The Market Gardener: casgliad o fideos ymarferol rhwydd eu dilyn
Les Jardins de la Grelinette, Canada – Micro-fferm sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau ar lefelau cynhyrchiant uchel; mae 1.5 erw yn tyfu digon i fwydo 200 teulu am flwyddyn. Mae’r ffermwr Jean-Martin Fortier wedi creu fideos defnyddiol er mwyn ichi gael gweld yn union sut mae ei dechnegau ffermio enwog yn gweithio ar lefel ymarferol.
Rydym wedi cynnwys rhai o’r fideos yma ichi gael eu gweld. Mae gweddill y fideos ar gael ar Sianel Youtube JM Fortier.
Esiampl 1: Moron – o’u plannu i’w cynaeafu
Esiampl 2: Trawsblannu cennin
Esiampl 3: Clymu ciwcymbr ar ddellt
Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: market gardener model a pioneer model resources.