Friday October 2nd, 2020

Cynaliadwyedd yn bosib trwy bartneriaeth ar ‘Pipers Farm’

pipersfarm-main
Pictured: Peter Greig.

Marchnata 25 o ffermydd bach trwy un brand.

Trwy archebu blwch o gig gan Pipers Farm o gysur eich cartref eich hun byddwch yn cefnogi ffermydd bach cynaliadwy yn ne orllewin Lloegr. Dyna’r neges sy’n dod gyda phob blwch o gig rewedig gan sylfaenwyr Pipers Farm, Peter a Henri Greig.

Cychwynnyodd Pipers Farm fywyd 30 mlynedd yn ôl o fferm deuluol Peter a Henri yn Nyfnaint. Stori gyfoes Dafydd a Goliath yw’r busnes yma, ac mae wedi cael ei alw’n ‘arwr’ gan ‘The Slow Food Movement’. Trwy ddefnyddio grym ffermydd bach i gystadlu ar y cyd dan un brand, mae Pipers Farm yn cystadlu yn erbyn busnesau mawr gydag amrediad eang o gynnyrch blasus iawn, marchnata uchel ei ansawdd, danfon nwyddau’r diwrnod wedyn, a chyfleustra ar gyfer cwsmeriaid a’r sicrwydd eu bod yn prynu’n uniongyrchol gan y cynhyrchwr ac yn cynnal diwylliant bwyd lleol go iawn.

Maint sydd tu ôl i nerth y brand. Mae ffermio ar raddfa fach yn galluogi cynhyrchu deunyddiau sy’n wirioneddol gynaliadwy, ac yn cefnogi cymunedau ffermio. Mae Pipers Farm yn defnyddio cyfanswm o 25 o ffermydd lleol sy’n magu bridiau cynhenid ar laswellt trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol. “Credwn mewn pobl a ffermydd teuluol,” meddai Peter wrth siarad o bencadlys Pipers. “Ac rydym yn talu pris teg i’r holl gynhyrchwyr, ac yn glynu wrth hynny.”

O’r cychwyn cyntaf, roedd Peter a Henri yn credu ei fod yn hanfodol rheoli’r holl fanylion perthnasol. “Cyfrwng ydym ar gyfer ein ffermydd cyn cyflwyno llafur eu gwaith i’r farchnad. Ein gweledigaeth yw rheolaeth, o’r adeg pan mae’r anifail yn fyw, hyd at bob llond ceg o gig. Ein prif swydd yw creu cynnyrch hynod flasus, a’r nod yw sicrhau’r cynnwys maethol gorau posib,” meddai Peter.

Gwnaethpwyd gwaith ymchwil trwyadl iawn gan y cwpl i gychwyn, “Dysgwyd am effaith gweithgareddau gwahanol ar y fferm ar y cig sy’n mynd i’ch ceg. O’r cychwyn cyntaf, roedd padell ffrio yn yr ystafell torri, a seiliwyd pob penderfyniad a wnaethpwyd ar y badell ffrio honno”, dywed Peter.

“Nid yw’r rhan fwyaf o ffermwyr yn deall deinameg y stryd fawr. Mae’r awyrgylch yn gystadleuol ac yn symud yn gyflym,“ yn ôl Peter, “Ein gwaith ni yw canolbwyntio ar y pen pwysig, cyflenwi’r nwyddau i’r farchnad er mwyn i ffermwyr wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau ac nid oes angen iddyn nhw farchnata.”

pipersfarm-1
Red Ruby cattle, native to Exmoor.

Mae neges gyson yn amhrisiadwy, “Nid ydym wedi gwerthu cig eidion ers 30 mlynedd,” meddai Peter, “‘Grass Fed Red Ruby’ a werthwyd gennym.” Mae natur entrepreneuraidd yng ngwaed Peter, sydd yn fab i ffermwr, “Ym 1953, prynodd fy nhad uned cynhyrchu cywion brwylio o’r UDA i werthu trwy gadwyn siopau bwyd y teulu’n wreiddiol, ac wedyn yn y 1970au a’r 80au, trwy siopau enwog ar y stryd fawr,” meddai Peter, “Dywedais wrth dad, mae’r cywion yn ofnadwy, a chytunodd, trwy ddweud ie, efallai, ond maen nhw’n gyson. Ac ar y stryd fawr, cysondeb yw popeth, ac yn hanfodol i lwybr unrhyw frand.”

I gychwyn, nid oedd llawer o gefnogaeth i Peter a Henri, “Roedd pobl o’r farn ein bod yn wallgof ac yn rhyfedd iawn,” meddai, “Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diweddar, mae pethau wedi dechrau newid, ac mae cyffro yn y maes. Mae’r sgyrsiau oedd yn digwydd 30 mlynedd yn ôl yn fwy cyffredin ac yn cael eu derbyn a’u deall bellach.”

Yn 2016, aeth Peter ati i ddelio gyda’r dirywiad yn y stryd fawr trwy gau siop fferm St Leonards Caerwysg oedd yn masnachu ers 23 mlynedd. “Bellach rydym yn defnyddio system ddigidol, ac mae’r DU cyfan ar agor inni,” meddai Peter; mae ei frwdfrydedd mor amlwg, “Rydym ar fin chwyldro ym maes cyflenwi bwyd, sy’n cynnig cyfleustra tu hwnt i siopa o unrhyw fath arall.”

Mae Peter yn annog gwerthu trwy ddulliau digidol, “Mae’r cyfleoedd yn enfawr ” meddai, “Y peth pwysig yw adnabod eich cwsmer. Mae’n hanfodol deall y gofynion. Mae angen ymgysylltu â’r gymuned, gyda gweledigaeth a chwilio am ffyrdd arloesol a chyffrous i ffermio, gan ddefnyddio eich cryfderau, ond ar yr un pryd, ceisio gweithio mewn partneriaeth gydag eraill. Er enghraifft, os nad yw marchnata/rhyngweithio â chwsmeriaid yn addas ichi, chwiliwch am bartner fyddai’n gallu bod yn rhan o berthynas gydweithredol.”

Gellir dysgu mwy yma: www.pipersfarm.com.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: beef, Devon, family farm, local food, organic, small-scale producers, a sustainable production.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.