Friday October 23rd, 2020

‘Discover Delicious’ yn gwerthu bwyd o Gymru ar-lein

discoverdelicious-main
Pictured: Laura Pickup.

Cysylltu cynhyrchwyr bwyd bach â marchnadoedd newydd a’u helpu i hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch.

Gadawodd Laura Pickup ei swydd lefel uchel ym maes marchnata oherwydd roedd yn awyddus i, yn ei geiriau ei hun, “gwneud gwahaniaeth” ar gyfer cynhyrchwyr bwyd bach annibynnol o Gymru.

Yn ystod 15 mlynedd o gynrychioli busnesau mawr yn y sector – gan gynnwys ‘Rachel’s Dairy’, ‘Cig Oen Cymru’ a Chroeso Cymru – roedd yn teimlo’n fwyfwy rhwystredig oherwydd diffyg llwybr at y farchnad ar gyfer llu o fusnesau bach ar hyd a lled y wlad.

Ei hateb oedd sefydlu ‘Discover Delicious Wales’ yn 2018, sef gwefan gydag “ymgyrch marchnata sylweddol” tu ôl iddi gyda’r nod o helpu cynhyrchwyr bach i wneud eu busnesau’n gynaliadwy.

Am gyfran o’r gost o hurio tîm marchnata, mae Laura yn helpu cynhyrchwyr bwyd o Gymru i gysylltu â chwsmeriaid ar draws y byd.

Hefyd mae’r wefan yn gwerthu gweithgareddau megis chwilota, cyrsiau gwneud bara a theithiau o gwmpas distyllfa.

£150 yw’r pris aelodaeth ac mae’n cymryd comisiwn gwerth 10%, sydd yn ei barn hi’n werth eithriadol dda.

Er ei bod yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd trwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd, ei gobaith yw y bydd yn hunangynhaliol cyn bo hir. “Y cynhyrchwyr sy’n derbyn cyllid unrhyw werthiant, sy’n rhoi arian mewn cymunedau lleol ac yn gwneud swyddi lleol yn gynaliadwy,” meddai.

“Gwelais i gyfle i wneud gwahaniaeth. Roedd fy mhen-blwydd yn 40 ar y gorwel, a mater o nawr neu byth oedd hi.”

discoverdelicious-1

Roedd creu brand a chael hyd i gynhyrchwyr yn gerrig milltir cynnar. “Roedd lansio’r wefan yn enfawr o beth” meddai Laura. “Ond pan welais i’r hysbys ar y teledu wrth wylio pêl-droed yn ystod twrnamaint diweddar Cwpan y Byd, roeddwn yn methu coelio’r peth.”

Roedd y broses o adeiladu’r wefan yn gymhleth, a bu Laura’n gweithio’n agos gyda’r tîm o dechnegwyr. “Dysgais yn fuan iawn nad fy nghyfrifoldeb i oedd gwneud popeth fy hun,” meddai Laura. “Mae angen rheoli’ch disgwyliadau a gwneud ychydig o bethau’n dda.” Hefyd roedd Laura yn derbyn cyngor “euraidd” gan ei mentoriaid.

Cyngor Laura i gynhyrchwyr yw canolbwyntio ar ansawdd, cydweithio, ac “adnabod eich marchnad”. Ychwanega: “mae cynnyrch hynod gyda hunaniaeth Gymreig amlwg yn gwerthu’n dda. Ar hyn o bryd gin crefftwyr a chig barbeciw sy’n gwerthu orau, ond beth sydd ar goll yw bwyd môr Cymreig. Does dim byd ar y dudalen honno ar hyn o bryd, a byddai’n braf ei llenwi ar y wefan.”

Croeso i gynhyrchwyr bwyd sy’n awyddus i hyrwyddo eu cynnyrch ar wefan Laura anfon ebost ati: hello@discoverdelicious.walesneu ewch at y wefan: www.discoverdelicious.wales.

 

Categorïau: Cyfleoedd i farchnata. Tagiau: new markets, sales, small-scale producers, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.