Amaethyddiaeth Atgynhyrchiol: llawlyfr ar gyfer ffermydd llwyddiannus bach
Mae Ridgedale Farm, Sweden yn arfer dulliau amaethyddiaeth atgynhyrchiol a phermaddiwylliant ar raddfa fferm, i ardd farchnad heb balu ac amaethgoedwigaeth. Mae’r llyfr Regenerative Agriculture yn gyfoeth o wybodaeth i’ch helpu cychwyn ffermio ar raddfa fach.
Mae’r llyfr hwn yn derbyn cydnabyddiaeth gyffredin fel arf ‘hanfodol’ ar gyfer unigolion sydd am fentro i ffermio ar raddfa fach. Mae Regenerative Agriculture yn cynnig agwedd glir ac ymarferol o ran dylunio, gosod a rheoli ffermydd bach proffidiol, ac fe’i seilir ar waith diflino Richard Perkins i adfer urddas o ran bod yn stiward cefn gwlad trwy ffermio ar raddfa ddynol ddeallus.
Pam mae’r llyfr mor dda
Oherwydd, does dim byd tebyg iddo o safbwynt cynnig manylion! Mae’r llyfr llawn taenlenni a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer nifer fawr o gnydau a phrosesau. Bydd y llyfr yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau ffermio ar raddfa fach.
Adolygiadau
“Y llyfr hwn yw’r casgliad mwyaf eclectig, a chynhwysfawr o gyngor i ffermwyr bach a welais erioed. Bydd ar silff lyfrau pob ffermwr am flynyddoedd i ddod, gan gychwyn gyda fi fy hun. Bydd y byd yn diolch i Richard am ei fanylder, ei bleser wrth arbrofi, ei awydd ar gyfer gwirionedd defnyddiol. ’Dwi’n methu meddwl am ddigon o ddisgrifiadau penigamp ar gyfer y llyfr rhyfeddol hwn.” – Joel Salatin, Polyface Farms
“Gwaith hynod. Yn hanfodol i unrhyw un sydd am ffermio’n broffesiynol. Mae’r llyfr yn hyrwyddo ymarferoldeb, ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb. Mae’r awdur yn pwysleisio agwedd holl gynhwysfawr tuag at amaethyddiaeth, sydd mor fuddiol, ar lefel ddeallus a moesegol.” – Simon
Gellir darganfod mwy am y llyfr yma.
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: pioneer model resources a ridgedale model.