Wednesday October 7th, 2020

Cwrs ar fferm Ridgedale: cael blas ar ffermio graddfa fach, gynaliadwy a phroffidiol

model-ridgedale-main
Photo: Ridgedale Farm.

Mae Ridgedale Farm, Sweden yn defnyddio dulliau amaethyddiaeth atgynhyrchiol a phermaddiwylliant graddfa fferm, i arddio heb balu ac amaethgoedwigaeth. Mae’r cwrs 4 diwrnod yn cynnig cyflwyniad ymarferol rhagorol i’r dulliau hyn.

 

Yn ystod dosbarth meistr pedwar diwrnod Ridgedale byddwch yn dysgu am yr arferion atgynhyrchiol gorau a sut i gychwyn ar unrhyw raddfa. Cewch gyfle i weld y dulliau a ddefnyddir ar Ridgedale trwy gymysgedd o ddosbarthiadau ac astudio yn y maes. Gweler isod rai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn ystod y cwrs:

  • Prynu fferm
  • Delio gyda’r awdurdodau a’r rheoliadau
  • Datblygu brand a strategaethau marchnata
  • Delio gyda bywyd teuluol fel ffermwyr
  • Gweithio gyda’ch partner mewn busnes
  • Creu eich lle yn y gymuned
  • Heneiddio
  • Prisio cynnyrch
  • Rheoli tir pori
  • Integreiddio mentrau amrywiol​
  • Cyfoethogi pridd a chynyddu amrywiaeth
  • Proses cynllunio’r fferm

 

Pam mae’r cwrs mor dda

Mae’r cwrs yma’n wych oherwydd mae’n cynnig rhywbeth mwy ymddiddanol na chyrsiau eraill, a’r prif nod yw osgoi dyblygu deunyddiau sydd ar gael i bobl ar-lein. Mae’r cwrs yn cael ei deilwra yn ôl y cyfranogwyr, sy’n golygu ei fod yn brofiad unigryw.

 

Adolygiadau

“Mae sgiliau a gwybodaeth Richard yn cynnwys y sbectrwm llawn o sut i asesu tir o ran ei ddylunio mewn ffordd effeithlon yr holl ffordd at y manylion bach. Mae ei arddull dysgu’n llawn hwyl, ac mae’n dysgu o’r galon.” – Matthew Maingay, Singapore

“Un o’r athrawon Permaddiwylliant mwyaf deinamig yn Ewrop….“ – Maria Svennbeck, Cyfarwyddwr Cymdeithas Permakulture, Sweden 

“Cronfa profiad helaeth a deinamig, a gyflwynir gyda llawenydd a’r cariad sydd ei angen ar y ddaear nawr.“ – Ross Green, Music Seeds International, Canada

  

Gwyliwch allan am fanylion cwrs y flwyddyn nesaf ar wefan Ridgedale!

 

Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: pioneer model resources a ridgedale model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.