Friday October 2nd, 2020

‘Three Pools Farm’ yn defnyddio twristiaeth i newid tybiaethau am baramaethu

threepoolsfarm-main

Dangos technegau ffermio cynaliadwy ger Y Fenni.

Ofn am effaith arfaethedig newid yn yr hinsawdd ar gymdeithas, ac awydd i wneud rhywbeth amdano, oedd yn gyfrifol am ddarbwyllo gŵr gradd i brynu fferm 141-erw ar y Gororau gyda’r bwriad o sefydlu cyfrwng i arddangos technegau amaethyddol amgen. Er mwyn gwneud hyn, bu’n rhaid i Huw ennill cefnogaeth ei dad, a’i ddarbwyllo i gael morgais ar y cartref teuluol er mwyn sefydlu’r prosiect. Bellach mae Huw am ddefnyddio Three Pools Farm ger y Fenni fel safle arddangos i bobl weld technegau cynaliadwy newydd.

Wnaethon ni gwrdd â Huw yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen, a gofyn am ei gynlluniau.

Fel rhan o’i gwrs peirianneg yn y brifysgol astudiodd Huw ddefnydd o ddŵr, tir a pharamaethu, a threuliodd blynyddoedd olaf ei gwrs yn astudio ffermio. “Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd,” meddai Huw “ond mewn gwirionedd roeddwn yn gweithio ar fy nghynllun busnes ar gyfer Three Pools Farm yn ystod y cyfnod hwnnw.”

Gobaith Huw yw y bydd Three Pools Farm sy’n llwyddiannus ac yn hyfyw yn hybu proffil paramaethu a ffermio biodeinamig yn y DU ac yn profi i ffermwyr eraill gwir werth arferion ffermio cynaliadwy. Mae’r ddwy dechneg yn hyrwyddo defnyddio gwrtaith naturiol yn lle cemegol i greu pridd mwy cyfoethog a llawn maetholion a chynnyrch uchel ei ansawdd ac iachach. Mae Paramaethu’n defnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy, yn ailgylchu dŵr ac yn ceisio osgoi gwastraff. Dylai gwneud Three Pools Farm yn llwyr amrywiol – trwy gymysgu cynhyrchiant amaeth gyda digwyddiadau a thwristiaeth – a sicrhau fod y busnes yn fwy cynaliadwy ac yn llawer llai dibynnol ar gymhorthdal.

Dywed Huw: “Nid yw’r system amaethyddol bresennol yn addas i’r 21ain ganrif; ni fydd yn gallu parhau i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae’n gwneud niwed i’r tir, yr awyr a’r dŵr, yn methu’r bobl sy’n gweithio’r tir ac mae’n rhaid i gymhorthdal amaethyddol ei chefnogi.”

“Rydym am arwain trwy esiampl a dangos sut y gellir ail-ddylunio agwedd y DU tuag at amaethyddiaeth,” meddai.

Gellir dysgu mwy ar wefan: www.threepools.co.uk, ar Facebook: @ThreePoolsFarm, ac ar Instagram: @threepools.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: biodynamic, Monmouthshire, permaculture, sustainable production, tourism, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.