Monday October 12th, 2020

Llyfr ‘The Urban Farmer’: Curtis Stone yn rhannu ei wybodaeth

urban farmer book
Photo: Pinterest.

Mae Curtis Stone, dan ei deitl amgen Urban Farmer wedi datblygu model busnes ffermio llwyddiannus gydag ychydig iawn o dir. Mae wedi ysgrifennu llyfr gyda’r teitl The Urban Farmer, sy’n canolbwyntio ar ddysgu’r dulliau tyfu llwyddiannus yma.

 

Llawlyfr cynhwysfawr, ymarferol yw The Urban Farmer i’ch helpu dysgu’r technegau a’r strategaethau busnes fydd eu hangen arnoch i wneud bywoliaeth dda o dyfu cnydau uchel eu gwerth ac uchel eu cnwd yn eich iard gefn eich hunan (neu iard gefn rhywun arall). Yn seiliedig ar fodel busnes sy’n rhwydd ei gopïo a’i atgynhyrchu, The Urban Farmer yw’r unig lawlyfr sydd ei angen arnoch i gadw’r risg yn isel a gwneud yr elw mwyaf posib trwy ddefnyddio dulliau cynhyrchu dwys ar ddarnau bach o dir ar brydles neu a fenthycir.

urban farmer book

Pam mae’r llyfr mor dda

Mae’r llyfr hwn yn dda oherwydd bellach mae wedi ennill ei le fel un o’r prif lyfrau ym maes ffermio proffidiol ar raddfa fach, ac mae’n llawn gwybodaeth! Mae gwaith Curtis Stone yn canolbwyntio ar dyfu i bobl nad ydynt yn berchen ar eu tir eu hunain.

 

Adolygiadau

Curtis Stone sydd ar flaen y gad. Bydd ffermio trefol yn newid ystyr bwyd lleol, ac nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un sydd mor llwyddiannus ag ef yn y maes. A’r peth gorau yw ei fod mor barod i rannu ei fodel busnes llwyddiannus. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i gychwyn fferm broffidiol ar gyllideb fach iawn, dulliau Curtis Stone yw’r patrwm i’w dilyn.” – Jean-Martin Fortier, Sylfaenydd The Market Gardener

Does dim dwywaith mai’r Urban Farmer gan Curtis Stone yw un o’r llyfrau pwysicaf mawr ei angen ar amaethyddiaeth drefol a gyhoeddwyd erioed. Mae’n llawn gweledigaeth ac yn hynod ymarferol ar yr un pryd – cymysgedd rhyfeddol. Mae’n caniatáu inni ystyried tir mewn trefi mewn ffordd hollol wahanol. Pe bawn i’n 18 oed eto, ac yn derbyn y llyfr hwn, buaswn yn torchi fy llewys ac yn cychwyn ar daith arloesol, hynod entrepreneuraidd ac yn dra chyfrifol. Mae’n haeddu gwerthu’n dda.” – Rob Hopkins, Sylfaenydd y mudiad Trawsnewid ac awdur The Power of Just Doing Stuff

 

Gellir darganfod mwy am y llyfr yma.

 

Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: pioneer model resources a urban farmer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.