Friday October 2nd, 2020

Compost yw allwedd llwyddiant ‘Blaencamel Farm’

blaencamel-main
Pictured: Peter Segger.

Fferm organig flaengar yng Nghymru’n tyfu llysiau trwy gydol y flwyddyn.

Mae Peter Segger a’i bartner Anne Evans, yn defnyddio dulliau newydd arloesol i gyflymu’r broses o gynhyrchu compost ar eu fferm organig 50-erw, ger Llambed yng ngorllewin Cymru. Yn draddodiadol mae’n cymryd hyd at flwyddyn i greu compost. Ond mae Peter ac Anne wedi lleihau’r amser i chwe wythnos, sy’n eu galluogi i wireddu ‘greal sanctaidd’ nodau ffermio – cynhyrchu trwy gydol y flwyddyn mewn ffordd gynaliadwy.

“Inni’r newid arwyddocaol oedd y compost a’r ffaith ei fod yn allweddol i bopeth a wnawn.” meddai Peter. “Ychydig iawn o bobl sy’n gwneud hyn yn y DU a does dim rhesymeg dros beidio.”

Mae cynhyrchu’r compost ar y safle wedi trawsnewid ffordd o weithio Blaencamel. Mae’r cwpl wedi cyfuno eu blynyddoedd o brofiad gyda pheiriannau cyfoes i ddatblygu’r broses o wneud y compost. Tai gwydr sydd ar ddwy erw o’r ffermdir. Mae’r ffaith eu bod dan do yn golygu y gall y fferm gynhyrchu ffrwythau a llysiau amrywiol trwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal, mae Peter ac Anne wedi tyfu 15 erw o lysiau ar y caeau trwy eu cylchdroi am dros 20 mlynedd. “Rydym yn gweithio i gynhyrchu mwy ar bob erw lle rydym yn tyfu” eglura Peter, gan nodi taw effeithlonrwydd sydd wedi arwain at gynaliadwyedd y fferm a’r ffaith ei fod yn niwtral o safbwynt carbon. Diolch i ysbrydoliaeth Cymdeithas y Pridd, symudodd y cwpl i fyw ar fferm Blaencamel ym 1974, heb unrhyw gefndir ffermio. “Roeddem yn chwilio am ffordd newydd o wneud pethau,” meddai Peter. “Roedden ni am gael gwell iechyd i’n hunain a’r amgylchedd.”

Defnyddir cadwyn gyflenwi mor fyr â phosib i ddosbarthu’r cynnyrch trwy farchnadoedd ffermwyr lleol a chynllun blychau o Gaerdydd. “Rydym wedi gwerthu i farchnadoedd yn Lloegr, Llundain, a hyd yn oed archfarchnadoedd,” dywed Peter “a dysgu fod cynnyrch Cymreig yn gwerthu orau yng Nghymru.”

Yng nghegin y fferm, mae Anne yn gwneud piclau a jamiau gyda’r cynnyrch tymhorol dros ben. Nid ydym yn gwastraffu unrhyw beth, ac mae hynny’n golygu incwm ychwanegol. Maen nhw’n cadw ychydig o ddefaid, sy’n cael eu magu i wrteithio’r tir yn unig, a defnyddir eu gwlân yn y compost.

“Gallwn ni werthu’r compost,” meddai Peter, ond nid yw hynny’n opsiwn, “pe bawn i’n 40 mlynedd yn iau,” meddai.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, yr her fwyaf oedd diffyg gwybodaeth. “Gwnaethpwyd cymaint o gamgymeriadau,” meddai Peter, wrth ystyried effaith gadarnhaol y rhyngrwyd ar ffermio cyfoes.

Mae Blaencamel yn cynnal ymweliadau fferm sydd yn ffordd i Peter ac Anne roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a rhannu eu gwybodaeth.

Mae Peter yn cyfeirio at lwyddiant y fferm fel taith barhaol, lle maen nhw’n ceisio bod yn gynaliadwy yn holl agweddau ar waith y fferm.

“Tri pharamedr llwyddiant ffermio yw’r pridd, yr amgylchedd a marchnata. Trwy reoli’r rhain yn effeithiol,” meddai Peter “bydd gennych fusnes cadarn a chynaliadwy. Hynny a chompost da.”

I ddysgu mwy ewch at: www.blaencamel.com.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.