Friday October 23rd, 2020

‘Natural Weigh’ yn gwerthu cynnyrch cynaliadwy ar y stryd fawr

naturalweigh-main
Pictured: Robin and Chloe Masefield.

Siop dim plastig yng Nghrughywel yn awyddus i werthu mwy o fwyd organig a gynhyrchir yn lleol – os mae ar gael.

Hon yw siop dim gwastraff gyntaf ar Stryd Fawr yng Nghymru, sy’n cynnig bwyd organig yn bennaf a nwyddau heb unrhyw ddeunyddiau pecynnu plastig. Mae cwsmeriaid Natural Weigh o Grughywel yn gallu dod â’u blychau eu hunain i’w llenwi gyda bwydydd a gynhyrchir yn bennaf mewn ffordd gynaliadwy – gan dalu am y bwyd yn unig.

Gwyliwch y fideo i weld sut mae’n gweithio:

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Organig yn bennaf a chynaliadwy i raddau helaeth iawn yw Natural Weigh oherwydd nid yw perchnogion y siop, Robin a Chloe Masefield, wedi llwyddo i gael hyd i’r holl gynnyrch organig lleol maent yn awyddus i’w werthu eto. Ac nid ydynt yn honni bod yn fusnes dim plastig yn gyfan gwbl eto, oherwydd nid ydynt wedi cael hyd i ddigon o gyflenwyr cyfanwerthu sy’n defnyddio deunyddiau pecynnu papur yn lle plastig hyd yn hyn.

“Ar hyn o bryd nid yw’n bosib cael hyd i gyflenwyr ar gyfer popeth rydym am ei werthu yn y ffordd ddelfrydol,” meddai Robin. “Ein nod yw cael ein holl gynnyrch gan gyflenwyr sy’n defnyddio deunyddiau pecynnu papur yn unig – hyd yn oed os oes rhaid inni dalu ychydig mwy,” meddai. Ar hyn o bryd, mae rhyw 60% o gynnyrch Natural Weigh ar gael mewn papur – ond maen nhw’n rhoi pwysau ar y cyflenwyr i newid. “Mae’n rhaid inni ddewis ar hyn o bryd,” yn ôl Robin “byddwn naill ai’n gwrthod unrhyw gynnyrch sy’n dod mewn deunyddiau pecynnu plastig mawr a gorfodi cwsmeriaid i siopa rhywle arall, neu rydym yn rhoi dewis iddyn nhw ddefnyddio eu blychau eu hunain sy’n golygu lleihad sylweddol os nad lleihad llwyr yn y gwastraff plastig yn gyffredinol.”

Ac mae Robin a Chloe yn teimlo’r un mor rhwystredig ynghylch cael hyd i gynnyrch organig a lleol – mae rhyw 10% o’u cynnyrch yn dod o’r ardal leol, gan gynnwys blawd traddodiadol o felin leol, a deodorant naturiol a gynhyrchir o fewn rhyw 20 milltir. Ond byddai Chloe yn hoffi gwneud mwy: “Ein blaenoriaeth oedd bod yn organig uwchben lleol neu Brydeinig hyd yn oed – ond ein huchelgais o hyd yw gwerthu cynnyrch organig a lleol.”

Yn ôl y cwpl, mae diddordeb enfawr gan siopwyr sydd am siopa mewn ffordd sy’n creu dim gwastraff ac yn gynaliadwy. “Mae llawer o’n cwsmeriaid yn gofyn o ble y daw ein bwyd, ac mae’n amlwg bod pobl yn awyddus i gael bwyd lleol a gynhyrchir mewn ffordd gynaliadwy trwy siopau fel un ni – ein gobaith yw y bydd y gadwn gyflenwi’n dal i fyny cyn bo hir”.

Ewch at wefan Natural Weigh: www.naturalweigh.co.uk.

 

Categorïau: Cyfleoedd i farchnata. Tagiau: local food, local markets, organic, Powys, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.