Thursday October 8th, 2020

Dysgu sut i wneud arian o blanhigion ifainc trwy gwrs ‘The Urban Farmer’

urban-farmer-microgreens-main
Pictured: Curtis Stone. Photo: The Urban Farmer.

Mae Curtis Stone, a elwir hefyd yn Urban Farmer, wedi datblygu model busnes hynod lwyddiannus i gynhyrchu planhigion ifainc. Mae wedi rhannu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i sefydlu busnes tebyg trwy ei gwrs ar-lein ‘Microgreens with Curtis Stone’.

Yn ystod y Cwrs hunanastudiaeth hwn sy’n para am 5 wythnos, byddwch yn dysgu popeth angenrheidiol i dyfu a gwerthu gwerth $1200 (tua £900, cywir ym mis Hydref 2020) o blanhigion ifainc yr wythnos yn eich marchnad ffermwyr, bwytai a siopau lleol. Gallwch ddilyn dosbarth dros y we am ddim, cyn talu am y cwrs 10 modiwl. Weithiau bydd rhestr aros ar gyfer y cwrs yma.

 

Pam mae’r cwrs mor dda

Mae planhigion ifainc yn hyfryd, ac yn hynod broffidiol. Yn ein barn ni mae planhigion ifainc yn lle gwych i ddechreuwyr gychwyn cynhyrchu bwyd, ac mae’r cwrs yn gynhwysfawr iawn.

 

Cofrestru ar gyfer y cwrs

Darllenwch lawer mwy am y cwrs, a chofrestrwch yma.

 

Categorïau: Cyrsiau, fideos a llyfrau. Tagiau: pioneer model resources a urban farmer model.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.