Cwrs Ffermio Trefol Proffidiol: 10-wythnos ar thema cynyddu incwm
Mae Curtis Stone, a elwir gan rai’r Urban Farmer, wedi datblygu dulliau i ennill £60,000 trwy dyfu planhigion ifainc a llysiau yng ngerddi ei gymdogion. Mae wedi rhannu ei gyngor yn y cwrs ar-lein , ‘Profitable Urban Farming’.
Cwrs hunanastudiaeth 10 wythnos yw ‘Profitable Urban Farming’ sy’n cynnwys gwybodaeth ar sut i gynyddu elw’r busnes. Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys:
-
- Templed ar gyfer Cynllun Busnes
- Canllawiau cynhyrchu cam wrth gam
- Sgriptiau manwl wrth siarad gyda bwytai fel cwsmeriaid
- Gwybodaeth am yr offer fydd ei angen, a ble i’w prynu
- Rhestr wirio ar gyfer Marchnadoedd Ffermwyr
- Grŵp ar Facebook i Aelodau’n unig
- Canllaw cyflym i’ch helpu ennill incwm mewn 3 wythnos
Pam mae’r cwrs mor dda
Yn ein barn ni mae’r cwrs yma’n ddelfrydol ar gyfer pobl gyda thir cyfyngedig neu dim tir o gwbl, oherwydd mae’n canolbwyntio ar gynhyrchiant dwys mewn ardal fach iawn. Hefyd mae’n wych ar gyfer pobl sydd am gychwyn yn y maes – nid oedd gan Curtis Stone unrhyw gefndir ym myd amaeth.
Taith o’r Cwrs
Gellir darllen llawer mwy am y cwrs a chofrestru yma.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: pioneer model resources a urban farmer model.