Friday October 2nd, 2020

Greenwave Ocean Farming: busnes buddiol sy’n mynd yn dda

greenwave-main
Pictured: Bren Smith.

Model newydd sy’n dangos sut i dyfu gwymon a physgod cregyn heb dorri’r banc na’r amgylchedd.

Sut gall ffermwr bach gyflenwi cnwd llawn maeth heb wrtaith cemegol, heb ddŵr, gyda chostau cyfalaf rhesymol, ac ychydig iawn o waith cynnal a chadw, a gwneud bywoliaeth dda’r un pryd? Gan Bren Smith mae’r ateb: tyfu gwymon.

Llwyddodd cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol cwmni Greenwave, sefydliad dielw yn UDA sy’n hyrwyddo ffermio’r cefnfor, i wneud elw anhygoel o $140-$150,000 y flwyddyn o’i fferm ei hun oddi ar arfordir Connecticut am ryw ddegawd cyn penderfynu canolbwyntio ar hyrwyddo dull o ffermio sydd yn ei farn ef yn gwireddu ystod o anghenion amgylcheddol a chymdeithasol pwysig.

Mae model Bren yn creu fferm fertigol mewn rhyw 20 erw o’r cefnfor i dyfu gwymon ar rwydwaith o raffau sy’n cael eu dal rhwng bwiau, a physgod cregyn megis cregyn bylchog, wystrys a chregyn gleision mewn basgedi ar lawr y môr neu drwy eu hongian o raffau eraill.

greenwave-1
An illustration of this model by Stephanie Stroud.

Dim ond rhyw $20,000 sydd ei angen i gychwyn fferm yn ôl Bren, sy’n cynnwys cwch, rhaffau, cewyll, angorau, hadau, a chostau [sydd fel arfer yn isel] prydlesu darn o’r môr gan awdurdod lleol. Yn ei dro, mae’n cynhyrchu cnydau sy’n hawdd eu marchnata ac yn gynaliadwy.

Nid yw problemau megis sychder, prinder tir a phrisiau dŵr a gwrtaith cynyddol yn effeithio ar y model hwn; y pethau hyn sy’n effeithio fwyaf ar ffermwyr tir confensiynol, a dros y degawdau nesaf, bydd y sefyllfa’n gwaethygu yn ôl Bren.

“Boed yn gost economaidd neu’r amodau amgylcheddol, bydd yn rhaid inni chwilio am systemau fforddiadwy, lleol, sy’n hawdd eu copïo ac sy’n gallu ehangu’n gyflym i fwydo’r blaned, oherwydd bydd economi’r hinsawdd yn cael effaith enfawr ar ein systemau amaethyddol,” meddai Bren, 45 oed, adawodd yr ysgol uwchradd heb gymwysterau, ac yn gyn pysgotwr masnachol.

Bellach mae 20 o ffermwyr yn dilyn model Greenwave ac wedi cyrraedd camau gwahanol ar y daith yn UDA. Hefyd mae Bren yn ystyried cyfleoedd tramor, gan gynnwys ym Mhrydain, lle mae’r cynlluniau ymhellach ar y blaen nag unrhyw le arall tu allan i America.

Mae’r ffermwyr newydd yn cynnwys pysgotwyr masnachol sydd am arallgyfeirio; ffermwyr sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, ac yn fwyfwy, pobl ifanc sydd am wneud bywoliaeth o dyfu bwyd ond sy’n gyndyn i dalu’r costau uchel sydd ynghlwm wrth ffermio confensiynol.

Mae Greenwave yn helpu ffermwyr newydd i gael trwyddedau; mae’n rhoi hadau am ddim iddynt am ddwy flynedd, a dillad sy’n addas i’r gaeaf o’r Wladfa, ac yn eu cysylltu â marchnad lle mae’r galw ar hyn o bryd yn uwch na’r cyflenwad sydd ar gael. Mae hyn oll wedi helpu cynyddu pris y gwymon i ryw $1 y pwys, sy’n golygu bod ffermwyr llwyddiannus yn gwneud bywoliaeth dda.

Cyn cychwyn gweithio’n llawn amser ar efelychu ei fodel busnes, roedd Bren yn gwneud $10,000 y flwyddyn ar gyfartaledd o’r gwymon ar bob un o’r 20 erw oedd ganddo dros gyfnod o ryw 10 mlynedd. Roedd y $200,000 ar ben y $100,000 o incwm oedd yn dod o’r pysgod cregyn. Roedd tua hanner y refeniw yn talu costau’r busnes, gan adael elw o ryw $140,000-$150,000 y flwyddyn.   “Mae’r incwm yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y cnwd”, meddai Bren.

Er gwaethaf ei lwyddiant ariannol, roedd Bren yn annog darpar ffermwyr i ymgynghori â phrifysgolion neu arbenigwyr eraill i ystyried a yw cyflwr y cefnfor lleol yn addas i’w ffermio. Wedyn dylid cynnal rhaglen beilot i brofi hyfywedd yr ardal dan sylw cyn penderfynu gadael eu swyddi a deifio i’r dŵr fel petai.

“Dwi wedi cael llwyddiant, a’r cwestiwn nesaf yw sut i efelychu hynny,” meddai. “Mae’r system ffermio’n gweithio, y cwestiwn yw, ydy’r system efelychu’n mynd i lwyddo?”

Gellir dysgu mwy o wefan Greenwave: www.greenwave.org.

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: ocean farming a pioneer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.