Friday October 2nd, 2020

‘Locavore’ yn manteisio ar alw mawr gyda bwyd masnach deg, organig a lleol

locavore-main
Photo: Locavore.

Cymorth cwsmer deallus yn hwyluso ehangu siop leol.

Gydag ychydig o gefnogaeth trwy gyllid cychwynnol, a llawer o ewyllys da ar ran ei gwsmeriaid, mae Reuben Chesters wedi llwyddo i dyfu ei siop yn ninas Glasgow, trwy ei ardd farchnad a chynllun blychau llysiau.

Mae cwmni buddiant cymunedol Reuben, dan ei enw Locavore, yn bodloni’r galw ar gyfer bwyd lleol ac yn amlygu’r cysylltiad gyda llu o broblemau byd eang, megis newid yn yr hinsawdd, iechyd cyhoeddus a lles anifeiliaid.

Yn 2012, agorodd siop un dyn i werthu pethau syml megis tatws, maip a cheirch, gyda chymorth grant gwerth £4,000 gan Firstport, cronfa sy’n cefnogi busnesau newydd gan fentrau cymdeithasol yn yr Alban.

Ychydig iawn o gystadleuaeth oedd yn bodoli gan gynhyrchwyr neu werthwyr eraill, neu ddim cystadleuaeth o gwbl, felly tyfodd y fenter, gan ddenu grant arall gan Firstport, y tro ‘ma ar gyfer £20,000, i agor siop yn ne Glasgow, oedd yn gwerthu cnydau Reuben ynghyd â chnydau cynhyrchwyr eraill, gan gyflogi 15 o weithwyr llawn-amser.

locavore-2

Yn 2018 ehangodd eto, ac agorwyd siop groser fawr, lle mae’n gwerthu cynnyrch organig lleol amrywiol a dewis eang o fwydydd organig ac eitemau i’r cartref.

Cyllidwyd y siop newydd yn bennaf trwy ehangu’r busnes, sy’n derbyn tua 90% o’i refeniw trwy fasnachu, ond mae hefyd wedi denu buddsoddiadau gwerth £250 neu fwy rhyw 80 o gwsmeriaid, cyfanswm o £100,000.

Prosiect arall yn ystod 2018 oedd caffael busnes cyfanwerthu i gyflenwi rhyw 80 o fanwerthwyr eraill sydd ag ethos tebyg gyda bwydydd organig megis pasta, olew olewydd, a chorbys mewn tuniau.

“Rydym am ddatblygu’r busnes er mwyn cefnogi manwerthu blaengar a chynhyrchwyr organig trwy gadwyni cyflenwi byr er mwyn inni gynnig cynnyrch sydd yn werth yr arian i gwsmeriaid a chefnogi dewis ar wahân i archfarchnadoedd, ” meddai Chesters.

Yn 2020, bellach mae gan Reuben dîm staff o 90, a’r llynedd roedd ei drosiant yn £3.5 miliwn.

Yn ôl Reuben roedd ei lwyddiant yn deillio o’r cymysgedd o wasanaethau, presenoldeb rhagweithiol ar gyfryngau cymdeithasol, siop gorfforol yn y gymuned, a’r ffaith fod pobl yn cydnabod ei fod yn gwneud mwy na gwerthu llysiau’n unig.

“Cenhadaeth yw’r sail, ond rydym yn awyddus i wireddu rhywbeth,” meddai. “Mae wedi ennyn ffyddlondeb yn y busnes, a sylfaen cwsmeriaid sy’n wirioneddol gefnogol.”

Dysgwch fwy am Locavore yma: www.glasgowlocavore.org.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: community owned, Glasgow, local food, local markets, organic, Scotland, a vegetable growing.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.