Ffilm ‘The Market Gardener’s Toolkit’: offer a thechnegau ar gyfer ffermwyr bach
Mae Les Jardins de la Grelinette, Canada yn fferm fach hynod lwyddiannus. Mae’r ffermwr Jean-Martin Fortier wedi rhannu manylion yr offer a’r technegau a ddefnyddir ar ei fferm yn y ffilm, The Market Gardener’s Toolkit.
Yn y ffilm hon, a seilir ar ei lyfr, gwelwn sut mae fferm fach JM Fortier yn llwyddo i ennill $150,000 o werthu nwyddau bob blwyddyn, heb ddefnyddio tractor neu beiriannau trwm. Cafodd ei ffilmio dros dymor tyfu llawn, ac mae’r ffilm yn cynnig cipolwg heb ei ail ar fywyd dyddiol ar y fferm, o blannu hadau i drawsblannu, o chwynnu i gynaeafu. Beth bynnag fo maint eich prosiect, boed yn fferm fach drefol neu ardd farchnad fasnachol fawr, bydd y ffilm yn cynnig gwybodaeth werthfawr i’ch helpu rhedeg eich busnes mewn ffordd fwy effeithlon a phroffidiol.
Pam mae’r ffilm mor dda
Mae’r ffilm yn wych oherwydd mae’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol, a diolch i’r strwythur da, mae’n hawdd ei dilyn ac yn hynod ddiddorol.
Adolygiadau
“Ffilm anhygoel a seilir ar lyfr rhagorol – mae’n rhaid i unrhyw un sydd am wella eu fferm fach organig wylio’r ‘ Market Gardener’, boed er mwyn tyfu ar gyfer eich bwyd personol neu i werthu bwyd. Mae Jean-Martin yn gymeriad hawddgar, ac mae mor rhwydd gwylio a deall y ffilm hon.” – Matt
“Llawn ysbrydoliaeth ac o gymorth mawr.” – Peter
“Mae fy ngŵr a minnau wedi breuddwydio am gychwyn busnes gardd farchnad ers tro. Roedd y fideo’n anhygoel, ac wedi helpu gyda rhai pethau oedd heb groesi ein meddyliau ni. Byddwn yn ei gwylio nifer o weithiau eto, er mwyn dysgu mwy am offer a chyngor penodol.” – Erin
Gellir darganfod mwy am y ffilm yma.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: market gardener model a pioneer model resources.