Friday October 2nd, 2020

‘Cothi Goats’ yn ychwanegu gwerth i gynnyrch geifr lle mae popty ar y fferm

cothigoats-main
Pictured: Richard Beard, Lynn Jeffery and Laura Seddon.

Fferm o Gymru yn defnyddio’r cynnydd mewn galw am bopeth sy’n gysylltiedig â geifr.

“Mae angen gwneud rhywbeth gwahanol i bawb arall,” meddai Richard Beard sy’n rhedeg Cothi Goats, fferm 49 erw yng nghanolbarth Cymru, ar y cyd â’i bartner busnes, Lynn Jeffery. Ar hyn o bryd mae’r fferm yn gweld budd twf yn eu gwerthiant oherwydd mae’n debyg mai cynnyrch geifr fydd y duedd bwyd gorau ar gyfer 2019 yn ôl The BBC Good Food Magazine.

Gyda hanes ym maes arloesi, yn wreiddiol Cothi Goats oedd cynhyrchwyr cyntaf Cymru i greu caws halloumi a ffeta o laeth geifr. Er hynny, yn ddiweddar mae Richard a Lynn wedi newid cyfeiriad a bellach maent yn cynhyrchu ystod o gynnyrch ‘viennoiserie’ arbenigol. Trwy ddefnyddio llaeth a chaws eu geifr eu hunain fel cynhwysion, maen nhw’n cynhyrchu amrediad o croissants premiwm, tartledi melys a phastai crwst pwff sawrus. “Rydym yn mynd i farchnadoedd dwywaith yr wythnos, a gwneir ein holl gynnyrch â llaw ar ein fferm,” meddai Richard, “Mae’r pobi bellach wedi cymryd drosodd o’r cynnyrch llaeth, ac mae’n ffordd wych o ychwanegu gwerth at ein llaeth geifr.”

Mae buches o 70 geifr godro ar y fferm, ynghyd â 15 hwch a 30 o ddefaid. “Oherwydd ein bod yn fach, rydym yn gynaliadwy,” dywed Richard, “Nid ydym yn fferm organig, oherwydd byddai’n anodd cyfiawnhau pris bwyd organig, fodd bynnag mae’r geifr yn crwydro’r meysydd ac nid ydym fel arfer yn defnyddio gwrthfiotigau.” Rydym yn arfer trefn cylchdroi i daenu’r gwrtaith ar y tir, sydd yn ei dro’n cynhyrchu glaswellt a silwair ar gyfer y geifr. “Nid ydym yn tocio’r gwrychoedd ac mae digonedd o anialwch i’r adar,” meddai Richard, “Fferm fynydd anhrylwyr ydym mewn gwirionedd.”

cothigoats-1

Symudodd Lynn a Richard i Gymru 16 mlynedd yn ôl o Gaint, “Roeddem yn awyddus i ffermio geifr, oherwydd maen nhw’n bridio mor dda,” meddai “Ond yr her fwyaf yn y dyddiau cynnar oedd addasu i dir lle magwyd defaid o’r blaen.” Yn y dechrau, roedd llyngyr yn effeithio ar y geifr, a dim ond ar ôl gwneud nifer o brofion y newidiwyd i ddefnyddio meddyginiaeth ar gyfer defaid ar y geifr oherwydd roedd y parasitiaid dal yn y tir ers y defaid, “Wnaethon ni golli rhyw 15-20 gafr cyn inni sylweddoli hynny,” meddai Richard.

Mae’r fferm yn cyflogi un aelod o staff rhan amser, ynghyd â’u merch Laura sy’n gweithio’n llawn amser. “Mae’n rhaid inni gynhyrchu popeth sydd i’w werthu o’r popty ar ddiwrnod ei werthu, er mwyn osgoi gorfod cadw llwyth o gynnyrch mewn oergell,” meddai Richard, “Y broblem yw na fedrwn ail-werthu felly mae’n rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda’r stoc i sicrhau ein bod yn gwerthu popeth.” Richard sy’n mynd i wyliau, trwy gydol y flwyddyn i hybu incwm y fferm, ac mae’n hoffi cael y cyswllt gyda chwsmeriaid, “Mae’n well gen i werthu’n uniongyrchol oherwydd mae’n fwy addas i’n busnes na chyfanwerthu,” meddai. Yn y bôn mae’r fferm yn hunangynhaliol, ac mae’r incwm yn cael ei ategu trwy werthu perchyll o dro i dro.

Wrth ystyried cyngor i ddarpar gynhyrchwyr bwyd, dywed Richard “Chwiliwch am agweddau newydd gwahanol i bobl eraill, a chadwch gam ar y blaen i’ch cystadleuwyr. Byddwch yn realistig am eich model busnes, a chynlluniwch ar gyfer y sefyllfa waethaf oll. Cadwch eich cynnyrch yn onest a mwynhewch bob eiliad.”

Gellir dysgu mwy ar Facebook: @CothiValley ac ar Twitter: @lynncothivalley.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: adding value, artisan produce, Carmarthenshire, cheesemaking, family farm, goats, local markets, small-scale producers, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.