Monday October 5th, 2020

Ridgedale: Ffermio mewn amgylchedd garw, a lledu’r gair

model-ridgedale-main

Arloeswr Youtube yn rhannu neges amaethyddiaeth atgynhyrchiol o’r Gogledd Oer.

Mae Richard Perkins yn barod am her. Mae’n ffermio mewn amgylchedd garw lle mae’r haf yn fyr, a dim ond ychydig o fisoedd sydd heb rew. Er hynny, mae’n rhedeg busnes amaethyddiaeth atgynhyrchiol lwyddiannus ac mae ymhlith rhai o sylwebyddion ac addysgwyr mwyaf poblogaidd y byd amaeth ecolegol.

Richard yw cydberchennog ‘Ridgedale Permaculture’, fferm fach 10 hectar ar ledred 59° Gogledd yng nghanol Sweden, ar linell rhwng Oslo a Stockholm. Yn ogystal â ffermio yno, mae wedi ysgrifennu dau lyfr mae’n rhedeg cyrsiau hyfforddi dwys ar thema Permaddiwylliant ac Amaethyddiaeth Atgynhyrchiol, ac mae 100,000 yn tanysgrifio i’w ddilyn ar YouTube. Mae wedi teithio’n helaeth ar bedwar cyfandir yn lledu’r gair am ffermio cynaliadwy ar raddfa fach.

“O ran ffermio, mae amgylchedd Sweden yn arw,” meddai Richard, “dim ond tri mis a hanner y cewch chi heb rew, am ran helaeth o’r amser mae’n dywyll, ar wahân i’r haf byr toreithiog pan gawn olau am 24 awr y dydd bron. Er hynny, rydym yn cynhyrchu popeth ar gyfer diet dyn; o gynnyrch llaeth i gig a dyfir ar dir pori i lysiau, ac rydym yn hel madarch a bwydydd gwyllt. Mae gan Sweden gyfoeth o bysgod a chig sy’n crwydro’r coedwigoedd, felly unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn pan nad yw’n bosib tyfu cynnyrch ein hunain, rydym yn canolbwyntio ar gynaeafu’r cynnyrch gwyllt.”

model-ridgedale-main
Photo: Ridgedale Farm.

Dim ond 25 erw yw Ridgedale ei hun: “Dim digon o faint i’w gyfrif fel fferm o ran safonau cyfoes,” meddai Richard. Ond mae’n cynhyrchu digon i drosi mwy na gwerth y fferm a buddsoddiadau bob tymor, ynghyd â bwydo’r teulu a thîm o weithwyr parhaol, yn ogystal â chyfranogwyr ar gyrsiau hyfforddi yn ystod y tymor tyfu.

Mae Richard yn rhedeg Ridgedale gyda’i bartner Yohanna Amselem sydd â gradd mewn Garddio, gan arbenigo mewn Iechyd a Dylunio; mae’n arloesi ym maes byw cydweithredol mewn comiwn yn agos i Stockholm, prifddinas Sweden, a helpodd sefydlu man gwerthu bwyd organig/lleol a reolir ar sail cydweithfa.

Mae ‘Ridgedale Permaculture’ yn rhedeg ar sail rheolaeth gyfannol; ffordd o fyw sy’n golygu cynhyrchu cnydau neu dda byw mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau bywoliaeth y ffermwr, ac ar yr un pryd cael effaith atgynhyrchiol gadarnhaol ar yr ecosystem o’u cwmpas. Dyna sylfaen addysg Richard: cyfres o egwyddorion sy’n cynyddu bioamrywiaeth a dal carbon, yn gwella pridd a’r cyflenwad dŵr ac yn cyfoethogi’r ecosystem naturiol gan arwain at gnydau uwch ac arferion ffermio mwy cynaliadwy a hyblyg.

Ar y fferm ei hun ceir tir pori, coedwigoedd a nentydd dŵr ffres a hyn oll ar dirwedd o lethrau. Mae’n manteisio i’r eithaf ar symudiad naturiol dŵr ar draws y dirwedd er mwyn rhoi dŵr i’r planhigion. Ni ddefnyddir technegau palu i dyfu’r llysiau, nid yw’r tir yn cael ei aredig o gwbl ar y fferm hon. Mae’r anifeiliaid maes yn cael pori stribedi amaeth-goedwigaeth, sy’n cynhyrchu ffrwythau, cnau ac aeron.

Fel eglura Richard: “Mae cyflwr y pridd yn hollbwysig i ddyfodol unrhyw systemau amaethyddol; os nad ydych yn cyfoethogi’r pridd, bydd pethau’n mynd ar i lawr. Nid peth newydd yw hyn; mae pobl wedi bod yn ymwybodol o sut i gynnal iechyd y pridd ers oes. Er gwaetha’r holl siarad fod amaethyddiaeth yn ddinistriol, mae’r byd wedi cael ffermwyr da ers miloedd o flynyddoedd, ac mae angen inn ddefnyddio dulliau gwyddonol cyfoes o ran rhai o’r hen egwyddorion hyn. Ac mae angen inni ystyried yr holl systemau sydd angen anifeiliaid, planhigion unflwydd a lluosflwydd. Does dim modd osgoi hynny os ydych am gael ecosystem sy’n atgynhyrchu ac yn meithrin iechyd ac amrywiaeth. Y fantais fawr yw ei bod mor rhwydd meithrin iechyd y pridd; mae’n hawdd ei ddinistrio, ond hefyd mae’n rhwydd ei gyfoethogi.”

model-ridgedale-2
Photo: Ridgedale Farm.

Wrth ymweld â Ridgedale, gellir dysgu am ddylunio fferm, garddio marchnad, dofednod sy’n pori a llawer mwy yn ystod y tymor tyfu prysur. Bydd cyfranogwyr yn aros ar y fferm, mewn llety priodol, gan ddefnyddio bwyd ffres yn syth o’r caeau wrth goginio, a chyfrannu at redeg y fferm bob dydd ochr yn ochr ag astudio. Yn ôl Richard: “Er taw ein prif gyfrifoldeb yw atgynhyrchu ein tirwedd, prosesau ein hecosystemau a’n priddoedd trwy fentrau amaeth cydnerth, dyblygiadol, sy’n gallu tyfu yn ôl yr angen a phroffidiol, ein hail swyddogaeth yw addysgu, hwyluso, hysbysu a grymuso pobl i weithredu trwy ddyluniadau atgynhyrchiol, mentergarwch a gwneud penderfyniadau mewn ffordd gyfannol sy’n meithrin ac yn ysgogi’r gymuned leol, yr economi a chydnerthedd. Rhan o’r weledigaeth yw gallu cynnig profiadau i bobl sy’n gallu grymuso’r agwedd tuag at ddylunio, a’r sgiliau ymarferol sydd yn ein barn ni yn angenrheidiol i wneud elw wrth ffermio. Mae’r potensial i hwyluso’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc i sefydlu mentrau proffidiol ar y tir yn achos cyffro mawr inni.”

Mae gan Richard Ddiploma mewn Dyluniad Permaddiwylliant (DU) a HND mewn Cynhyrchu Cnydau Organig (DU). Mae wedi astudio’n helaeth mewn nifer o feysydd gan gynnwys dylunio Permaddiwylliant, rheolaeth gyfannol, Garddio Marchnad Heb balu a Dyluniad Allweddlin. Mae wedi arwain 50 o gyrsiau dylunio Permaddiwylliant, ac wedi cyfrannu at dros 160 o brosiectau amaethyddol ar hyd a lled y byd. Ac erbyn hyn mae’n lledu’r gair ar draws y byd am amaethyddiaeth gynaliadwy, ac yn gwahodd eraill i ymuno ag ef. Ceir mynediad at 80 awr o hyfforddiant ar-lein ar Ddylunio Permaddiwylliant ac Amaethyddiaeth Atgynhyrchiol trwy danysgrifio neu gellir prynu copi clawr caled o lyfr Richard neu E-lyfr ar ffurf PDF o’r wefan. Hefyd mae Richard yn teithio ar draws Ewrop i ddarlithio a mynychu seminarau. Ac mae’n cynhyrchu ffilmiau am brosiectau amaeth cynaliadwy llwyddiannus eraill, pan fydd yn gofyn i’w gyd-ffermwyr am fanylion o ran cyllid, heriau a phroblemau. “Mae’n rhaid inni gadw popeth yn real,” meddai, “mae’n ffordd wych i gasglu peth wmbreth o wybodaeth, sydd ar gael am ddim i’r byd cyfan.”

Dywed Richard: “Roeddwn yn gwybod fy mod i am ffermio ers pan roeddwn yn ifanc iawn, ar ôl dysgu gan Sipsiwn Romani yn y DU sut i fyw oddi ar y tir mewn ffordd gynaliadwy. Gellir dysgu llawer iawn wrth edrych yn ôl, o systemau sydd wedi gweithio yn y gorffennol cyn i’r farchnad bwyd byd-eang newid popeth.”

Os hoffech ddysgu mwy am Lyfr neu Gyrsiau Richard, neu am Ridgedale Farm, ewch i’r wefan ar: www.ridgedalepermaculture.com

 

Categorïau: Ffermydd arloesi enghreifftiol. Tagiau: pioneer model a ridgedale model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.