‘The Market Gardener’s Masterclass’: cyfle i ddysgu gan JM Fortier ar y cwrs ar-lein hwn
Micro-fferm yw Les Jardins de la Grelinette, Canada sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau trwy ddulliau dwys iawn, gan arwain at elw mawr. Mae’r ffermwr Jean-Martin Fortier wedi creu cwrs ar-lein anhygoel, ‘The Market Gardener’s Masterclass’.
Cwrs ar-lein yw’r ‘Market Gardener’s Masterclass’ sy’n dysgu dulliau llwyddiannus JM Fortier ar gyfer tyfu cnydau o safon yng nghyd-destun effeithlonrwydd uwch. Mae JM yn delio gyda’r holl gyngor, arfau a syniadau sy’n gallu arbed oriau ar y maes, ac oddi ar y maes, tra ar yr un pryd yn tyfu llysiau o’r radd flaenaf. Mae deunyddiau ar gael trwy adnodd ar-lein a cheir mynediad ato o unrhyw ddyfais ar unrhyw adeg. Ar ôl cofrestru ar y cwrs, bydd gennych fynediad gydol oes at y cynnwys. Mae’r cwrs yn cynnwys mynediad at:
- Tiwtorialau fideo diddorol
- Adnoddau o ran Arfau a Deunyddiau
- Sesiynau Holi ac Ateb gyda thîm JM
- Taflenni technegol
- Fforymau Cydweithwyr
- Arfau Cynllunio Cnydau
Ymhlith pynciau’r cwrs mae:
- Cynllunio Cnydau a Rheoli Tasgau
- Offer ar gyfer Garddio Marchnad
- Paratoi Gwelyau
- Dyfrhau
- Gweithio gyda Phridd byw
- Cnydau gorchuddio
- Planhigfa a Lluosogi Planhigion
- Ymestyn y Tymor
- Modiwlau manwl sy’n delio gyda phob cam cynhyrchu o hadu i werthu ar gyfer dros 25 o gnydau gwahanol
Pam mae’r cwrs mor dda
Mae JM Fortier yn enwog iawn ac yn uchel ei barch ym maes ffermio proffidiol ar raddfa fach, a lluniwyd cynnwys y cwrs yma yn sgil blynyddoedd a blynyddoedd o brofiad go iawn. Mae’r cwrs yn gynhwysfawr, ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol.
Adolygiadau
“Rydym yn tyfu mwy o lysiau nag erioed, ac mae’r raddfa llwyddiant ar bron bob cnwd yn 100%! Mae’r cnwd yn uwch, mae’r gwerthiant yn uwch ac mae’r elw’n fwy!” – Jessica Washkowiak, Field to Fork, Colorado
“Bydd yr wybodaeth a ddysgwyd trwy fod yn rhan o’r Dosbarth Meistr yn cael dylanwad ar bron bob agwedd ar gynhyrchu ar fy fferm.” – Joseph Frakes, Frakes Family Farm, Iowa
“EWCH AMDANO! Bydd yn newid eich ffordd o ffermio er gwell!.” – Robby Gass, Yr Alban
Cipolwg ac enghraifft o wers
Cofrestru ar gyfer y cwrs
Ewch at Wefan the Market Gardener am lwyth mwy o wybodaeth ac i gofrestru. Weithiau bydd rhestr aros ar gyfer y cwrs yma.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: market gardener model a pioneer model resources.