Thursday October 1st, 2020

‘Tamar Grow Local’ yn pontio’r bwlch rhwng cynhyrchwyr lleol a chwsmeriaid

Tamar-grow-local-main

Grŵp ar y ffin rhwng Dyfnaint a Chernyw yn chwilio am arddwyr marchnad newydd i fodloni’r galw cynyddol.

Os hoffech helpu pobl i wneud bywoliaeth o arddio ar raddfa fach, gall rhannu costau cynhyrchu a hyd yn oed rhannu offer, helpu creu’r amodau cywir i gychwyn ac aros mewn busnes.

Dyna nod ‘Tamar Grow Local’, Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC) sy’n darparu cymorth a chyfleoedd i bobl dyfu eu bwyd eu hunain; mae’n addysgu’r cyhoedd o ran manteision bwyd lleol ac yn gweithio ar gadwyni cyflenwi byr i gynyddu argaeledd bwyd gan gynhyrchwyr bach.

Ers 2007, mae’r grŵp wedi bod yn gweithio i ddatblygu prosiectau bwyd cymunedol ac adfywio garddio marchnad yn Nyffryn Tamar, lle’r oedd rhyw 2,000 o erddi ar un adeg yn y 1960au a’r 1970au yn cynhyrchu ffrwythau, llysiau a mêl, ond oedd wedi dirywio i ryw 30 erbyn 2005.

tamar-grow-local-1

Bellach mae nifer y cynhyrchwyr ar gynnydd yn araf, diolch i alw cynyddol am gynnyrch lleol, er maen nhw dal ymhell o dan lefel y niferoedd rhyw 40- 50 mlynedd yn ôl, dywed Simon Platten, pennaeth ‘Tamar Grow Local’.

“Mae mwy o alw am gynnyrch lleol, ond nid oes digon o gynhyrchwyr, ac rydym wrthi’n ceisio creu cadwyn gyflenwi gyfochrog fydd yn annog pobl i ehangu o dyfu ar lefel hobi,” meddai Simon; thema traethawd ymchwil Simon, oedd y berthynas rhwng y farchnad ac economi “moesegol” gerddi marchnad Indonesia, lle byddai tyfwyr yn gwneud dewisiadau hollol hurt o safbwynt economaidd yn unig.

Ar hyn o bryd mae TGL yn gweithio gyda 60 o gynhyrchwyr lleol, gan gynnwys llaethdai a phobyddion bach. Mae’r grŵp yn codi comisiwn o 15% ar unrhyw beth a werthir ar eu rhan, cyfradd sydd yn ôl Simon yn “llawer uwch” na’r hyn sydd ar gael gan gyfanwerthwr masnachol.

Ymhlith y prosiectau mae cydweithfa i wenynwyr, sydd yn cyfuno allbwn cynhyrchwyr bach sydd yn aml yn ei wneud fel “hobi” sy’n methu sicrhau cwsmeriaid masnachol oherwydd nid oes digon o gyflenwad ar gael neu maen nhw’n methu bod yn ddibynadwy.

Gellir dysgu mwy am ‘Tamar Grow Local’ yma: www.tamargrowlocal.org.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: community owned, Cornwall, Devon, horticulture, local markets, market gardening, small-scale producers, a training.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.