Monday October 5th, 2020

Y Garddwr Marchnad: Ennill bywoliaeth dda ar fferm fach

model-market-gardener-main
Photo: The Market Gardener.

Yn ôl y Ffermwr o Ganada sy’n ‘Seren y byd Roc’ ni fu amser gwell i ddechrau tyfu.

“Mae’n bryd ailddyfeisio amaethyddiaeth, i’w wneud yn addas i ddyn ac yn broffidiol,” meddai Jean-Martin Fortier, sydd wedi dod yn enwog ar lefel ryngwladol am ei fentrau ym maes amaethyddiaeth organig raddfa fach. Ei ddadl yw ei fod yn bosib gwneud bywoliaeth dda o ffermio llai na 2 erw. Mae’r neges honno, a gyhoeddwyd drwy lyfr hynod boblogaidd, yn ymddangos yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau ac ar deithiau nifer o weithiau, wedi ennill enwogrwydd i Jean-Martin sydd yn ddieithr fel arfer i arddwyr; i rai mae’n enwog “Ffermwr y Byd Roc.”

Sefydlodd Jean-Martin ei fusnes Les Jardins de la Grelinette, gyda’i wraig, Maude-Hélène Desroches, yn St Armand, Quebec, Canada. Micro-fferm lewyrchus yw, sy’n cynhyrchu bwyd ffres, organig, llawn maeth ar raddfa cynhyrchiant uwch na ffermydd arferol, ac ar yr un pryd mae’n gwella iechyd a bioamyrwiaeth yr ecosystem leol ac yn cyfrannu at ddyfodol ffermio llawer mwy cyfeillgar o safbwynt ecolegol. Sefydlwyd Les Jardins de la Grelinette yn 2004, ac yn sydyn iawn denodd sylw ar lefel ryngwladol oherwydd y cynhyrchiant a phroffidioldeb rhyfeddol, er taw dim ond 1.5 o’r 10 erw sy’n cael ei drin mewn gwelyau parhaol. Mae’r fferm yn cynhyrchu digon o fwyd i fwydo mwy na 200 teulu’r flwyddyn trwy flychau llysiau bob wythnos a chyfranddaliadau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA); sef system lle mae defnyddwyr yn buddsoddi yn y fferm ac yn rhannu’r costau cynhyrchu, ac yn ei dro, maent yn derbyn cyflenwad rheolaidd o fwyd ffres, lleol. Mae elw gros Les Jardins de la Grelinette dros C$100,000 yr erw, ac mae’r elw gweithredol tua 60%; dywedir ei fod yn gallu “cynhyrchu pum gwaith mwy ar dir pum gwaith llai ei faint.” Yn ôl Jean-Martin Fortier mae’r llwyddiant yn dangos y gall ffermio ar raddfa fach, bio-ddwys gystadlu’n rhwydd gyda neu hyd yn oed rhagori ar gynhyrchiant ffermydd cnydau mawr traddodiadol. A gall olygu eich bod yn hapusach hefyd: “Y nod yw cynyddu cynhyrchiant, ond hefyd ansawdd bywyd bob blwyddyn. Rydym am gynhyrchu mwy trwy weithio llai”, meddai Jean Martin.

model-market-gardener-2
Jean-Martin Fortier. Photo: The Market Gardener

Astudiodd Maude-Hélène Desroches astudiaethau amgylcheddol yn y brifysgol; ei nod yw cael ffordd o fyw fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae’n credu fod ffermio organig lleol yn gwireddu hyn: “mae’n bwysig ysbrydoli pobl i fyw mewn harmoni gyda natur. Ym maes amaeth atgynhyrchiol gwelaf botensial ar gyfer gobaith yn y dyfodol ac effaith gadarnhaol yn ein cymunedau.” Daw enw micro-fferm Fortier a Desroches o offeryn garddio traddodiadol, sef ‘grelinette’ neu fforch lydan. Defnyddir y fforch i balu pridd dwys er mwyn gwella awyriad a draeniad, heb amharu ar strwythur yr haenau pridd, ac felly cadw’r ecosystemau yn y pridd. Oherwydd hyn, mae’r grelinette yn arf effeithiol ar gyfer system ffermio ‘dim palu’; dull o ffermio a ddefnyddir gan y cwpl ar eu fferm.

Mae’r fferm yn defnyddio model bio-ddwys, raddfa fach, lle caiff cnydau eu tyfu mewn ardaloedd bach dwys er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfoeth o adnoddau sydd yn y pridd. Trwy ddefnyddio ychydig iawn o beiriannau, mae’r allyriadau carbon yn is, ac ar yr un pryd maent yn dal carbon organig trwy’r ecosystemau bioamrywiaeth a ddatblygir. Enghraifft o ‘amaethyddiaeth atgynhyrchiol’ yw hyn; sef dull o ffermio sy’n cyfoethogi’r systemau lleol naturiol trwy wella bioamrywiaeth, iechyd y pridd a chefndeuddwr, oherwydd mae pob un o’r rhain hefyd yn cyfrannu at gnydau uwch. Mae’r micro-fferm yn cynhyrchu dros 40 math o lysiau, ochr yn ochr â gwartheg, ieir a moch maes am eu cig; a gwerthir popeth yn lleol.

Er mwyn ysbrydoli eraill, cyhoeddodd Jean-Martin lyfr gyda’r teitl The Market Gardener: A Successful Grower’s Handbook for Small-Scale Organic Farming, a werthodd 170,000 o gopïau ar draws y byd erbyn 2020; cyhoeddwyd y llyfr mewn 8 iaith, ac enillodd nifer o wobrwyon a chanmoliaeth gan arweinwyr yn y maes. Yn y llyfr mae’n dadlau y gall ffermwyr ennill cyflog chwe ffigur ar ychydig o erwau o dir; dylai’r neges hon apelio at bobl ifanc sydd am ffermio mewn ffordd gynaliadwy ond sy’n poeni na fyddant yn ennill bywoliaeth go iawn. “Mae mwy a mwy o bobl yn sensitif i broblemau amaethyddiaeth raddfa fawr, ac yn troi at dyfwyr bach ar gyfer yr atebion. Felly, ni fu amser gwell erioed i ddechrau ffermio; mae angen mwy o ffermwyr yn ein byd. Mae angen i lu o gynhyrchwyr disodli’r drefn o gynhyrchu ar gyfer y lluoedd.”

model-market-gardener-1
La Ferme des Quatre Temps. Photo: The Market Gardener.

Mae Jean-Martin a’i ddulliau arloesol wedi denu sylw sylweddol yn y cyfryngau; a defnyddiwyd yr arfau hyn i ledu’r gair ymhellach eto ynghylch amaethyddiaeth organig, raddfa fach, ac ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl. Llyfr Fortier ysbrydolodd ei gwrs ar-lein, a ddatblygwyd ac a gyhoeddwyd yn 2017; bellach mae miloedd o fyfyrwyr o 56 gwlad wedi ei ddilyn; y nod yw creu cymuned fyd-eang o bobl debyg eu barn gyda’r amcan yn y pen draw o gynyddu poblogrwydd systemau bach lleol i gynhyrchu bwyd ffres ar hyd a lled y byd. Yn ôl Fortier, “mae cynhyrchwyr llysiau bach organig heddiw yn wynebu bwlch go iawn o safbwynt hyfforddiant mewn technegau blaengar. Cwrs ar-lein yw Dosbarth Meistr y ‘Market Gardener’, sydd yn dysgu trwy ddeunyddiau ysgrifenedig a fideos, yr union fethodoleg, arfau a thechnegau ag yr wyf i’n eu defnyddio i dyfu cnydau’n llwyddiannus.   Y nod yw symud at y lefel nesaf gyda’r garddio marchnad.” Ochr yn ochr â’i lyfr a’r cwrs ar-lein, mae Jean-Martin a’i dîm yn gwahodd interniaid i’r fferm i ddysgu trwy brofiadau ymarferol ac mae’r hyfforddeion yn cyfrannu at fywyd gweithio’r fferm a thrwy hynny’n dysgu’r technegau a dulliau sydd wedi arwain at lwyddiant Les Jardins de la Grelinette. Mae Jean-Martin wedi datblygu catalog helaeth ar-lein o arfau llaw sy’n gweithio’n effeithiol ar raddfa fach ac yn cadw uniondeb ecosystemau lleol. Meddai Jean-Martin: “Mae offer da’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr o ran llwyddiant garddwr marchnad. Ar ein fferm ni, rydym wedi arbrofi ers degawd bellach gydag offer a thechnegau gwahanol i weld beth sydd yn wirioneddol gweithio.”

Yn 2015, cafodd Jean-Martin wahoddiad gan y buddsoddwr busnes André Desmarais i roi cyngor ar ddulliau cynhyrchu La Ferme des Quatre Temps; sef fferm arbrofol – ei nod yw profi y gall dulliau ffermio ecolegol raddfa fach fod yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol na rhai amaethyddiaeth gonfensiynol. Pedair erw o dir ffermio sydd gan La Ferme, sy’n arfer dulliau dwys, 60 erw o dir pori mewn cylchdro i anifeiliaid a thai gwydr mawr lle tyfir llysiau trwy gydol y flwyddyn. Rhoddwyd hwb i fioamrywiaeth trwy blannu blodau, creu pyllau ac adeiladu tai adar a chychod gwenyn, ac felly darparu ffynonellau peillio naturiol a dulliau rheoli pla naturiol. Eisoes mae’r fferm yn cyflenwi llysiau ffres organig i lawer o fwytai Montreal, ond am brisiau fforddiadwy – model ffermio hollol gynaliadwy, y mae Jean-Martin a Mr Desmarais yn awyddus i’w hyrwyddo. “Rydym yn chwilio am ffordd i wneud arian a chynhyrchu bwyd maethol da, am brisiau cystadleuol ar gyfer cymdeithas iachach,” meddai Mr Desmarais. Eu gobaith yw sefydlu siop fferm sy’n debyg i ‘siop gyffredinol’, lle gall defnyddwyr brynu cig organig, cynnyrch llaeth, wyau, llysiau a dyfir yn lleol a chynnyrch a gynhyrchir yn ffres.

Meddai Jean-Martin: “Fy mwriad yw ysbrydoli, addysgu a grymuso pobl i gydweithio er mwyn lluosi nifer y ffermydd bach ecolegol ar draws y byd. Yn fy marn i, dyma’r ffordd i greu system bwyd a seilir ar natur a chymuned yn lle gwenwyn a dulliau dinistriol amaethyddiaeth ddiwydiannol. Bwyd sy’n cael ei dyfu gyda gofal, gan ac ar gyfer pobl sy’n poeni,” dywed Jean-Martin.

Os hoffech ddysgu mwy am y ‘Market Gardener’, ewch i’r wefan yma: www.themarketgardener.com.

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: market gardener model a pioneer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.