‘Miraculous Abundance’: llyfr La Ferme du Bec Hellouin
Fferm fach lwyddiannus yw La Ferme du Bec Hellouin sy’n cael ei rhedeg gan Perrine a Charles Hervé-Gruyer. Bydd athroniaeth y cwpl yn eich ysbrydoli yn eu llyfr, Miraculous Abundance.
Mae Miraculous Abundance yn adrodd hanes La Ferme du Bec Hellouin, ac yn olrhain agwedd unigrwydd y cwpl tuag at ffermio. Yn wahanol i lyfrau eraill ar y wefan hon, nid llawlyfr ‘sut i’ yw Miraculous Abundance, ond mae wedi cael ei gynnwys oherwydd mae’n trafod manylion pwysigrwydd datblygu technegau ffermio newydd, ochr yn ochr â hanes ysbrydol datblygiad y fferm.
Pam mae’r llyfr mor dda
Mae’r llyfr yn cynnig safbwynt diddorol iawn i gysyniad ffermio er budd pobl a’r tir. Nid oedd yr awduron wedi ffermio o’r blaen cyn sefydlu La Ferme du Bec Hellouin, felly mae’n debyg y bydd o ddiddordeb penodol i bobl sydd ar fin cychwyn ar daith ffermio.
Adolygiadau
“Roedd y llyfr yma’n wych, ond nid llyfr ‘sut i’ yw; yn hytrach stori teulu sy’n dysgu ffermio yw. Y peth mwyaf pleserus am y llyfr oedd ei fod yn apelio at synnwyr harddwch a phosibilrwydd mewn ffordd na lwyddodd llyfrau eraill am arddio marchnad i’w wneud.” – Adam
“Llyfr llawn ysbrydoliaeth, ond idealistig braidd. Mae’n cynnig safbwynt newydd ar y dyfodol. Yn bendant yn gwneud i rywun feddwl.” – Eva
“Ysbrydol a gweledigaethol.” – Katri
Gellir darganfod mwy am y llyfr yma.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: bec hellouin model a pioneer model resources.