Friday October 23rd, 2020

‘Watson&Pratt’ yn achub cwmni dosbarthu bwyd organig sy’n methu

watsonpratts-main
Pictured: Lucy Watson and Ben Pratt.

Arloesi, gwaith caled a hunangred yn rhoi buses o Gymru ar y ffordd i lwyddiant.

Mae wedi cymryd degawd bron o waith caled, arloesi a hunangred i Lucy Watson a Ben Pratt wyrdroi llwyddiant eu busnes bwyd organig.

Ar ôl prynu’r busnes yn 2011, ar y pryd ei enw oedd ‘The Organic Fresh Food Company’, busnes gweithredol oedd … mwy na lai. Roedd y cwmni yng Ngheredigion yn mynd ar i lawr, ac roedd angen buddsoddiad newydd ac egni newydd er mwyn iddo oroesi.

Felly cychwynnwyd y broses hir ac araf o droi’r busnes yn llwyddiant. Ehangwyd yn sylweddol yr amrediad o ffrwythau a llysiau oedd ar gael i siopwyr eu prynu, hyrwyddwyd cynhyrchwyr lleol, ychwanegwyd popty a chyflwynwyd archebu ar-lein. Y llynedd, newidiwyd yr enw i ‘Watson and Pratt’, gan osod eu henwau eu hunain ar faner y cwmni.

“Yn ystod y flwyddyn gyntaf, y syniad oedd mynd am bethau fyddai’n sicr o lwyddo,” meddai Lucy. “Newidiwyd y cwmnïau oedd yn cyflenwi deunyddiau ysgrifennu a thanwydd, aethom ar ôl cwsmeriaid i dalu, a stopio defnyddio deunyddiau pecynnu dianghenraid. Y cam nesaf oedd sicrhau ein bod yn cynnig amrediad mwy cynhwysfawr o nwyddau, nid yn unig ffrwythau a llysiau ond bwydydd hefyd, caws a chigoedd hallt o ffynonellau arbennig, alcohol a bara ffres o’n popty. Y cysyniad yw dweud taw siop a seilir ar gynhwysion ydym. Hefyd rydym yn gwerthu cynnyrch sydd ar gael yn yr archfarchnad, megis hylif glanhau’r llawr a phast dannedd.”

Lluniwyd “cynlluniau gweledigaeth” a mabwysiadwyd agwedd o “Roi blwyddyn iddo’ o ran pob syniad neu gynnyrch newydd. “Mae ymrwymo i weledigaeth hirdymor mor bwysig inni,” meddai. “Byddwn yn cwestiynu ein hunain o hyd: ‘a fydd hyn yn mynd â ni’n nes at lwyddiant?’ Egwyddor yw hon sy’n gwneud rhwystrau cyffredin cymaint yn haws i’w goresgyn.”

Ymhlith prif egwyddorion eraill y cwpl, sydd newydd ddathlu genedigaeth eu hail blentyn, mae cynaliadwyedd, lles anifeiliaid ac wrth gwrs cynhyrchion organig.

watsonpratts-1

Meddai Lucy: “Mae’r cyswllt uniongyrchol rhwng y cynhyrchydd a tharddiad wedi ein hysgogi ers y cychwyn, a dyna sy’n ein cadw i fynd pan fydd yr ochr weinyddol o redeg y busnes yn ein boddi. Mae ardal Llambed yn enwog am gynhyrchwyr organig ers blynyddoedd maith, ac mae’n bleser gallu arddangos a gwerthu eu cynnyrch.”

Yn ôl Ben, erbyn hyn maent yn gwerthu 55% o ffrwythau a llysiau trwy gyfanwerthu a 45% yn uniongyrchol i’r cyhoedd trwy’r siop a dosbarthu nwyddau i gartrefi. Meddai: “Rydym yn chwilio am gynnyrch newydd arloesol o hyd. Mae Lucy’n dweud bod prydau parod ar gyfer “swper dioglyd” a chinio cyflym, pastai, a phorc maes ar ben y rhestr o ran y bylchau mae hi am eu llenwi. Mae cynnyrch Cymreig wastad yn gwerthu’n dda, meddai, ac mae ’na wahoddiad i ddarpar gyflenwyr gysylltu â hi i roi samplau i’r tîm eu treialu. Os maen nhw’n hoffi’r cynnyrch, byddan nhw’n ymrwymo iddo, meddai. “Rhown flwyddyn iddo.”

Gwelodd Lucy bwysigrwydd meddwl mewn ffordd hirdymor yn ystod ei gyrfa flaenorol gyda Neal’s Yard Dairy yn Llundain. Yn ystod y cyfnod yma y cwrddodd y ddau (roedd Ben yn gweithio ym Marchnad Borough). Wnaethon nhw symud i orllewin Cymru “ar fympwy, oherwydd roedd yn edrych yn bert” meddai Lucy, a phrynu’r busnes yn Llambed yn fuan wedyn.

Yn ôl y cwpl, er mwyn i’r llwyddiant barhau mae’n dibynnu ar “arloesi o hyd”. Mae Lucy’n cyfaddef: “Mae byd manwerthu’n anodd ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid inni gael cynnyrch a syniadau newydd o hyd er mwyn aros yn yr unman.”

Heddiw maen nhw’n cyflogi dros 30 aelod o staff ac yn cyflenwi cwsmeriaid ar draws Cymru. “Rydym wedi gweithio’n galed i fagu enw da a gobeithio bod y neges yn lledu. Mae’n bwysig parhau i gadw synnwyr gwirion o hunangred.”

Gellir dysgu mwy ar: www.watsonandpratts.co.uk.

 

Categorïau: Ysbrydoliaeth i farchnata. Tagiau: Ceredigion, local food, on-line sales, organic, provenance, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.