Thursday October 1st, 2020

The Urban Farmer: Curtis Stone yn ennill cyflog da heb ei dir ei hun

urban-farmer-main
Pictured: Curtis Stone. Photo: Andrew Bartman.

Tyfu busnes amaethyddol trefol llwyddiannus heb fod yn berchen ar unrhyw dir o gwbl.

Wrth feddwl am ffermwr, ‘cefn gwlad’ a ‘tirfeddiannwr’ sy’n dod i’r meddwl, ond yn achos Curtis Stone, mae’n hollol wahanol. ‘Y Ffermwr Trefol’ yw ei enw ar gyfer ei hun, ac mae’n rhedeg busnes ffermio llwyddiannus mewn dinas ar 1/3 erw *, nad yw’n ei berchen.

Curtis yw sylfaenydd fferm Green City Acres yn Kelowna, British Columbia. Mae’n herio ffiniau amaethyddiaeth draddodiadol trwy ennill CAD$100,000 trwy dyfu planhigion ifainc, bwydydd salad, tomatos bach a gwreiddlysiau bach yng ngerddi pump o’i gymdogion. Am adael iddo ddefnyddio’r tir, maen nhw’n derbyn basgedi bwyd am ddim, ac mae Curtis yn gwerthu gweddill ei gynnyrch mewn marchnadoedd ffermwyr ac i fwytai cyfagos. Mae’n ddigon i gadw dau mewn gwaith llawn amser yn ystod y tymor tyfu ac mewn gwaith rhan amser am weddill y flwyddyn.

“Mae pobl am brynu bwyd gan y ffermwyr, mae’r cysylltiad yn bwysig iddyn nhw,” meddai Curtis, “maen nhw am wybod o le mae’n dod, ac mae’r bwytai’n fodlon talu prisiau uchel amdano. Mae cymaint o alw yn y ddinas am fwyd lleol. Mae gan ffermio trefol y potensial i greu system hollol newydd yn y ddinas hefyd. Gall pobl ifanc wneud hyn heb orfod prynu tir, oherwydd mae lawntiau a mannau gwyrdd eraill o gwmpas, a digon o le i bobl eu defnyddio i dyfu bwyd.”

Yr enw ar y dull hwn o ffermio yw ffermio Dwys ar Leiniau Bach (SPIN). Ei nod yw cynhyrchu mwy o gnydau na’r cyfartaledd ar fannau gwyrdd bach gyda chostau sefydlu hynod isel – dull sy’n ddelfrydol ar gyfer amgylchfyd trefol. Mae Curtis yn plannu cnydau sy’n tyfu’n gyflym ac yn eu cylchdroi’n rheolaidd; ar ôl cynaeafu un cnwd, mae’n plannu cnwd arall ar unwaith. Mae’n defnyddio tai gwydr i ymestyn y tymor tyfu a maint y cnwd a gynhyrchir. Trwy ganolbwyntio ar lysiau uchel eu gwerth, mae wedi llwyddo i ehangu gwerth ei fusnes heb orfod defnyddio mwy o dir na’i lwyth gwaith. Curtis sy’n cludo mwyafrif ei gynnyrch ar ei feic. Gellir ei weld yn rheolaidd yn tynnu trelar o lysiau ac offer amaethyddol o gwmpas. Yn 2012 dim ond 80 litr o danwydd a ddefnyddiodd trwy gydol y flwyddyn i gynhyrchu ei fwyd.

“Mae popeth a wnawn mewn bywyd, boed yn prynu diod mewn can, gyrru’r car, beth bynnag – yn ddinistriol. Mae cyrraedd y pwynt lle mae popeth a wnawn yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd ym myd natur yn achos cyffro mawr imi; mae popeth yn creu mwy o fywyd, yn cynyddu ffrwythlondeb y tir, yn puro’r aer. Yn fy marn i nid peth amhosib yw cael economi fel hyn,” meddai.

urban-farmer-1
Curtis Stone with microgreens. Photo: The Urban Farmer.

Mae gan Curtis bellach nifer o ddilynwyr ar lefel ryngwladol fel ‘The Urban Farmer’ oherwydd ei ddulliau ffermio a marchnata arloesol. Mae mwy na 40,000 yn ei ddilyn ar Instagram ac mae bron 400,000 yn tanysgrifio i’w sianel YouTube. Ond nid fel hyn y cychwynnodd pethau; doedd gan Curtis ddim profiad blaenorol o ffermio; ‘artist aflwyddiannus’ oedd o yn ei eiriau ei hun, fu’n gweithio yn plannu coed yn ystod yr haf i dalu am ei yrfa gerddorol. Cychwynnodd ei daith i’r byd ffermio trwy fynd ar daith beic 4000-cilometr rhwng Kelowna a Tijuana, lle bu’n ymweld â ffermydd ac ecobentrefi a magu’r awydd i fod yn hunangynhaliol. “Roeddwn yn awyddus i adael, cymaint â phosib, y peiriant dinistriol byd-eang.”

Fodd bynnag, gall mentro i fyd amaethyddiaeth draddodiadol fod yn her; mae cael hyd i dir i gychwyn yn ddrud, ac yn aml bydd angen morgais neu fenthyciad. “Roeddwn am fod yn dyddynwr, ond sut mae gwireddu’r freuddwyd honno os na fedrwch chi fforddio prynu tir… doeddwn i ddim yn barod i ymrwymo i forgais am 30 mlynedd er mwyn cael byw oddi ar y tir, a gweithio i’r banc.” Yn lle dilyn y llwybr traddodiadol, penderfynodd Curtis roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Diolch i ysbrydoliaeth Wally Satzewich, a sefydlodd Ffermio SPIN, dechreuodd Curtis trwy rentu tir gan berchnogion tai lleol yn y ddinas i gychwyn ei fenter tyfu. Trwy ddilyn dulliau a thechnegau ffermio traddodiadol, gwnaeth elw gweddol fach yn y flwyddyn gyntaf. Er hynny, amcangyfrifodd fod ei gyflog yr awr yn llai na CAD$1.50. Roedd yn amlwg y byddai’n rhaid i rywbeth newid. Treuliodd misoedd yn ymchwilio i dechnegau ffermio dwys, yn gwella’r cyfleusterau storio a’r ffordd o brosesu ei gynnyrch a marchnata i siopau bwyd lleol, ac yn ystod ei ail dymor, enillodd CAD$61,450 gros; dros deirgwaith yr hyn a enillodd y flwyddyn gynt.

Diolch i’w lwyddiant, ysgogwyd Curtis i estyn allan a thynnu eraill i fyd amaethyddiaeth drefol gynaliadwy. “Os nad ydw i’n ffermio, ’dwi’n siarad am ffermio. Byddaf yn teithio ac yn cyflwyno gweithdai a darlithoedd mewn prifysgolion ac yn ceisio ennyn diddordeb pobl ifanc i wneud hyn… ’dwi am gyfrannu at newid cymdeithasol.” Ar ei wefan bersonol, theurbanfarmer.co, gellir archebu lle ar gyrsiau a gweithdai amrywiol ar thema amaethyddiaeth drefol. Mae Curtis a Luke Callahan o gwmni ‘Local Business Plans’ sy’n helpu busnesau bach i lwyddo, wedi datblygu cwrs 10 wythnos hunanastudiaeth. Mae’n tywys cyfranogwyr trwy’r camau i sicrhau fod eu menter amaethyddiaeth drefol yn llwyddo.

Hefyd mae Curtis wedi cyhoeddi llyfr, ‘The Urban Farmer’, “llawlyfr ymarferol i’ch helpu dysgu’r technegau a strategaethau busnes fydd eu hangen i wneud bywoliaeth dda trwy dyfu cnydau uchel eu gwerth a chnwd yn eich gardd eich hun – neu yng ngardd rhywun arall.” Gellir prynu’r llyfr ynghyd â llyfr clywedol a phecyn offer digidol sy’n cynnwys cyfres o 9 fideo gyda gwersi o’r cwrs ar-lein, neu wrth ei hun am ychydig llai na USD$20. Yn debyg iawn i’r cwrs, mae’r llyfr yn canolbwyntio ar fodelau marchnata a thwf busnes llwyddiannus i helpu cynhyrchiant, ac yn rhoi manylion am gostau, datblygu busnes a’r technegau delfrydol i sicrhau’r cnydau a’r cynhyrchiant gorau er mwyn gwneud elw. “Mae sut i ddylunio’r ardd a sut i ddylunio’r fferm yn llwyr ddibynnol ar yr hyn mae’r farchnad ei eisiau, ond dyna fantais fwyaf ffermio yn y ddinas – rydych yng nghanol y farchnad hefyd.”

A neges Curtis i bawb sy’n ystyried symud tuag at ffordd o fyw hunangynhaliol?: “Mae angen inni ddechrau tyfu ein bwyd ein hunain, tyfu pethau a chreu’r byd corfforol lle rydym am fyw. Mae hynny’n golygu torchi llewys. Mae’n rhaid i bawb gyfrannu.”

Gellir dysgu mwy am gyrsiau Curtis ar: www.greencityacres.comwww.profitableurbanfarming.com a theurbanfarmer.co.

 

* DS: mae anghysondeb rhwng ¼ erw a 1/3 erw a throsiant o 75,000 a 100,000 rhwng y wefan a’r fideo.

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: pioneer model a urban farmer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.