Friday October 2nd, 2020

‘Menai Oysters’ yn gwella’r amgylchedd gyda physgod cregyn cynaliadwy

menaioysters-main
Pictured: Shaun Krijnen.

Protein uchel ei safon – fawr o fewnbwn a dim plaladdwyr.

Mae’r fferm Pysgod Cregyn Menai Oysters rhwng ynys Môn ac arfordir Gogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd gan y biolegydd morol Shaun Krijnen ym 1994; mae’r fferm yn cynhyrchu wystrys y Môr Tawel a chregyn gleision cynhenid y Fenai.

Gyda phwysau cynyddol ar ddulliau cynhyrchu bwyd, gall pysgod cregyn cynaliadwy fod yn ateb fforddiadwy. Mae pysgod cregyn, sydd yn rhywogaeth allweddol, yn gwella eu hamgylchedd trwy bwmpio nitrogen a ffosfforws i’r ecosystem.

“Mae pawb yn sôn am achub y blaned a throi’n fegan,” meddai Krijnen, “Ond maen nhw’n anwybyddu pysgod cregyn. Maen nhw’n cynhyrchu protein uchel ei safon gyda fawr o fewnbwn ac mae’r budd amgylcheddol o’u tyfu’n debyg i fudd codlysiau oherwydd maen nhw’n delio gyda CO2. Mae pysgod cregyn cystal â’r llysiau gorau ac yn cael eu tyfu heb ddefnyddio plaladdwyr.”

Mae angen bod yn ofalus wrth dreillio cregyn gleision, “Nid yw’r garthlong yn cyffwrdd â gwaelod y môr,” eglura Krijnen, “maen nhw’n tarfu’n unig ar y gwaddodion sy’n cael eu creu gan y cregyn gleision.”

Pris rhwyd o gregyn gleision yw £2.20 (pris cyfanwerthu) ac yn cynhyrchu rhyw 300g o gig. “Cymharwch hynny â chost stecen 10owns,” meddai Krijnen, “Mae pysgod cregyn yn cynnig gwerth go iawn am arian.”

O Lundain y daw mwyafrif cwsmeriaid Krijnen. “Dysgais am bysgod cregyn wrth astudio ar gyfer fy MSc ac roeddwn yn gwybod taw marchnad arbenigol oedd hon. Roedd y cyfle ar stepen fy nrws,” meddai Krijnen; graddiodd o Brifysgol Bangor.

Mae’r tarddiad yn hollbwysig, “Yn ôl fy nghwsmeriaid, nid ydynt erioed wedi blasu pysgod cregyn fel rhai fi,” dywed Krijnen, “Mae’r llanw’n golchi’r gwelyau’r creigiau gyda dŵr llawn mwynau o’r aber, sy’n rhoi blas unigryw iddynt.”

menaioysters-1

“Mae angen cynaeafu cregyn gleision sy’n tyfu ar raffau yn 18 mis oed,” meddai Krijnen “Mae’n cymryd tair blynedd i gynaeafu’r cnydau ar y gwely creigiau, ond mae’r ansawdd yn eithriadol.” Mae golau’r haul a’r llanw yn annog cregyn cadarn sy’n aros ar gau’n hirach ar ôl eu casglu. “Bydd unrhyw beth sydd wedi cael bywyd anodd yn blasu’n well,” yn ôl Krijnen, “Mae mwy o flas a hir oes gan ein cregyn gleision nag unrhyw beth sy’n tyfu ar raff.”

Mae natur yn cynnig heriau. “Golchwyd 20,000 tunnell o gregyn gleision i ffwrdd yn ddiweddar yn ystod storm ar Fae Morecambe,” meddai Krijnen. Mae’r seren fôr yn ysglyfaethwr, “Maen nhw’n parcio ar welyau’r creigiau ac yn aros yno nes bod popeth wedi ei fwyta,” meddai Krijnen, gan ysgwyd ei ben. Mae adar y môr yn fygythiad arall, ac ar gyfartaledd, dim ond rhyw 10% o’i gnwd y mae Krijnen yn llwyddo ei gadw bob blwyddyn.

Gall diddordeb y cyhoedd fod yn well, “Mater o addysgu ac ysbrydoli pobl yw,” meddai Krijnen, “Ar ôl i Keith Floyd goginio cregyn gleisio ar sioe deledu, gwerthodd un o’m ffrindiau 12 tunnell ychwanegol o gregyn gleision yr un wythnos.”

Doedd dim llawer o gyllid i’w helpu adeg cychwyn y busnes, “Roedd y banciau’n amau dull mor arloesol o ffermio,” meddai Krijnen a lansiodd ei fusnes gyda chymorth ei deulu. I helpu arbed arian, Krijnen ei hun wnaeth y rhan fwyaf o’i offer, “Yn ystod y blynyddoedd cynnar,” meddai dan chwerthin, “roeddwn yn fwy o beiriannwr na ffermwr.”

Mae’r busnes wedi tyfu’n raddol a bellach mae’n cyflogi 6 aelod o staff, “Yn y cychwyn, dim ond fi oedd, a thri sach hesian yn cerdded i’r traeth i’w llenwi gyda’r wystrys,” yn ôl Krijnen, “Erbyn hyn peiriannau sy’n gwneud popeth, ac mae’r blychau 30kg wrth gyflenwi cwsmeriaid wedi troi’n flychau 350kg.”

“Cadwch y model yn syml,” yw cyngor Krijnen, “Gwnewch un peth yn iawn, a gwnewch unrhyw gamgymeriadau ar un llinell – mae’n rhatach gwneud hynny.”

Gellir dysgu mwy yma: www.menaioysters.co.uk.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: Gwynedd, new markets, ocean farming, oysters, provenance, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.