Thursday October 1st, 2020

‘Plaw Hatch Farm’ yn gwerthu ei gynnyrch i gyd a mwy yn ei siop ar y safle

plawhatch-main

6000 o gwsmeriaid y mis yn prynu’n uniongyrchol gan fferm fiodeinamig yn Sussex.

Stori llwyddiant ar thema fiodeinamig yw hon – fferm gymysg sy’n defnyddio dulliau ffermio cynaliadwy, gyda buches llaeth, defaid, moch ac ieir sy’n dodwy, ynghyd â 12 erw o erddi marchnad, uned prosesu cynnyrch llaeth a chig. Mae Plaw Hatch Farm yn Sussex ymhell o fyd amaethyddiaeth ddwys, ond mae 6,000 yn ymweld bob mis ac mae 95% o’r elw yn deillio o’r siop ar y safle.

400 erw o dir amaethyddol ar fin Coedwig Ashdown ger Sharpthorne yw Plaw Hatch Farm. Mae’n eiddo i ymddiriedolaeth elusennol, felly ni fydd yn bosib ei datblygu, a’i nod yw cynhyrchu amrediad mor eang â phosib o fwyd i’w werthu i’r gymuned leol. Mae Plaw Hatch Farm yn gwerthu llaeth naturiol heb ei brosesu, ac mae’n gwneud arian hefyd trwy droi’r hyn sy’n weddill yn gynnyrch llaeth.

Gofynnwyd i Reolwr Garddio Plaw Hatch Farm, Nir Halfon, am hyn wrth ymweld â Chynhadledd Ffermio Rhydychen.

Mae ffermio biodeinamig yn dibynnu ar system amaethyddol gytbwys gyda chnydau cyflenwol a thechnegau ffermio mewn lleoliad un fferm. Mae Plaw Hatch Farm yn dweud fod ei agwedd amaethyddol fiodeinamig yn “gwerthfawrogi dulliau hwsmonaeth cynaliadwy ar gyfer y tir ac agwedd gyfrifol a chariadus tuag at les yr anifeiliaid”.

Mae rhyw 25 o bobl yn gweithio ar y fferm, gyda 20 ohonynt yn byw yno. Mae 5 o fentrau amaethyddol gwahanol yn bodoli, ac yn cydweithio ar Plaw Hatch Farm ac mae’r siop hefyd yn gwerthu cynnyrch tyfwyr a chynhyrchwyr organig lleol eraill.

Meddai Nir Halfon: ”Y cysyniad yw y gall teulu ddod yma i siopa bob wythnos ac maen nhw’n gallu prynu popeth yn amrywio o fwydydd sych i lysiau ffres ac wyau, llaeth a chynnyrch llaeth, cig, blawd, bara, ac ati. Ein nod yw ceisio cael cymaint o’r cynnyrch o’r gymuned leol a hyrwyddo busnesau lleol eraill. Mae’n anhygoel fod fferm fach ond amrywiol yn gallu bwydo cymaint o bobl.”

Gellir dysgu mwy trwy ymweld â: www.plawhatchfarm.co.uk.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: biodynamic, co-operative, community supported agriculture, farm shop, local food, local markets, market gardening, a Sussex.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.