Sunday October 18th, 2020

Neversink Farm: clipiau i’ch ysbrydoli wrth gychwyn

neversink-farm-how-to-videos-main
Photo: Neversink Farm.

Neversink Farm yw un o’r ffermydd mwyaf cynhyrchiol fesul troedfedd sgwâr yn yr UDA. Ar sianel Youtube y fferm ceir llwyth o gynnwys i’ch ysbrydoli ar sut i gychwyn eich fferm fach eich hunan.

 

Rydym wedi cynnwys rhai fideos fel enghreifftiau yma ichi gyfeirio atynt. Mae llawer eraill ar gael ar sianel Youtube y fferm .

 

Pa mor fach i gychwyn?

Fideo byr ar bwysigrwydd sefydlu fferm fach i gychwyn, ac ehangu wedyn.

Cychwyn ffermio heb unrhyw beth

Fideo 5-munud yn dangos sut y sefydlwyd Neversink Farm, heb fawr o arian na thir.

Pa adeiladau sydd eu hangen wrth gychwyn

Yn y fideo hwn, gellir dysgu am bwysigrwydd adeiladau fferm, a’r rhai sy’n hanfodol wrth gychwyn.

Taith o gwmpas Neversink

Cyfle i fynd ar daith o gwmpas y fferm trwy’r fideo anhygoel hwn.

Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: neversink model a pioneer model resources.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.