Friday October 30th, 2020

Llyfr The Market Gardener: adnodd rhagorol ym maes garddio marchnad

market-gardener-book-main
Pictured: Jean-Martin Fortier. Photo: The Market Gardener.

Les Jardins de la Grelinette Canada – Micro-fferm sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau ar raddfa cynhyrchiant uchel; mae 1.5 erw yn tyfu digon i fwydo 200 teulu am flwyddyn. Mae’r ffermwr Jean-Martin Fortier wedi rhannu ei wybodaeth yn ei lyfr The Market Gardener.

Mae’r llyfr The Market Gardener yn cynnwys casgliad o dechnegau garddwriaethol llwyddiannus JM Fortier a’i ddulliau tyfu arloesol. Mae’r llawlyfr cynhwysfawr yn cynnwys gwybodaeth ymarferol ar:

  • Sefydlu micro-fferm
  • Ffermio heb dractor a lleihau cymaint â phosib cynhyrchu tanwydd ffosil trwy ddefnyddio’r offer llaw gorau
  • Tyfu llysiau cymysg ar sail system, gan dalu sylw at reoli chwyn a phlâu, cynhyrchiant cnydau, cyfnodau cynaeafu a phrisio

market-gardener-book-1

Pam mae’r llyfr mor dda

Mae’r llyfr yma’n wych oherwydd mae’n cynnwys rhywbeth i bawb, boed yn dyfwr profiadol, neu rywun sydd ar gychwyn garddio marchnad. Mae Jean-Martin Fortier yn egluro pam mae ffermio ar raddfa fach yn llwyddo, ac mae’n cynnig cyngor ar sut i gychwyn ac yn rhoi manylion ar gnydau amrywiol hefyd. Ac nid yw’n llyfr drud!

 

Adolygiadau

Dylai fod yn ddefnyddiol iawn i arddwyr marchnad ym mhob man.” – Eliot Coleman, sy’n arloesi ym maes ffermio organig ac awdur Winter Harvest Handbook

Llyfr hynod ddefnyddiol ar gyfer llyfrgell unrhyw un sydd am fod yn arddwr marchnad.” – Josh Volk, Slow Hand Farm, Portland, Oregon

Bydd y llyfr hwn yn rhoi arweiniad cam wrth gam i arddwyr newydd, sy’n fwy neu lai’n gwarantu llwyddiant, tra bydd ffermwyr profiadol yn gallu ei ddefnyddio fel carreg sarn i gyraeddiadau’r dyfodol.” – Alexandre J-Nicole, Biolegydd, dylunydd graffeg ac arlunydd.

 

Rhaglun

 

Gellir darganfod mwy am y llyfr yma.

 

Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: market gardener model a pioneer model resources.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.