Saturday October 3rd, 2020

Neversink Farm: Gwneud ffermio’n haws

model-neversink-main
Photo: Neversink Farm.

Cyn peiriannwr cyfrifiaduron yn troi ffermio’n syml a phroffidiol.

Pan adawodd Conor Crickmore ei fywyd yn y ddinas i redeg tyddyn ym Mynyddoedd Catskill yn Nhalaith Efrog Newydd, roedd yn gwybod y byddai bywyd yn anodd. Ond pan sylweddolodd ei fod yn ennill “ceiniogau’r awr” am weithio diwrnod 12-14 awr, penderfynydd bod yn rhaid newid rhywbeth. Erbyn heddiw mae trosiant Fferm Neversink dros $350,000 y flwyddyn, a hynny ar 1.5 erw o welyau parhaus, ac yn ôl Conor, hwn yw’r tir mwyaf cynhyrchiol fesul troedfedd sgwâr yn y Sir.

Treuliodd Conor ran fwyaf ei fywyd fel oedolyn yn gweithio fel ymgynghorydd ym maes gwyddoniaeth gyfrifiadurol yn Brooklyn, “yn gweithio mewn ciwbicl, yn yfed cwrw ac yn bwyta wystrys mewn fflat drud.” Ond symudodd i dref Neversink yn Sir Sullivan ar ôl priodi Kate, ei wraig. Llain fach o dir oedd ganddynt, a chyfalaf o $30,000: “Nid ffermio oedd y bwriad,” meddai Conor, “dim ond tyfu ein bwyd ein hunain a gwerthu unrhyw beth dros i ben i wneud bywoliaeth.”

Cychwynnwyd trwy gynhyrchu ystod eang o gynnyrch, nid llysiau’n unig ond ieir ar gyfer wyau a chig, gwenyn ar gyfer mêl, a hyd yn oed brithyll. Ond darganfuwyd bod angen gweithio am oriau hir i ennill ychydig iawn. “Roedd yn anodd iawn, iawn,” meddai Conor, “yn y flwyddyn gyntaf, anaml iawn y byddem yn eistedd nôl a meddwl ‘mae hyn yn mynd yn dda’, ond roeddwn yn optimistig. Mae cychwyn busnes yn golygu aberth enfawr ar y dechrau; does dim ffordd arall i’w wneud, ond roedden ni’n awyddus i adeiladu rhywbeth fyddai’n haws wedyn.”

model-neversink-1
Tomatoes at Neversink Farm.

Felly, defnyddiodd Conor ei brofiad o weithio fel ymgynghorydd cyfrifiadurol. “Pan roeddwn yn Brooklyn roeddwn yn llwyddiannus iawn wrth greu systemau cyfrifiadurol mawr i weithio’n gyflym ac yn syml iawn. Trwy’r profiadau cynnar ar y fferm, wnaethon ni sylweddoli bod yn rhaid inni greu ‘system’ ar gyfer popeth. Ac ar ôl inni wneud hynny, newidiodd pethau. Buaswn i’n hoffi dweud inni gael ‘fflach o ysbrydoliaeth’ ond nid dyna ddigwyddodd, dim ond cyfres o fân newidiadau oedd yn sylfaen i’r hyn sy’n digwydd nawr.“

Llwyddodd y cwpl i adnabod systemau neu dechnegau oedd yn effeithio ar effeithlonrwydd, a dileu neu ddiwygio’r rhain. “Roedd angen inni symud rhwng A a B gyda chyn lleied o gamau â phosib, ond hefyd roedd yn rhaid i weithwyr gyflawni’r rhain.” Yn ystod yr ail flwyddyn, llwyddwyd i ddyblu’r cynhyrchiant.

Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol oedd newid o ddefnyddio tractor i offer llaw a pheidio defnyddio peiriant i aredig y tir. Meddai Conor: “Ffermio â llaw yw ein system ni; a defnyddio offer llaw yn lle’r tractor. Mae’r holl blannu, trin y tir a’r cynaeafu yn cael ei wneud â llaw. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio offer a thechnegau cyfoes, sy’n golygu ein bod yn effeithlon a chystadleuol. Mae’r dull hwn o ffermio’n haws, yn fwy cynhyrchiol ac yn gallu cynhyrchu llysiau uwch eu safon. Trwy drin haen uchaf y pridd yn unig, rydym yn llwyddo i gynnal strwythur y pridd a lefelau uchel o ddeunydd organig buddiol a micro-organebau sy’n helpu cnydau i dyfu.

Mae Neversink yn defnyddio technegau plannu a thyfu dwys. Mae’r gwelyau allanol parhaus yn cael eu plannu dro ar ôl tro yn ystod y tymor, rhwng dechrau Ebrill tan ddiwedd yr Hydref. Mae’r twneli plastig yn cynhyrchu llysiau trwy gydol y flwyddyn: “Gwneir hyn drwy gadw’r pridd yn llawn gwrtaith. O ganlyniad, nid oes rhaid inni fraenaru caeau. Credwn fod y dull hwn o ffermio’n creu llysiau iachus sy’n gwrthsefyll clefydau a phlâu.”

model-neversink-2
Conor with his tool creation, the ‘Gridder’.

Hefyd, mae Conor yn disgrifio Neversink fel “fferm heb chwyn.” Trwy blannu eginblanhigion yn ddwys, mae llai o le ar gael i chwyn dyfu a chystadlu â’r cnydau, ond maen nhw hefyd yn defnyddio’r pridd cyfyngedig yn fwy effeithlon. Tyfir tomatos a chiwcymbrs yn y tai gwydr, lle gellir rhyddhau ysglyfaethwyr naturiol, megis nadroedd cynhenid, i gadw plâu draw.

Mae’r llwyddiant wedi caniatáu iddynt werthu mwy o lysiau. Maen nhw wedi bod yn rhan o gynllun amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned (CSA), wedi agor siop ar y fferm, ac maent yn gwerthu’n rheolaidd i farchnadoedd ffermwyr ac i fwytai. “Roedden ni’n arfer mynd i farchnadoedd ffermwyr lleol, ond roedden ni’n tyfu’n ynghynt na nhw. Yn lle ychwanegu mwy a mwy o farchnadoedd ffermwyr, byddem yn gweithio ar gael marchnadoedd ffermwyr mwy a gwell.” Mae cogyddion y sector bwyd archwaeth yn ninas Efrog Newydd yn fodlon talu prisiau uwch am gynnyrch organig, a dyna lle gwerthir mwyafrif o gynnyrch Neversink.

Gan fod Neversink bellach wedi cyrraedd y nod o gynhyrchiant uchel trwy ddefnyddio dulliau amaethu cynaliadwy, organig heb aredig, mae Conor am helpu eraill i wneud yr un peth; o addysgu ffermwyr bach eraill i greu systemau ffermio mwy effeithlon a phroffidiol, i annog pobl nad ydynt yn ffermio i arddio a bod yn hunangynhaliol. Ehangwyd presenoldeb Neversink ar-lein i gynnwys cyfrif Instagram Conor, sydd â dros 50,000 o ddilynwyr, a’i sianel YouTube, sy’n cynnwys cannoedd o fideos ar y technegau amaethyddol a ddefnyddir ar Neversink.

Hefyd mae Conor wedi datblygu cyrsiau ar-lein mewn Garddio Llysiau a Ffermio Marchnad ac mae’r olaf wedi denu cannoedd o aelodau. Mae’n cynnwys naw modiwl craidd, yn amrywio o strwythur y pridd i farchnata cynnyrch, gyda mân gyrsiau ychwanegol ar feysydd a thechnegau arbenigol, mynediad at ostyngiadau i aelodau ar offer a nwyddau, a sesiynau Holi ac Ateb rheolaidd gyda Conor ei hun, mae’r cwrs yn delio gyda holl agweddau ar amaethyddiaeth raddfa fach ddwys, a defnyddio’r technegau a ddatblygwyd gan Conor yn Neversink. Hefyd mae gostyngiadau ar gael i aelodau ar ystod o offer llaw a ddyluniwyd gan Conor i’ch helpu arfer ei ddulliau ffermio dim aredig, ymarferol.

Mae’r cwrs yn cynnwys 140 o wersi fideo, 25 munud yr un, ynghyd â PDF I’w lawrlwytho; mae’r rhain yn cael eu hehangu a’u diweddaru wrth i Conor ddatblygu dulliau newydd a gwell – arf sy’n rhoi o hyd yw hwn. Yn ôl Eliot Coleman, sy’n enwog ym maes amaeth organig, dwys sydd wedi ysbrydoli llawer o waith cynnar Conor ar y fferm, mewn perthynas â llwyddiant y cwrs: “Yng Nghynhadledd y Ffermwyr Ifainc eleni, roedd dau gwpl oedd wedi gweithio yma, ac sydd bellach yn cychwyn ffermio eu hunain yn canmol cymaint a ddysgwyd ar eich cwrs chi. Cymeradwyaeth wych.”

model-neversink-3
Vegetable field at Neversink Farm.

Gellir gweld llwyddiant ei aelodau ar wefan Neversink, lle ceir dolenni at ddwsinau o ffermydd newydd a ysbrydolwyd gan ac sydd wedi datblygu’r gwersi a ddysgwyd gan Conor. Dywed un aelod a ffermwr, “Yn ddiau, hwn oedd ein buddsoddiad gorau hyd yn hyn. Tymor cyntaf llawn, yn gweithio gyda rhyw 1.4 erw, nifer o broblemau annisgwyl, a rhagwelir y byddwn yn gwneud elw o ryw $140K eleni.”

Os nad yw cwrs ar-lein yn addas ichi, weithiau bydd Conor yn cynnig gweithdai diwrnod o hyd ar y fferm, ar ffermio marchnad a thyfu llysiau am $375 a $250 y diwrnod, yn eu tro. Mae’r gweithdai hyn yn gyfle i gael profiad o ffermio go iawn a dysgu rhai o ddulliau Conor gan y dyn ei hun. I fwynhau dull o weithio mwy hamddenol, yn ddiweddar mae Neversink wedi lansio’r Cinio Ysgubor: “profiad coginio ac amaethyddol trochi” sy’n defnyddio cynnyrch o’r fferm a chyflenwyr lleol, ac sy’n integreiddio dosbarthiadau mewn ffermio, eplesu, chwilota a chynhyrchu bwyd i’r profiad o fwynhau pryd o fwyd. Yn ogystal, gellir hurio ysgubor y fferm sydd wedi cael ei ailwampio ac sy’n 100 mlwydd oed, ar gyfer digwyddiadau megis priodasau, a gall Neversink gynnig gwasanaeth arlwyo llawn gyda chynnyrch Neversink.

Os hoffech ddysgu mwy am Conor Crickmore a Fferm Neversink, ewch i’w wefan: www.neversinkfarm.com.

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: neversink model a pioneer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.