. Gallwch ddysgu am dyfu llysiau organig ar y cwrs undydd hwn, ‘Introduction to Permaculture and Ecoculture’, ar y fferm yn Normandi, France.
Ar y cwrs undydd, byddwch yn derbyn cyflwyniad i gynhyrchu llysiau trwy ddefnyddio’r dulliau bio-ddwys a ddatblygwyd ar y fferm, a’r prif egwyddorion sef permaddiwylliant ac ecoddiwylliant. Mae’r cwrs, a gyflwynir trwy gyfrwng y Saesneg, yn darparu’r arfau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ddefnyddio’r technegau hyn yn eu prosiectau eu hunain.
Pam mae’r cwrs mor dda
Mae’r cwrs yma’n wych oherwydd taw treulio amser ar fferm fach lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf ysbrydol i ddysgu am a mentro i fyd cynhyrchu bwyd! Dim ond diwrnod yw hyd y cwrs, felly nid oes angen ymrwymo i lawer iawn o amser, a hwyrach y cewch amser i fwynhau rhai o’r mannau hyfryd eraill yn yr ardal hon yn Ffrainc!
Archebu lle ar y cwrs
Am fwy o wybodaeth, ac i gael manylion dyddiadau’r cwrs nesaf, ewch i wefan Bec Hellouin.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: bec hellouin model a pioneer model resources.